Gwybodaeth cau dros y Nadolig
Bydd ein swyddfeydd ar gau o 5yh ddydd Mawrth, 23 Rhagfyr ar gyfer cyfnod yr ŵyl, a byddwn yn dychwelyd ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.
Rydym yn disgwyl y bydd llawer o staff yn dechrau eu gwyliau blynyddol ar ôl dydd Gwener, 19 Rhagfyr a bydd y gwasanaethau sydd ar gael ar y campws yn gyfyngedig iawn ar ddydd Llun, 22 a dydd Mawrth, 23 Rhagfyr.
Os byddwch yn cyflwyno cais yn ystod cyfnod yr ŵyl, byddwn yn prosesu hyn ar ôl dychwelyd.
Os oes angen cymorth arnoch yn y cyfamser, edrychwch ar ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr i gael arweiniad defnyddiol ar beth i'w ddisgwyl ar ôl i chi wneud cais.
Bydd llyfrgelloedd y ddau gampws yn cau am 5yh ddydd Gwener, 19 Rhagfyr ac yn ailagor am 8:30yb ddydd Llun, 5 Ionawr. Bydd ein mannau llawr gwaelod 24 awr yn aros ar agor trwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Bydd Met Heini yng Nghyncoed yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod rhwng 9yb a 2yp bob dydd, gan gau rhwng 24 a 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr i 1 Ionawr yn unig.
Gall ein myfyrwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wasanaethau a chymorth yn ystod y cyfnod gwyliau ar Met Canolog. Mae gwybodaeth i staff ar InSite.
Cyfarchion y tymor a Blwyddyn Newydd Dda gennym ni i gyd ym Met Caerdydd.