Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae prentisiaeth gradd BSc Gwyddor Data Cymhwysol yn canolbwyntio ar ddata, ac yn meithrin gallu prentisiaid i echdynnu mewnwelediadau, gwybodaeth a deallusrwydd o'r pwyntiau data cymhleth sydd bellach yn gyffredin ym myd busnes.
Mae’r Brifysgol wedi gweithio’n agos â diwydiant i greu senarios ac asesiadau heriol gwirioneddol ar gyfer amgylchedd dysgu’r prentis, er mwyn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau y bydd galw mawr amdanynt yn y dyfodol, gan lenwi bylchau sgiliau rhanbarthol.
Bydd prentisiaid yn astudio un diwrnod yr wythnos yn ystod y cyfnod addysgu academaidd, gan dreulio’r pedwar diwrnod arall mewn swydd. Darperir y cwrs dros gyfnod o flwyddyn academaidd estynedig, sy’n cynnwys wythnosau penodol ar gyfer datblygu sgiliau, a chymhwyso dysgeidiaethau craidd dysgu seiliedig ar waith. Bydd prentisiaid yn cyflawni eu dyfarniad o fewn yr un cyfnod â myfyriwr amser llawn arferol, gan leihau’r gost cyfle i gyflogwyr a sicrhau bod anghenion cyflogwyr yn y dyfodol o ran sgiliau yn cael eu diwallu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Hanfodion Rhaglennu
- Cyfathrebu Data
- Hanfodion Gwyddor Data
- Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Delweddu Data
- Hanfodion Blockchain
- Gwyddor Data Cymhwysol
- Rheoli Data Mawr
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
- Data Mawr a Chyfrifiadura Dosbarthedig
- Dadansoddeg Gymdeithasol
- Deallusrwydd Artiffisial
- Prosiect Prentisiaeth
Dull Cyflwyno’r Cwrs
Gweithdai
Gweithdai ymarferol yw’r prif ddull addysgu, a ddefnyddir yn helaeth ar draws y rhaglen BSc Gwyddor Data Cymhwysol. Yn y dosbarthiadau hyn mae prentisiaid yn gallu ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant dderbyn adborth gan aelod o staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn cynrychioli pontio gwerthfawr rhwng theori a’r gweithle.
Astudiaethau Achos
Mae astudiaethau achos yn strategaeth gyffredin mewn addysgu a dysgu, a ddefnyddir mewn ystod o fodiwlau, yn enwedig fel offeryn asesu. Cyflwynir problemau cymhleth gwirioneddol neu efelychiadol i brentisiaid, neu gofynnir iddynt ddatblygu problemau o’r fath, a gofynnir iddynt eu dadansoddi’n fanwl a syntheseiddio/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Strategaethau Dysgu
Disgwylir i brentisiaid gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain wrth iddynt symud ymlaen drwy eu rhaglenni. Mae strwythur y cwrs a’r strategaethau addysgu arfaethedig wedi’u cynllunio i annog y datblygiad hwn. Anogir y dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr wrth ddefnyddio strategaethau addysgu penodol; astudiaethau achos; prosiectau; ymarferion ymarferol, a ategir gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol; fideos; meddalwedd gyfrifiadurol; ac ati. Mae ymgysylltiad gweithredol â’r deunydd pwnc yn cyfoethogi’r dysgu, ac mae llawer o’r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.
Cefnogaeth
Bydd mentor gradd-brentisiaeth wedi’i leoli yn yr Ysgol Dechnolegau yn cael ei bennu ar gyfer pob gradd-brentis, a fydd yn cyfarfod â’r prentis a’r cyflogwr bob dau fis. Bydd y mentor gradd-brentisiaeth hefyd wrth law i roi cyngor ac arweiniad i’r prentis yn ôl yr angen trwy gydol eu hastudiaethau.
Technoleg a Chyfleusterau
Addysgir y cwrs yn bersonol 1 diwrnod yr wythnos am 24 wythnos y flwyddyn ar gampws Llandaf y Brifysgol. Cefnogir y dysgu gan amgylchedd dysgu rhithwir Moodle y Brifysgol lle bydd amrywiaeth o adnoddau dysgu yn cael eu storio.
Mae asesiadau’n ymwneud yn uniongyrchol â deilliannau dysgu, ac fel arfer, mae un asesiad yn cwmpasu ystod o ddeilliannau o’r fath.
Cynhelir asesiadau ar ffurf profion dosbarth (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau (yn bersonol, fideo, poster), chwarae rôl, adroddiadau unigol a grŵp, a phrosiect traethawd hir y brentisiaeth. Mae asesiadau wedi’u cynllunio i fod yn ddilys, ac wrth ddefnyddio asesu ffurfiannol gydag adborth aml, byrdymor yn gynnar yn y cwrs, mae’r strategaeth asesu wedi’i chynllunio i annog prentisiaid ac i ddatblygu eu hyder.
Yn ogystal â’r strategaethau dysgu ac addysgu y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol, disgwylir i brentisiaid ddangos cymwyseddau ac ymddygiad proffesiynol yn y gweithle. Cytunir ar gynllun dysgu tair ffordd rhwng y cyflogwr, y prentis a’r Brifysgol a fydd yn rhoi manylion yr hyfforddiant mewn swydd a’r cymwyseddau proffesiynol a nodir yn y fframwaith prentisiaeth perthnasol. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu fel rhan o’r broses diweddaru cynnydd bob dau fis ac maent yn benodol i’r cyflogwr unigol (megis arferion gwaith, strwythur a phrosesau’r cwmni, sefydlu, ac ymddygiad proffesiynol).
Disgwylir i brentisiaid fod mewn swydd amser llawn berthnasol, ac i gymhwyso dysgu perthnasol yn eu gweithle trwy brosiectau cymhwysol a defnyddio enghreifftiau o’r byd gwirioneddol yn eu hasesiadau.
Bydd cymwyseddau sy’n ychwanegol i nodau gwybodaeth y rhaglen yn cael eu hasesu yn y gweithle gan y cyflogwr; yn benodol, ymddygiad proffesiynol, iechyd a diogelwch, a rolau, cyfrifoldebau ac arferion gwaith y cwmni. Ceir tystiolaeth o hyn gan y mentor gradd-brentisiaeth yn ystod y cyfarfodydd cynnydd tair ffordd trwy gydol y rhaglen.
Bydd prentisiaid yn cael llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod o fentrau cymorth cyflogadwyedd perthnasol a gynigir gan y Brifysgol, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi datblygiad gyrfa yn y dyfodol. Bydd cwblhau’r radd-brentisiaeth yn llwyddiannus yn paratoi prentisiaid i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol o fewn eu maes perthnasol.
Caiff swyddi gwag ar gyfer gradd-brentisiaethau eu hysbysebu a’u rheoli gan gyflogwyr. Mae’r Brifysgol yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid sy’n gyflogwyr ledled Cymru.
Rhaid i ymgeiswyr fod mewn swydd amser llawn berthnasol mewn rôl sy’n alinio â Manyleb Fframwaith Gradd-brentisiaethau Digidol Cymru ar gyfer Gwyddor Data Cymhwysol.
Gwneir penderfyniadau ar fynediad i’r rhaglen hon mewn partneriaeth rhwng y Brifysgol a’r cyflogwr, gan sicrhau bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion mynediad academaidd safonol yn ogystal â’r gofynion mynediad proffesiynol a gofynion mynediad y cyflogwr sy’n amrywio rhwng cyflogwyr. Bydd hyn yn cael ei benderfynu cyn i gais gael ei wneud, gan yr Arweinydd Gradd-brentisiaethau, y cyswllt diwydiant o fewn tîm y rhaglen, a chynrychiolydd y cyflogwr. Mae pob prentis yn ymrwymo i gytundeb dysgu tair ffordd pan gânt eu derbyn i’r rhaglen.
Cysylltwch ag apprenticeships@cardiffmet.ac.uk os ydych mewn rôl berthnasol, mae gennych gefnogaeth eich cyflogwr, ac rydych yn dymuno gwneud cais. Rhoddir gwybod i chi am y broses ac anfonir gwybodaeth atoch ynghylch gwneud cais.
Gofynion Mynediad Dangosol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau blwyddyn 1 y radd.
- Pwyntiau tariff: 104-112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau CCC. Nid oes angen pynciau penodol. Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch fel trydydd pwnc.
- BTEC Cenedlaethol / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod. Nid oes angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Nid oes angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol: 2 x H5. Nid oes angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x radd H2. Nid oes angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Nid oes angen pynciau penodol.
Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydynt yn bodloni’r gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cyrsiau UCAS.
Os ydych chi’n ymgeisydd aeddfed, gyda phrofiad perthnasol neu ddysgu blaenorol yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â’r tîm prentisiaethau drwy apprenticeships@cardiffmet.ac.uk i gael trafodaeth bellach.
Mynediad gan Gydnabod Dysgu Blaenorol
Gall prentisiaid â chymhwyster HND/C priodol neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol gael eu hystyried ar gyfer mynediad uniongyrchol i flynyddoedd 2 neu 3 neu eithriad. Gall profiad gwaith a ddangosir trwy broses Cydnabod Dysgu Profiadol Blaenorol y Brifysgol hefyd ganiatáu mynediad uniongyrchol neu eithriad. Cyfeiriwch at y wybodaeth am weithdrefnau Cydnabod Dysgu Blaenorol Met Caerdydd a cysylltwch ag holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.
Yn ogystal, mae’r Ysgol yn derbyn prentisiaid â chymwysterau penodol o sefydliadau partner cymeradwy. Mewn achosion o’r fath, bydd cynnwys y cwrs a’r sefydliad wedi’u harchwilio a’u cymeradwyo gan yr Ysgol.
Gofynion Iaith Saesneg
Gofynion Iaith Saesneg: Ar gyfer prentisiaid rhyngwladol, nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf.
Ar gyfer ymholiadau ynglyn â'r cwrs, cysylltwch â Tara Williams, Arweinydd Gradd-brentisiaethau.
E-bost: apprenticeships@cardiffmet.ac.uk
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.