Cynradd - TAR

VIEW THIS PAGE IN ENGLISH

Os oes gennych chi radd ac angerdd dros ddysgu a diddordeb mewn gyrfa fel athro cynradd, dyma'r cwrs i chi! Cwrs blwyddyn sy'n arwain at statws athro cymwysedig yw'r radd TAR Addysg Cynradd.  Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus ac arloesol sy'n gallu myfyrio'n feirniadol ac sy'n ymrwymedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc. 

Noder: Mae cyrsiau AGA yng Nghymru wedi cwblhau proses achredu Cyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar). Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cyrsiau AGA TAR Cynradd a TAR Uwchradd fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.  

Mae nodweddion unigryw'r cwrs yn cynnwys

  • 60 credyd ar lefel Meistr y gellir eu defnyddio tuag at MA mewn Addysg  

  • Profiadau yn y brifysgol ac mewn ysgolion sy'n hyfforddi athrawon dan hyfforddiant i addysgu Cwricwlwm Cymru ar draws yr amrediad oedran 3-11  

  • Mae myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer cymhwyster TAR a gydnabyddir yn eang ledled y Deyrnas Unedig a gweddill y byd 

  • Ymarfer clinigol sy'n seiliedig ar ymchwil lle mae cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio theori i roi ymarfer ar brawf ac i'r gwrthwyneb  

  • Diwylliant dysgu cefnogol a chydweithredol  

  • Diwrnodau hyfforddi dan arweiniad ysgolion a nodwyd fel darparwyr addysg a datblygiad proffesiynol blaenllaw  

  • 'Diwrnod dychwelyd' i'r brifysgol a/neu ysgolion arweiniol y bartneriaeth bob wythnos i atgyfnerthu a chydlynu dysgu  

  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu traws-gyfnod gyda'n rhaglen TAR Uwchradd  

  • Cyfleoedd cyfoethogi sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i adeiladu ar gryfderau a datblygu sgiliau dysgu ac arwain arloesol, cydweithredol a phroffesiynol.  

  • Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg yr holl athrawon dan hyfforddiant yn seiliedig ar eu profiad a'u hanghenion unigol  

​Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Met Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu o fewn Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, sef yr unig ddarparwr hyfforddiant TAR yn Ne-ddwyrain Cymru i gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.   

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Met Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, gan gydweithio â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau y bydd ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyrraedd y safonau proffesiynol ar gyfer SAC ond yn ceisio gwneud mwy na hynny drwy addysg broffesiynol o safon uchel sy'n ymarferol drylwyr ac yn ddeallusol heriol.  

Dysgwch fwy am Bartneriaeth Caerdydd

​Cynnwys y Cwrs​​

Bydd cyfanswm o 120 diwrnod yn cael eu treulio mewn ysgol yn ystod blwyddyn y TAR Cynradd. Bydd 15 o'r diwrnodau'n cael eu treulio mewn cynghreiriau/ysgolion arweiniol y bartneriaeth lle bydd athrawon dan hyfforddiant yn gallu canolbwyntio ar agweddau allweddol ar addysgeg dan law darparwyr blaenllaw addysg a datblygiad proffesiynol yn y sector cynradd. Bydd profiadau dysgu seiliedig ar waith a phrofiadau dysgu yn y Brifysgol yn cael eu hintegreiddio'n agos a bydd strwythur y rhaglen (un diwrnod yr wythnos yn y brifysgol/LPS/A a phedwar diwrnod yr wythnos ar ymarfer clinigol) yn hwyluso hyn. 

