Skip to content

Pêl-droed

A view from behind one of the goals on the 3G football pitch on a sunny day A view from behind one of the goals on the 3G football pitch on a sunny day
01 - 02

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd un o'r rhaglenni pêl-droed mwyaf unigryw yn y DU. Gyda dros 450 o fyfyrwyr-athletwyr gwrywaidd a benywaidd yn cystadlu drwy chwarae ar draws pêl-droed perfformio a hamdden, mae system bêl-droed Met Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn darparu cynnig cynhwysol i'w hathletwyr (myfyrwyr).

Mae llwyddiant yn rhan annatod ohonom, gyda chyflawniadau nodedig yn cynnwys:

Dyma rai o’n chwaraewyr sydd wedi dod drwy ein system yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

  • Sophie Ingle (Capten Cymru ac Enillydd Cynghrair y Pencampwyr gyda Chelsea FC)
  • Will Evans (Mansfield Town)
  • Adam Roscrow (AFC Wimbledon)

Yn ogystal â’r llwyddiannau hyn, mae gan y Clwb lwybr iau llewyrchus. Mae ein darpariaeth i ferched yn 1 allan o 11 yn unig yng Nghymru sydd wedi cael statws 'Academi'. Mae ein darpariaeth i fechgyn yn 1 allan o 5 ag 'Academi Categori A' yng Nghymru, sy'n cael ei chydnabod am ei gallu i gynnal darpariaeth ragorol ar gyfer chwaraewyr talentog. Mae'r Clwb hefyd yn cynnig rhaglen hamdden gynhwysfawr, gyda dros 150 o bobl wedi cofrestru ar gyfer Cwpan Alfie Wollett (dynion) a lansiad rhaglen newydd i fenywod wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd 25-26.

Nid yw’r cyfleoedd yng Nghlwb Pêl-droed Met Caerdydd yn gyfyngedig i berfformiad ar y cae yn unig. Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, gan gynnwys lleoliadau drwy gydol y tymor, cefnogaeth ar ddiwrnodau gemau, allgymorth cymunedol ac addysg hyfforddwyr.

Staff a Hyfforddwyr

Dr Chris Baker, Cyfarwyddwr System Bêl-droed, sy'n arwain ein rhaglen, a gefnogir gan nifer o staff rheoli a pherfformiad. Isod, mae rhestr o staff allweddol wedi'i rhestru:

  • Nick Vanderpump (Rheolwr Cyffredinol)
  • Jack Lyons (Rheolwr Gweithrediadau Academi ac Ieuenctid)
  • Eliot Evans (Arweinydd Clwb a Hyfforddi)
  • Stacey Ayling (Cydlynydd Pêl-droed Merched)
  • Ryan Jenkins (Rheolwr Perfformiad Tîm Cyntaf y Dynion)
  • Jonathan Nash (Prif Hyfforddwr Pêl-droed Merched)
  • Eliot Evans (Prif Hyfforddwr BUCS)
  • Craig Hanford (Hyfforddwr Tîm Cyntaf y Dynion)
  • Zeke Vivian (Hyfforddwr Cynorthwyol Pêl-droed Merched)
  • Anthony Williams (Prif Hyfforddwr y Gôl-geidwaid)
  • Jack Lyons (Prif Hyfforddwr y Tîm Datblygu)
  • Jen Larrick (Hyfforddwr Merched dan 19 oed)

Rhaglen Berfformio

Mae ein hathletwyr gwrywaidd a benywaidd yn cystadlu ar draws cystadlaethau Uwch Gynghrair BUCS a’n cystadlu’n ddomestig. Mae ein carfan perfformiad dynion yn cystadlu'n flynyddol yn Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru a Chwpan y Gynghrair. Mae cymryd rhan ym mhrif haen bêl-droed Cymru yn rhoi'r cyfle i gymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Ewropeaidd; camp a gyflawnwyd ddiwethaf gan y Clwb yn 2019. Yn ogystal, mae gan y Clwb hanes cyfoethog mewn cystadlaethau BUCS, gan gael eu coroni'n Bencampwyr Cenedlaethol ar ddau achlysur. Mae ein carfan perfformiad menywod wedi bod yr un mor llwyddiannus, gan ennill BUCS ar chwe achlysur, cael eu coroni'n bencampwyr Cymru ddwywaith a chystadlu yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA ar ddau achlysur.

Mae athletwyr perfformiad ym Met Caerdydd yn cael eu cefnogi i gyflawni llwyddiant ar y lefel uchaf posibl o fewn y gamp.  Mae'r gefnogaeth a ddarperir yn dibynnu ar lefel perfformiad yr athletwr, gydag athletwyr yn ffitio i ddwy haen o gefnogaeth: Haen 1 – ‘Archers Perfformiad' a Haen 2 – 'Archers Llwybr'.

