Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein tystysgrif sylfaen mewn chwaraeon yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd prifysgol.
Mae’r dystysgrif yn darparu llwybr clir i fyfyrwyr symud ymlaen i’n rhaglenni gradd chwaraeon o fewn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd.
Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd astudio dilynol. Mae’n cynnig y cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, meithrin eich gwybodaeth a gwella eich hyder. Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu cael mynediad at flwyddyn gyntaf unrhyw un o’r graddau chwaraeon a gynigir yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd.
Rydym yn eich croesawu i astudio blwyddyn sylfaen os ydych o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol, gan gynnwys:
- Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
- Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
- Os nad ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
- Os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd
Mae modiwlau’r sgiliau craidd yn cael eu hategu gan fodiwlau penodol i chwaraeon sy’n eich paratoi ar gyfer astudio yn y maes yr hoffech symud ymlaen iddo, gan gynnwys Rheoli Chwaraeon ar gyfer Cyfranogiad, Seiliau Hyfforddi ac Addysgeg, Seiliau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Materion Cyfoes mewn Chwaraeon.
Mae’r dystysgrif sylfaen yn berthnasol i unrhyw un o’r graddau chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd gan gynnwys:
- BSc (Anrh) Hyfforddiant Chwaraeon
- BSc (Anrh) Rheoli Chwaraeon
- BSc (Anrh) Cyfryngau Chwaraeon
- BSc (Anrh) Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon
- BSc (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
- BSc (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dawns)
- BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- BSc (Anrh) Cyflyru Chwaraeon, Adferiad a Thylino
- BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Ddwyieithog
Bydd y rhaglen sylfaen yn datblygu eich hyder a’ch cymhwysedd wrth gaffael y sgiliau astudio sydd eu hangen i gychwyn ar radd israddedig sy’n seiliedig ar chwaraeon, gan eich cyflwyno i ystod sylfaenol o wybodaeth y gallwch adeiladu arni, naill ai drwy’r broses o hunanastudio neu mewn rhaglenni pellach o astudiaeth gyfeiriedig. Byddwch wedi’ch integreiddio’n llawn i fywyd prifysgol a chymuned y myfyrwyr o’r diwrnod cyntaf.
Mae’r rhaglen yn cynnwys chwe modiwl Lefel 3 20 credyd fel a ganlyn:
Tymor 1
- Sgiliau Academaidd (20 credyd)
- Seiliau Hyfforddi ac Addysgeg (20 credyd)
- Rheoli Chwaraeon ar gyfer Cyfranogiad (20 credyd)
Tymor 2
- Seiliau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd)
- Materion Cyfoes mewn Chwaraeon (20 credyd)
- Prosiect Ymchwil (20 credyd)
Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i amcanion addysgol a chanlyniadau dysgu ein holl raddau a modiwlau. Mae dulliau dysgu ac addysgu o fewn y rhaglen chwaraeon yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, siaradwyr gwadd ac ymweliadau diwydiannol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o’r pecyn dysgu sy’n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sy’n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel. Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu beirniadol ac yn annog integreiddio ymarfer a damcaniaeth. Drwy gydol eich gradd byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan gynyddu eich annibyniaeth a’ch myfyrdod, a’ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.
Mae tîm amrywiol yma i gefnogi eich datblygiad drwy gydol y rhaglen. Cyfarwyddwr y Rhaglen sy’n gyfrifol am arweinyddiaeth, trefniadaeth a gweithrediad cyffredinol y rhaglen. Bydd Arweinwyr Modiwlau yn cydlynu cyflwyno ac asesu pob modiwl. Bydd eich Tiwtor Academaidd Personol yn cael ei neilltuo i chi yn ystod yr wythnos gyntaf ac yn bwynt cyswllt cyntaf i chi ar gyfer unrhyw anawsterau a allai fod gennych a’ch cefnogi mewn modiwlau allweddol. Cynhelir tiwtorialau bugeiliol unigol yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen, er mwyn sicrhau bod cyfle gennych i drafod y materion sydd bwysicaf i chi.
Dulliau Asesu
Caiff y rhaglen sylfaen ei hasesu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o arholiadau/profion dosbarth a gwaith cwrs, ac mae’n ofynnol i fyfyrwyr roi cynnig ar bob elfen o’r asesiad er mwyn cwblhau’r modiwlau’n llwyddiannus. Bydd dadansoddiad o’r patrwm asesu ar gyfer pob modiwl yn cael ei gadarnhau gyda myfyrwyr gan arweinwyr y modiwl yn yr Wythnos Sefydlu. Cyflwynir y meysydd hyn eto yn fanylach yn ystod wythnos gyntaf yr addysgu a’u harchwilio drwy gydol y flwyddyn.
Rheoliadau’r Rhaglen, Presenoldeb a Chodau Ymarfer
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn addysgu, ymgymryd â’r holl asesiadau a dangos parch at eu cyfoedion, tiwtoriaid a’r sefydliad. Bydd canllawiau llawn ar fanylion penodol y rheoliadau/codau ymarfer hyn a ble i ddod o hyd i’r wybodaeth yn sail i’r sesiynau a gynhelir yn ystod Wythnos Sefydlu. Mae’n bwysig bod pawb yn mynychu’r sesiynau hyn.