Mae'r rhaglen TAR Cynradd yn cynnwys tri modiwl: 

Ymarfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 1 (30 credyd ar lefel 6)

Mae'r modiwl hwn yn seiliedig yn yr ysgol yn bennaf ac mae'n digwydd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn academaidd. Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu mewn tîm ac addysgu'n annibynnol am tua 45% o'r amser. Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd ar gyfer arsylwi, ymchwil ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu. Mae'r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 

Ymarfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 2 (30 credyd ar lefel 6)

Mae'r modiwl hwn yn seiliedig yn yr ysgol yn bennaf ac mae'n digwydd yn ystod ail hanner y flwyddyn academaidd. Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu'n annibynnol yn bennaf am tua 65% o'r amser. Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd ar gyfer arsylwi, ymchwil ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu. I'r rhan fwyaf o athrawon dan hyfforddiant, bydd cyfle i ymgymryd â 15 diwrnod ar ddiwedd y modiwl lle byddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi i adeiladu ar eu cryfderau/meysydd i'w datblygu sydd yn gysylltiedig ag arloesi ac arweinyddiaeth fel arfer.  Bydd y ffocws yn cael ei drafod gyda'u Mentoriaid a'u Tiwtoriaid Prifysgol, yn cael ei deilwra i ateb eu hanghenion, a bydd yn eu cefnogi i gyflawni y tu hwnt i'r Safonau SAC yn ogystal â chyfrannu at eu Proffil Dechrau Gyrfa. Mae'r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 

Safbwyntiau mewn Dysgu ac Addysgu (60 credyd ar lefel 7) 

Mae'r modiwl blwyddyn o hyd hwn yn cynnwys 8 prif agwedd:  

  • Astudiaethau Craidd  
  • Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg  
  • Meysydd Dysgu a Phrofiad  
  • Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd  
  • Astudiaethau Pwnc  
  • Datblygu'r Gymraeg  
  • Llesiant, gan gynnwys Datblygiad Personol a Chynllunio Ymarfer Clinigol a Chymorth Ymchwil 

Bydd y modiwl mawr hwn yn defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau, ymchwil ac adnoddau deallusol eraill yn ogystal â phrofiad uniongyrchol athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth am ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn cynnwys agweddau fel datblygiad dynol; y cwricwlwm a'r system addysg; anghenion dysgu ychwanegol; defnyddio data ac asesu; rheoli a threfnu ystafell ddosbarth; yn ogystal â datblygu gwybodaeth bersonol athrawon dan hyfforddiant am bwnc. Mae o leiaf hanner y modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. 

Datblygu'r Gymraeg

Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysgu uniongyrchol mewn perthynas â datblygu'r Gymraeg.  

Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn ymdrin ag elfennau gramadegol y Gymraeg a chaiff athrawon dan hyfforddiant eu hyfforddi yn y dulliau sy'n gysylltiedig â datblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a'u dealltwriaeth o gefndir ieithyddol-gymdeithasol y dysgwyr. 

Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg datblygol yn dilyn cynllun iaith cydnabyddedig: 'Cynllun Colegau Cymru'. Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael ag anghenion athrawon dan hyfforddiant sy'n bwriadu addysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Mae'r cwrs yn sicrhau, ar ôl ei gwblhau, fod athrawon dan hyfforddiant yn cael cyflwyniad cadarn i'r Gymraeg ac yn datblygu o leiaf lefel sylfaenol o Lafaredd. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu haddysgu mewn grwpiau wedi'u ffrydio yn ôl profiad a chymhwyster blaenorol.  

Ymrwymiad amsergofynnol

Rhaglen amser llawn yw hon ac mae'r elfen ysgol yn golygu bod gofyn i athrawon dan hyfforddiant fod yn yr ysgol ar gyfer diwrnod gwaith arferol yr ysgol yn ogystal ag amser ychwanegol cyn ac ar ôl ysgol ar gyfer paratoi a chyfarfodydd.  Mae angen ymrwymiad proffesiynol tebyg gan athrawon dan hyfforddiant wrth ymgymryd ag elfen prifysgol y cwrs. 

Dysgu ac Addysgu

Mae'r addysgu a dysgu yn y brifysgol ac mewn ysgol wedi'u cynllunio i ategu ei gilydd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud y cynnydd gorau posib. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn hwyluso sgiliau datblygu hollbwysig athrawon dan hyfforddiant, ac yn canolbwyntio ar integreiddio ymchwil ac ymholi, ymarfer a theori. Yn y Brifysgol ac mewn lleoliadau ysgol fel ei gilydd, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael profiad o ddulliau dysgu dan arweiniad tiwtor a dysgu hunangyfeiriedig fel arfer, gan ddatblygu annibyniaeth a myfyrio cynyddol wrth iddynt weithio'u ffordd drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd rheolaidd drwy gydol y cwrs i athrawon dan hyfforddiant adolygu eu cynnydd personol gyda'u tiwtoriaid a chymryd cyfrifoldeb am gynllunio a gweithredu eu dysgu eu hunain.  