Yn ogystal â manteisio ar fynediad at amseroedd hyfforddi unigryw mewn cyfleusterau perfformio, mae aelodau'r rhaglen berfformio yn derbyn cyfoeth o ddarpariaethau cymorth, gan gynnwys sylw ar draws y meysydd canlynol:

  • Ffisiotherapi
  • Therapi Meinwe Meddal
  • Amlygiad i Hyfforddi Trwydded-Pro
  • Dadansoddiad Perfformiad
  • Cryfder a Chyflyru
  • Cymorth Ffordd o Fyw ac Addysg Athletwr Perfformiad
  • Ffisioleg
  • Biomecaneg
  • Seicoleg
  • Maeth

Rhoddir ysgoloriaethau i athletwyr sy'n perfformio'n uchel fel gwobr ariannol bob blwyddyn. Mae ysgoloriaethau ar gael yn rhwydd i athletwyr benywaidd, ac anogir ceisiadau cynnar.

Mae carfan Uwch Gynghrair Cymru yn chwarae o fewn cynghrair broffesiynol lle mae pob chwaraewr dros 19 oed wedi'i gontractio ac yn derbyn tâl. Mae ysgoloriaethau ar gael i athletwyr gwrywaidd o dan amgylchiadau eithriadol ac yn cael eu hadolygu fesul achos.

Mae ein staff yn nodi ysgolheigion posibl fel rhan o'r cylch derbyn a thrwy geisiadau a wneir am Ysgoloriaethau Chwaraeon Perfformiad.

Mae Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad Met Caerdydd yn manylu ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer athletwyr sydd â diddordeb mewn cystadlu o fewn y llwybr perfformiad. Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â chynigion cyd-destunol ar gael trwy ein Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad.

Dylid anfon ymholiadau sy'n ymwneud â phêl-droed perfformiad at cbaker3@cardiffmet.ac.uk

Clwb

Yn ogystal â’n carfannau perfformiad mae gennym dimau sy'n cystadlu mewn cynghreiriau BUCS a chynghreiriau domestig. Mae ein darpariaeth i ddynion yn cynnwys 5 tîm BUCS ychwanegol, tra bod gan ein llwybr i fenywod un garfan ychwanegol. Yn ddomestig, mae ein darpariaeth dynion yn cynnwys carfannau dan 21 a dan 19; mae'r olaf yn cystadlu'n flynyddol i ennill lle yng Nghynghrair Ieuenctid UEFA. Mae ein darpariaeth i fenywod hefyd yn cynnwys carfan dan 19 oed. Cynhelir treialon yn flynyddol ar gyfer dewis carfan, lle bu modd symud i fyny neu i lawr y llwybr, yn seiliedig ar berfformiad.

Iau

Mae gan y system bêl-droed ddarpariaeth iau, uchel ei pharch, gyda dros 300 o gyfranogwyr. Mae ein llwybr llewyrchus yn cynnwys 5 tîm merched a 10 tîm bechgyn. Mae ein darpariaeth i ferched yn un o ddim ond 11 yng Nghymru sydd wedi cael statws 'Academi'. Mae ein darpariaeth i fechgyn yn un o ddim ond 5 'Academi Categori A' yng Nghymru, sy'n cael ei chydnabod am ei gallu i gynnal darpariaeth ragorol ar gyfer chwaraewyr talentog. Mae'r system bêl-droed yn gweithio ar y cyd ag Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Reoli Caerdydd i ddarparu cyfleoedd lleoliadau i fyfyrwyr ar draws nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys hyfforddi, rheoli, y cyfryngau, marchnata a gwyddor chwaraeon.

Hamdden

Mae'r Clwb hefyd yn cynnig rhaglen hamdden gynhwysfawr, gyda dros 150 o bobl wedi cofrestru ar gyfer Cwpan Alfie Wollett (dynion) a lansiad rhaglen newydd i fenywod wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd 25-26.

Nid yw’r cyfleoedd yng Nghlwb Pêl-droed Met Caerdydd yn gyfyngedig i berfformiad ar y cae yn unig. Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, gan gynnwys lleoliadau drwy gydol y tymor, cefnogaeth ar ddiwrnodau gemau, allgymorth cymunedol ac addysg hyfforddwyr.

Digwyddiadau (Blynyddol)

Mae'r system bêl-droed yn cynnal digwyddiadau trosi a gweminarau blynyddol i roi cipolwg i ddarpar fyfyrwyr ar bêl-droed ym Met Caerdydd. Fel isafswm, bydd y system bêl-droed yn cynnal: