Prifysgol Metropolitan Caerdydd ydy'r cyntaf yn y sector i gael ei rhaglen radd israddedig BSC mewn Rheoli Chwaraeon ei chymeradwyo yn erbyn fframwaith safonau proffesiynol y sector chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Datblygwyd y rhaglen addysg uwch a gymeradwywyd gan CIMPSA (Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol) a'i bartneriaid addysg uwch dros y 18 mis diwethaf a'i dilysu gan gyflogwyr y sector. Drwy sicrhau bod cynnwys y rhaglen radd yn cyd-fynd â'r wybodaeth a'r sgiliau y mae gan gyflogwyr feddwl uchel ohonyn nhw, mae graddau a cadarnheir gan CIMPSA yn darparu graddedigion "yn barod at waith" gyda'r gallu i gamu i mewn i swydd gyntaf eu gyrfa.
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau gradd BSc Met Caerdydd mewn Rheoli Chwaraeon yn ennill gradd a gadarnhawyd yn erbyn safon proffesiynol Rheolwr Cyffredinol CIMPSA. Cam arloesol hefyd ydy alinio lefel sylfaen y radd â safon proffesiynol Rheolwr Mynediad. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr y cwrs yn cyflawni meincnod cyflogadwyedd cyn iddyn nhw raddio hyd yn oed – a hynny'n ei gwneud hi'n haws i drefnu lleoliadau profiad gwaith a fydd yn briodol i gyflogwyr ar gyfer myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd oedd un o'r prifysgolion cyntaf i bartneru â CIMPSA a buon nhw gweithio'n agos yn gyson gyda gwaith y corff proffesiynol – yn arwain ym maes cyflogadwyedd myfyrwyr a herio meincnodau cyfredol cyflogadwyedd y sector.
Dywedodd Leigh Robinson, y Dirprwy Is-Ganghellor "Mae system cadarnhau CIMPSA yn cynnig dull effeithiol i Met Caerdydd i ddarparu addysg uchel ei ansawdd ac eang ei heffaith ar gyfer ein graddedigion, a'r ffocws ar ymarfer sy'n gydnabyddedig yn y proffesiwn."
Dywedodd Richard Millar, Cadeirydd y bwrdd datblygiad proffesiynol: "Ar ran y bwrdd datblygiad proffesiynol a'r cyflogwyr yr ydyn ni'n eu cynrychioli, hoffen ni longyfarch Met Caerdydd ar eu cyflawniad a hefyd ddiolch i'r holl brifysgolion sydd wedi gweithio gyda CIMPSA am ei gwaith caled yn alinio'u rhaglen â safonau proffesiynol y sector; a fyddai'n caniatáu i raddedigion fod yn gyflogadwy yn syth ar ôl graddio."
Sylw Tara Dillon Prif Weithredwr CIMOSA oedd: "Hoffwn longyfarch Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar fod y cyntaf i gyrraedd y garreg filltir allweddol hon.
"Mae nod barcud cadarnhad CIMPSA y gall Met Caerdydd nawr ei ddefnyddio gyda'r radd hon yn symbol o ansawdd y gall rhieni a myfyrwyr ddibynnu arno i ddynodi ansawdd addysgol yn cynnig sgiliau byd eang a chyflogadwyedd."
I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.