Yn y brifysgol, gall y dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, i gyd wedi'u hategu drwy ddefnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Metropolitan Caerdydd. Mewn llawer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir fydd y rhai sydd â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o effaith ar ddysgu athrawon dan hyfforddiant a chyrhaeddiad disgyblion e.e. microaddysgu, ymarfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrthdro. Lle y bo'n bosibl, bydd gweithdai'n cael eu darparu mewn amrywiaeth o feysydd traws-gyfnod, trawsgwricwlaidd a'r un meysydd pwnc sy'n rhoi digon o gyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddysgu o brofiadau amrywiol ei gilydd. 

Yn ystod dysgu yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu harwain gan ddulliau addysgu mewn tîm yn ogystal â chymryd rhan mewn addysgu annibynnol, a bydd gofyn iddynt gymryd cyfrifoldeb cynyddol am addysgu dosbarth, neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod parhaus a sylweddol. Bydd Ymarfer Clinigol yn cynnwys amser dan gyfarwyddyd ar gyfer Ymchwil ac Ymholi; addysgu annibynnol ac mewn tîm; a chynllunio, paratoi ac asesu. Yn ogystal, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael pymtheg diwrnod hyfforddi dan arweiniad Cynghreiriau/Ysgolion Arweiniol y Bartneriaeth. Yn ystod y diwrnodau hyn, defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu gan gynnwys archwilio dogfennau'r ysgol, cylchoedd dysgu, deialog myfyriol wedi'i hysgogi gan fideo, teithiau cerdded dysgu, sgyrsiau dysgu gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau. 

Asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys dau aseiniad ysgrifenedig ar lefel 7 sy'n cael eu gwasgaru drwy gydol y flwyddyn. Mae'r ddau aseiniad prifysgol yn meithrin gallu athrawon dan hyfforddiant i fyfyrio'n feirniadol ar addysgeg ac ymarfer a'u gwerthuso tra'n gwella eu gallu i fodloni elfennau o'r Safonau SAC. Yn ogystal, mae'r aseiniadau wedi'u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil athrawon dan hyfforddiant, gan roi cyfle iddynt gysylltu theori ag ymarfer mewn ffordd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, gwella ysgolion a'u hymarfer proffesiynol eu hunain. Bydd Mentoriaid yn yr ysgol a Thiwtoriaid Prifysgol yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant wrth iddynt gwblhau'r aseiniadau hyn. Bydd cydweithio ag athrawon dan hyfforddiant eraill yn elfen annatod o un o'r aseiniadau.  

Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael ei asesu yn erbyn y Safonau SAC a rhaid iddo basio'r holl Safonau i ennill statws athro cymwysedig. Yn ystod yr ymarfer clinigol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael adborth ffurfiannol llafar ac ysgrifenedig parhaus yn ogystal ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o'r cwrs, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu tystiolaeth wrth ddangos eu cyrhaeddiad a'u cyflawniad a bydd y dystiolaeth hon ar gael i Diwtoriaid Personol fel y gallant fonitro cynnydd yn rheolaidd.  

Oherwydd y ffocws ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn y cwricwlwm yng Nghymru, bydd pob athro dan hyfforddiant yn cwblhau archwiliadau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar ddechrau ac ar ddiwedd y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn yn helpu i nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu a mynd ati i astudio i lenwi'r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau. Bydd athrawon dan hyfforddiant a allai elwa ar gymorth pellach yn cael sesiynau cymorth ychwanegol. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg am Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac yn darparu cyfleoedd i gael cyflogaeth ar y lefel gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, y DU a thramor.  