Cefnogaeth i Fyfyrwyr a’u Dysgu
Bydd nifer o werslyfrau ar gyfer pob un o’r modiwlau yn cael eu hargymell i chi ar ddechrau’r addysgu.
Darperir ystod o gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n cynnwys y ddarpariaeth ganlynol:
- Creu amgylchedd dysgu cefnogol
- Manylion cyn-gofrestru a rhaglen gynhwysfawr yr wythnos groeso
- Llawlyfr myfyrwyr israddedig Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Llawlyfr rhaglen myfyrwyr a chanllawiau manwl ar fodiwlau
- Pecynnau llyfrgell a sgiliau astudio
- Llyfrgell ac adnoddau dysgu
- Cyfleusterau TG, gan gynnwys Moodle VLE a llwyfannau ar-lein eraill
- Cyswllt rheolaidd â’ch Tiwtor Academaidd Personol i gefnogi eich datblygiad
- Cyfleusterau chwaraeon arbenigol gan gynnwys labordai gwyddor chwaraeon ac ystod amrywiol o gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored
- Sesiynau pwrpasol i gefnogi cynnwys modiwl Lefel 3
- Mynediad at ystod o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr
Mae asesiadau wedi’u cynllunio i gefnogi eich profiad dysgu drwy roi cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi eich gwybodaeth, eich gallu, eich sgil, a dechrau datblygu dealltwriaeth feirniadol o fyd chwaraeon.
Caiff y rhaglen sylfaen ei hasesu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o waith ymarferol, gwaith cwrs, portffolios a chyflwyniadau. Mae’n ofynnol i chi roi cynnig ar bob elfen o’r asesiad er mwyn cwblhau’r modiwlau’n llwyddiannus. Bydd dadansoddiad o’r patrwm asesu ar gyfer pob modiwl yn cael ei gadarnhau gan arweinwyr y modiwl yn yr Wythnos Groeso. Cyflwynir y meysydd hyn eto yn fanylach yn ystod wythnos gyntaf yr addysgu a’u harchwilio drwy gydol y flwyddyn.
Mae natur y sylfaen mewn chwaraeon yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddangos gwybodaeth a sgiliau damcaniaethol (ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a dod yn feddyliwr beirniadol) a chymhwysol (ymarferol, hyfforddi a chyflwyno), ac felly mae asesiadau o fewn y rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys asesiadau damcaniaethol ac asesiadau ymarferol mewn lleoliadau cymhwysol. Mae’r ystod amrywiol a blaengar hon o ddulliau asesu wedi’i chynllunio i ddatblygu’r holl sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y graddau chwaraeon israddedig blwyddyn gyntaf a’ch cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau a restrir yn yr adran ‘Cynnwys y Cwrs’ ar y dudalen we hon.
I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r graddau hyn, cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs unigol.
Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod â phum TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch ynghyd ag un o’r canlynol:
- 32 pwynt o ganlyniad i o leiaf 2 gymhwyster Safon Uwch neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch ym Mlwyddyn 1, ond mewn meysydd pwnc sy’n methu â bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer eu rhaglen gradd israddedig arfaethedig.
- 32 pwynt o ganlyniad i o leiaf 2 gymhwyster Safon Uwch neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt mewn meysydd pwnc sy’n berthnasol i’w rhaglen gradd israddedig arfaethedig, ond ar safon sy’n methu â bodloni’r gofynion mynediad i Addysg Uwch ym Mlwyddyn 1.
Gellir ystyried darpar fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod ar sail unigol a byddant yn cael eu galw i gyfweliad.
* Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydynt yn bodloni ein gofynion sylfaenol. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwilio am Gyrsiau UCAS. Mae rhagor o wybodaeth am gymwysterau Tramor ar gael yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ynglŷn â sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol.
Sut i Wneud Cais
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma.
Myfyrwyr Hŷn
Ymgeisydd hŷn yw unrhyw un dros 21 oed, nad aeth i’r brifysgol ar ôl ysgol na choleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn a gellir dod o hyd i ragor o gyngor a gwybodaeth yma.
Am ymholiadau Derbyniadau, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost at holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Am ymholiadau penodol i gyrsiau, cysylltwch â Thîm Cymorth y Rhaglen:
- E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk
Am ymholiadau ynghylch y rhaglenni gradd unigol, cyfeiriwch at dudalennau’r cyrsiau unigol am fanylion cyswllt.
-
Cod UCAS
Mae gan bob cwrs gradd ei god UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. I gael y cod UCAS perthnasol, dilynwch y dolenni i'r cwrs rydych am ei astudio a restrir o dan 'Cynnwys y Cwrs', a gwnewch gais ar wefan UCAS.
-
Lleoliad
Campws Cyncoed
-
Ysgol
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
-
Hyd
1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.