Skip to content

Achrediadau Ysgol Reoli Caerdydd

Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn cael ei chydnabod yn fyd-eang am ragoriaeth addysg fusnes. Rydym wedi ein cysylltu'n dda â’r byd busnes ac wedi ymrwymo i'ch datblygu'n raddedigion sy'n barod ar gyfer y diwydiant.

Nid yn unig y mae achrediadau proffesiynol yn adlewyrchu ansawdd ein haddysg fusnes ond gallant hefyd roi mynediad unigryw i chi i rwydweithiau diwydiant, aelodaethau myfyrwyr, ac eithriadau o arholiadau proffesiynol i'ch helpu i gychwyn eich gyrfa gyda hyder.

 

Siarter Busnesau Bach

Small Business Charter Logo

Ni oedd yr ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu gan y Siarter Busnesau Bach. Mae'r wobr fawreddog hon yn cydnabod ein cefnogaeth ragorol yn genedlaethol i fusnesau bach ac entrepreneuriaid, yn ogystal â'n ffocws cryf ar gyflogadwyedd myfyrwyr drwy addysg ac arweiniad o ansawdd uchel, wedi'u teilwra. 

System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS)

Logo - BSIS Partners

Ni hefyd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru, a'r drydedd yn y DU, i ennill label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheoli (EFMD) am ein heffaith economaidd gadarnhaol ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)

Chartered Institute of Personnel and Development CIPD Logo

Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn ganolfan gymeradwy broffesiynol gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Mae ein MSc Rheoli Adnoddau Dynol wedi'i achredu gan CIPD, a byddwch yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Gysylltiol ar ôl graddio. 

Sefydliad Siartredig Marchnata (CMI)

CIM Accredited Degree Logo

Mae ein holl raddau Marchnata israddedig ac ôl-raddedig wedi'u hachredu gan y corff marchnata proffesiynol blaenllaw, sef y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM). Bydd cyfle gennych i gael eithriadau o gymwysterau proffesiynol CIM ar ôl graddio. Mae gan ein gradd BA (Anrh) Rheoli Marchnata statws 'Rhaglen Cyflogadwyedd' CIM hefyd.

Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI)

Chartered Management Institute Logo

Mae ein Meistr Gweithredol mewn Gweinyddu Busnes (MBA) wedi'i ddatblygu gyda'r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI) ac mae'n cynnig Aelodaeth Gysylltiol i chi ar ôl graddio. Mae ein cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth 20Twenty hefyd yn cynnig cyfleoedd i ennill amrywiaeth o gymwysterau CMI.

Y Sefydliad Lletygarwch

The Institute of Hospitality Accredited Logo

Mae ein holl raddau israddedig Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau wedi'u hachredu'n broffesiynol gan y Sefydliad Lletygarwch (IOH), gan gydnabod eu bod yn bodloni safonau diwydiant byd-eang a byddant yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth i ffynnu ledled y byd.

Y Sefydliad Rheoli Twristiaeth

Tourism Management Institute Logo

Mae ein gradd Rheoli Twristiaeth Ryngwladol wedi'i hachredu gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth (TMI) a gallwch elwa o aelodaeth myfyrwyr TMI am bris gostyngol.

ACCA, CIMA, ICAEW

ACCA, CIMA, ICAEW Logos

Mae ein graddau Cyfrifeg israddedig wedi'u hachredu gan ACCA, CIMA ac ICAEW. Dechreuwch eich taith i statws Cyfrifydd Siartredig gydag eithriadau sylweddol ar gael o arholiadau proffesiynol.

Y Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol (RAeS)

Royal Aeronautical Society Logo

Mae ein gradd Rheoli Hedfan yn un o'r unig raddau israddedig Rheoli Hedfan yn y byd sydd wedi'u cymeradwyo gan y Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol (RAeS) a gallwch elwa o aelodaeth myfyrwyr RAeS am ddim. Hefyd gallwch gael fynediad at ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.

Y Sefydliad Marchnata Digidol (DMI)

Digital Marketing Institute Accredited Logo

Mae ein gradd Rheoli Marchnata Digidol hefyd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Digidol (DMI) a byddwch yn dod yn aelod o DMI ac yn cael cymhwyster Cymrawd Marchnata Digidol Ardystiedig DMI (CDMA) ar ôl graddio. 

Y Sefydliad Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT)

The Chartered Institute of Logistics and Transport

Mae ein MSc Rheoli Cadwyn Gyflenwi a Logisteg Rhyngwladol wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) ac mae'n cynnig eithriad o'r gofynion addysg ar gyfer Aelodaeth (MILT) neu Aelodaeth Siartredig (CMILT) ar ôl graddio.  

Aelodaethau Ysgol Reoli Caerdydd 

Drwy ein haelodaethau proffesiynol, rydym yn rhannu arfer gorau a mewnwelediadau gyda rhwydwaith byd-eang o ysgolion busnes blaenllaw:

 

AACSB Member Logo
EFMD Logo
Chartered Association of Business School Logo
ABTA Education Partner Logo
The Power of Events Logo
Association for Events Management Education
ABPCO Academic Partner 2024 Logo