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddarparu amrywiaeth eang o brofiadau a fydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'n graddedigion i'w paratoi'n dda ar gyfer y byd gwaith. Mae Ysgolion Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi'u nodi fel darparwyr blaenllaw addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly mae'r cyfle i ddysgu ganddynt hwy ac o fewn eu hamgylchedd yn golygu y dylai datblygiad gyrfa o fod yn athro dan hyfforddiant i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Addysgu.   

Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i'n dechrau addysgu? 
Gellir cael gwybodaeth ar wefan Yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.  

Datblygiad proffesiynol: 

Mae'r rhaglen yn cynnig mantais tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus hefyd drwy roi 60 credyd ar lefel Meistr.  Gellir trosglwyddo'r credydau hyn tuag at gymhwyster Meistr llawn a astudir yn llawn amser neu'n rhan amser.  

Gofynion mynediad

Meini prawf hanfodol:

Bydd rhaid i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS drwy lenwi ffurflen gais ar-lein. Yna caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen berthnasol a gwahoddir ymgeiswyr i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon.  

Dylai pob ymgeisydd:

  • fod â phroffil academaidd cadarn;  
  •  meddu ar y doniau, y gallu a'r gwydnwch i fodloni'r canlyniadau SAC gofynnol erbyn diwedd eu rhaglen AGA;  
  • meddu ar y rhinweddau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr rhagorol;  
  • darllen yn effeithiol a gallu cyfathrebu'n glir ac yn gywir yn Gymraeg a/neu'n Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig;   
  • peidio bod â chefndir troseddol a allai ei atal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg; a heb fod wedi cael ei wahardd neu ei eithrio yn y gorffennol rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (rhaid i athrawon dan hyfforddiant drefnu Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS));  
  • arddangos yn ystod y cyfweliad fod ganddynt y sgiliau swyddogaethol personol priodol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n gymwys mewn cyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol;  
  • dangos ei addasrwydd i fod yn athro rhagorol;   
  • bodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (2004)* Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau ei iechyd a'i allu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro.   


Gofynion TGAU:

TGAU Gradd B/gradd 5 neu uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Lenyddiaeth Gymraeg a Mathemateg a gradd C/gradd 4 neu uwch mewn Gwyddoniaeth (neu gymhwyster cyfwerth safonol). 

Pan gyflawnir cymhwyster sy'n cyfateb i radd B/gradd 5 naill ai mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cyflawni o leiaf gradd C/gradd 4 yn yr arholiad TGAU cyfwerth mewn Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith. 

Bydd angen TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg 

Ailsefyll TGAU:

Bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) wrth ymgeisio yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad. (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sy'n meddu ar y TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr).  Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi gwneud trefniadau i ailsefyll y TGAU (neu gymhwyster cyfwerth derbyniol) er mwyn cael gradd B a nodi hyn ar eu cais Hyfforddiant Athrawon UCAS. Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn amodol ar gael B.  Noder y bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni eich bod wedi cyflawni gradd C/4 (neu gyfwerth).     

Cymwysterau cyfwerth â TGAU:

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg i fodloni gofynion gradd B. Cynigir arholiad cywerthedd i'r rhai sydd â gradd D mewn Gwyddoniaeth hefyd.  Cynigir arholiad Cymraeg i'r rhai sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith fel y gellir eu hystyried ar gyfer y llwybr cyfrwng Cymraeg hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.   

Rydym hefyd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer y gofynion TGAU, sy'n cynnwys arholiadau a safwyd gyda Equivalency Testing, Prifysgol De Cymru a'r National Extension College.  O Brifysgol Aberystwyth rydym hefyd yn derbyn y modiwl cywerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r modiwl cywerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).

Cliciwch yma i weld canllawiau Met Caerdydd ar gymwysterau cyfwerth â gradd B, neu i weld y ddogfen hon yn Saesneg cliciwch yma.   


