Home>News>Ymweliad Is-Brif Weinidog Tsieina â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd

Ymweliad Is-Brif Weinidog Tsieina â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Chanolfan y Diwydiant  Bwyd (ZERO2FIVE) fel rhan o daith drwy'r DU i sefydlu gwell perthynas rhwng Tsieina a'r DU

Chinese Vice-Premier visiting Cardiff Met University

 

Ddoe, croesawodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd Hu Chunhua, Is-Brif Weinidog Gweriniaeth Pobl Tsieina, ynghyd ag uwch wleidyddion ac arweinyddion eraill o Weriniaeth Pobl Tsieina a Llywodraeth Cymru.

Yn ystod yr ymweliad cyntaf o'i fath yn achos y brifysgol, treuliodd Ei Ardderchowgrwydd, a'r uwch wleidyddion ac arweinyddion eraill, awr yn ymweld â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Met Caerdydd i ganfod mwy am waith y Ganolfan ym meysydd diogelwch bwyd a chynhyrchu yn ogystal ag yn y Labordy Profiad Canfyddiadol (PEL).

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE wedi bod yn cefnogi sector gweithgynhyrchu bwyd Cymru ers 25 mlynedd, yn arbennig ym maes mewn diogelwch bwyd a lleihau gwastraff, drwy raglen Prosiect HELIX Arloesi Bwyd Cymru sy'n werth £21 miliwn, gaiff ei hariannu gan Gynllun Datblygu Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

Roedd y ddirprwyaeth hefyd yn cynnwys Eluned Morgan AC, Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, Mr Nishi Dholakia, Gweinidog-Cynghorwr Polisi Economaidd a Masnach, Llysgenhadaeth Prydain Beijing a Chadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, Ilora Finlay, Y Farwnes Finlay o Landaf .

Wrth siarad am yr achlysur pwysig, dywedodd yr Athro Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, “Heddiw, rydym wrth ein bodd yn croesawu'r Is-Brif Weinidog Hu a'i gydweithwyr i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, gan gofio ein cysylltiadau cryf â Tsieina. Rydym yn ymfalchïo yng ngwaith ein Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac mae'r ymweliad hwn yn gydnabyddiaeth bellach bod gwaith y Ganolfan yn arferadwy ac yn drosglwyddadwy yn rhyngwladol.

“Mae dyfodol addysg uwch yn dibynnu ar gydweithredu a rhannu arbenigedd. Gyda mwy na 400 o fyfyrwyr Tsieineaidd wedi cofrestru ar raglenni Met Caerdydd, rydym yn mwynhau partneriaethau llwyddiannus gyda Tsieina, rhai rydyn ni'n awyddus i'w cynyddu ac mae'r ymweliad hwn yn garreg filltir bwysig yn y datblygiad hwnnw. ”

Dewiswyd campws Llandaf Caerdydd fel rhan o daith cenhadaeth fasnach ehangach yr Is-Brif Weinidog Hu i'r DU, ymweliad sy'n archwilio partneriaethau strategol ac economaidd agosach rhwng Tsieina a'r DU, gan ystyried yn benodol ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE: “Mae'n wir anrhydedd cael croesawu Is-Brif Weinidog Tsieina i Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE a rhannu ein harbenigedd mewn partneriaethau rheoli diogelwch bwyd, lleihau gwastraff a chyfnewid gwybodaeth.

“Rydym yn gweithio gyda thua 150 o gwmnïau o Gymru bob blwyddyn felly mae'n fraint i arddangos diwydiant bwyd a diod bywiog Cymru a'n dull helics triphlyg o gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant.

“Mae'n gyfle gwych i arddangos ein gwaith trwy arddangosiadau o ddatblygu cynnyrch newydd, proffilio thermal a rôl pH a dŵr sydd ar gael ym maes diogelwch bwyd ac oes cynnyrch ar y silffoedd.”

Mae Mr Hu yn un o'r arweinwyr Tsieineaidd uchaf i ymweld â Chymru ers i'r Is-Brif Weinidog Tsieineaidd Liu Yandong ymweld â'r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones yn 2015. Mae technoleg bwyd ac amaethyddiaeth yn feysydd o fewn cylch cyfrifoldebau Mr Hu ac mae cynhyrchu a diogelwch bwyd yn amcanion allweddol llywodraeth Tsieina.

Dywedodd Eluned Morgan AC, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru a'r Iaith Gymraeg: “Mae Cymru'n arwain y ffordd mewn hyfforddiant diogelwch bwyd. Rwy'n falch iawn bod yr Is-Brif Weinidog wedi cael y cyfle i ymweld â Chanolfan Arloesi Bwyd Zero2Five heddiw, sef un enghraifft yn unig o'r ymchwil academaidd a'r arbenigedd sydd gan Gymru i'w gynnig i Tsieina, ac yn arbennig i fyfyrwyr sy'n dod o Tsieina.”

Yn ystod ei ymweliad â'r DU, mynychodd yr Is-Brif Weinidog Hu Fforwm Ariannol flynyddol y DU a Tsieina, lle bu'n annerch y cynadleddwyr ar y cyfleoedd y mae Tsieina yn gynnig gan gynyddu pwysigrwydd economaidd ac ariannol ar gyfer y ddwy wlad i greu swyddi a thwf.

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.