Gofynion Gradd Gychwynnol:

Gradd anrhydedd mewn maes sy'n ymwneud ag addysg gynradd, dosbarth 2:2 o leiaf; neu unrhyw radd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf os oes gan yr ymgeisydd Safon Uwch gradd C neu uwch (neu gyfwerth) yn un o feysydd pwnc y cwricwlwm cynradd.  Ystyrir bod rhaglenni Mynediad i AU gyfwerth â Safon Uwch o fewn pwnc perthnasol lle cyflawnwyd 15 Teilyngdod ar Lefel 3. Mae Diplomâu Lefel 3 CACHE gradd C yn cael eu hystyried hefyd yn ogystal â Diplomâu Lefel 3 Pearson BTEC (FfCCh)/OCR/NQF mewn Gofal Plant yn y Proffil Teilyngdod.  
 
Gellir ystyried ceisiadau gan y rhai sydd wedi ennill gradd Anrhydedd is na dosbarth 2:2, ond lle mae gan yr ymgeisydd gymwysterau uwch, e.e. Gradd Meistr, PhD.  


Profiad Gwaith:

Gofynnir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn ysgol brif ffrwd ar draws yr amrediad oedran cynradd ond deallwn na fydd hyn yn bosibl o reidrwydd oherwydd y sefyllfa bresennol.  Byddem yn gofyn i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r hyn y gallant drwy eu cais UCAS a'u datganiad personol.  


Datganiad Personol:

Datganiad personol cryf yn nodi potensial yr ymgeisydd i ymgymryd â'r Rhaglen TAR Cynradd. Dylai'r datganiad ddangos ehangder y wybodaeth a'r profiad personol a gafwyd mewn addysg gynradd hyd yma a sut y mae hyn wedi paratoi'r ymgeisydd i fod yn athro cynradd effeithiol o bosib. Dylid cynnwys cyfeiriadau at brofiadau personol/diddordebau allgyrsiol hefyd a allai gyfrannu at gyfoethogi dysgu plant. Mae safon uchel o Gymraeg/Saesneg ysgrifenedig yn hanfodol.  

Geirda Academaidd:

Rhaid i'r prif ganolwr fod yn academydd sydd fwyaf abl i roi sylwadau ar alluoedd academaidd a galwedigaethol yr ymgeisydd. Nid yw geirda academaidd yn ofynnol ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd wedi gwneud eu gradd dros bum mlynedd yn ôl ond gorau oll os gallant gael geirda o'r fath. I'r ymgeiswyr hynny y mae eu geirda SAU yn fwy nag 8 mlwydd oed, mae angen geirda gan weithiwr addysgol proffesiynol mwy diweddar fel pennaeth. Mae'n bwysig bod y canolwr hwn yn gallu llunio barn wrthrychol a gwybodus yn seiliedig ar wybodaeth sylweddol am yr ymgeisydd mewn cyd-destun addysgol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich geirda, cysylltwch â Derbyniadau.  
 

Gwiriad Cofnodion Troseddol/DBS:  

Mae mynediad yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol hefyd. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol yn www.metcaerdydd.ac.uk/dbs.   

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol: 

Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd angen isafswm sgôr IELTS cyffredinol o 7.5 heb is-sgôr is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth) i sicrhau lle ar y rhaglen. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.  


Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS Israddedig.  Rydym yn cynghori ymgeiswyr i beidio â defnyddio mwy nag un dewis ar gyfer y llwybrau a restrir isod. Dim ond ar un llwybr y gallwn gynnig lle, yn dibynnu ar ddewis yr ymgeisydd a'r asesiad yn y cyfweliad.  

Codau Ymgeisio UCAS:  

TAR Cynradd (3-11): X178 (cyfrwng Cymraeg) 
TAR Cynradd (3-11): X171  

Gwybodaeth ar gyfer y cyfweliad

Mae cyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein drwy MS Teams ar hyn o bryd. Byddwch yn derbyn hysbysiad o ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS ac mewn e-bost gan Met Caerdydd. Yna, byddwch yn derbyn gwahoddiad MS Teams, gydag amser penodol eich cyfweliad, gan dîm y rhaglen. Bydd y cyfweliadau'n para tua 30 munud.   

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol a hysbysu Derbyniadau cyn gynted â phosibl os ydynt yn dymuno i'w cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Profion - Llythrenedd, Rhifedd a Cymhwysedd Digidol


Bydd y Profion Sgiliau a gynhelir fel arfer fel rhan o'ch diwrnod cyfweld yn cael eu cynnal ar ddechrau eich cwrs fel archwiliad o'r meysydd lle gallech fod angen cymorth ychwanegol. Nid yw'r profion hyn yn rhan o'ch meini prawf dethol bellach ond argymhellir fodd bynnag eich bod yn gwneud yr adolygu priodol o'r wybodaeth ar y dolenni a roddir isod: 

Profion Llythrennedd:

Bydddau brawf: 

1. Bydd y prawf cyntaf yn canolbwyntio ar sillafu, atalnodi, gramadeg a dealltwriaeth. Bydd y prawf hwn yn cael ei gwblhau'n electronig ar ddiwrnod y cyfweliad ond mae copi enghreifftiol y gellir ei argraffu o'r papur ar gael yma.  

Bydd y prawf hwn yn 30 munud o hyd.   

Paratoi: 


2. Bydd yr ail brawf yn canolbwyntio ar sgiliau darllen ac ysgrifennu. Bydd yn canolbwyntio ar erthygl cyfnodolyn a anfonir atoch cyn eich cyfweliad.  

Bydd y prawf hwn yn 30 munud o hyd. 

Paratoi: 

  • Darllenwch erthygl y cyfnodolyn yn ofalus, sawl gwaith 
  • Chwiliwch am ystyr geiriau anghyfarwydd 
  • Ceisiwch ddeall ystyr yr erthygl 
  • Ystyriwch pa neges(euon) y mae'r awdur yn bwriadu eu cyfleu 
  • Meddyliwch a ydych yn cytuno â'r awdur 

Yn ystod y cyfweliad, byddwch yn cael copi newydd o'r erthygl ac yn cael dau gwestiwn i'w hateb. Bydd disgwyl i chi ysgrifennu tua 300 o eiriau.   

Bydd y dasg yn asesu'ch gallu i: 

  • ddod o hyd i wybodaeth a chyfeirio'n briodol at y deunydd darllen 
  • dangos dealltwriaeth a dehongliad cadarn o'r deunydd darllen 
  • cyfleu eich syniadau'n glir mewn arddull briodol 
  • cyflwyno darn o ysgrifennu cydlynol sydd wedi'i strwythuro'n dda 
  • defnyddio sillafu, atalnodi a gramadeg gyda lefel dda o gywirdeb 

Prawf Rhifedd:  

Prawf Cymhwysedd Digidol

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau tasg 30 munud sydd wedi'i chynllunio i ddangos tystiolaeth o'u sgiliau digidol personol ar lefel sylfaenol. Y rheswm am hyn yw bod angen i bob athro yng Nghymru allu atgyfnerthu a datblygu medrau digidol y disgyblion y maent yn eu haddysgu, yn ogystal â defnyddio technoleg ddigidol wrth gyflawni eu dyletswyddau proffesiynol eu hunain. 

Bydd y prawf yn cynnwys defnyddio sgiliau sylfaenol yn Microsoft Office, gan gynnwys trin cynnwys sy'n gysylltiedig ag addysg yn Word, Excel a PowerPoint. 

Byddai ymgeiswyr yn cael eu cynghori i sicrhau bod ganddynt y galluoedd sylfaenol sydd eu hangen, er enghraifft, i newid maint ffontiau, cymhwyso themâu i gyflwyniadau PowerPoint, a defnyddio fformiwlâu Excel syml fel SUM a AVERAGE. 

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg

Bydd ymgeiswyr sy'n gwneud cais i hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg yn cael eu rhoi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn ystod y broses gyfweld cewch eich asesu ar eich gallu yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Profion Llythrennedd  

Bydd pob ymgeisydd yn cwblhau'r prawf llythrennedd cyntaf yn Saesneg (gweler uchod am ragor o fanylion) a bydd ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg yn cwblhau prawf sgiliau llythrennedd yn Gymraeg (15 munud) hefyd, sy'n gofyn i ymgeiswyr ddangos eu dealltwriaeth o ramadeg Gymraeg. Er mwyn paratoi ar gyfer y prawf hwn, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar y papur enghreifftiol a ddarperir yma ac yn cyfeirio at y testun defnyddiol canlynol: Breese, N., Clement, B. (2011) Seren Iaith. Ceredigion: Atebol Cyfyngedig. ISBN 978-1-907004-85-8 (£5.99). Dyma'r adrannau fydd fwyaf defnyddiol: Chwilio'r gwallau 1 tt.6-105 a tt.166-197. 

Bydd pob ymgeisydd cyfrwng Cymraeg yn cwblhau'r ail brawf llythrennedd fel yr uchod (darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg) a bydd gofyn iddynt ddangos eu Cymraeg a'u Saesneg ysgrifenedig yn y prawf hwn.   

Prawf Rhifedd  

Darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r papur cwestiynau. Gall ymgeiswyr ddewis ateb yn y naill iaith neu'r llall.   

Cwestiynau Cyffredin

Cymwysterau

Does gen i ddim TGAU gradd B/gradd 5 neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg – ydw i'n dal i allu gwneud cais am y TAR?  
Bydd ymgeiswyr â gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â chymwysterau TGAU sydd newydd eu diwygio yn Lloegr). Fodd bvnnag, bydd angen i ymgeiswyr fod wedi gwneud trefniadau i ailsefyll y TGAU (neu gymhwyster cyfwerth derbyniol) er mwyn cael gradd B a nodi hyn ar eu cais UCAS. Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn amodol ar gael gradd B.  

Ydy Met Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg? 
Mae Met Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae'r profion wedi'u cynllunio i fodloni gofynion TGAU gradd B ar gyfer ymuno â rhaglenni AGA Met Caerdydd yn unig.  

Er mwyn bod yn gymwys i sefyll yr arholiadau, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael cynnig ac wedi ateb, neu'n bwriadu ateb, 'Firm'.  Ni chodir ffi am sefyll yr arholiadau cywerthedd a gall ymgeiswyr ailsefyll pob arholiad unwaith yn ystod y flwyddyn y maent yn gwneud cais.  

Ydy fy nghymwysterau’n dderbyniol?
UK NARIC sy'n penderfynu ar gywerthedd cymwysterau tramor. 
Os ydych yn fyfyriwr Rhyngwladol dylech gysylltu ag UK NARIC. Os ydych yn ymgeisydd Cartref/yr UE, cysylltwch â'n tîm Derbyniadau a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach ar eich cymwysterau.  

Gwneud Cais

Ydych chi'n cynnal Diwrnodau Agored? 
Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein gan gynnwys gwybodaeth am y TAR drwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar ein tudalen Diwrnodau Agored a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth. 

Hefyd, er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb rydym yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol i'r TAR ar y wefan ac mae croeso bob amser i chi gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost.   

Pryd mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau? 
Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau. Bydd rhaglenni'n cau pan fydd y cwrs yn llawn. Mae'r gystadleuaeth am leoedd yn uchel iawn ar gyfer TAR Cynradd a TAR Uwchradd (Addysg Gorfforol) felly rydym yn argymell y dylid gwneud ceisiadau yn gynnar yn y flwyddyn academaidd er mwyn osgoi siom.  

Ydw i'n gwneud cais yn uniongyrchol i Met Caerdydd? 
Na - rhaid gwneud pob cais ar gyfer y cyrsiau TAR Cynradd a TAR Uwchradd drwy UCAS. Gellir cael gwybodaeth am y drefn ymgeisio a gwneud cais yn: www.ucas.com.   

Fydd rhaid i mi gwblhau Gwiriad Cofnodion Troseddol? 
Mae mynediad yn amodol ar gael gwiriad cofnodion troseddol boddhaol. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol yn www.metcaerdydd.ac.uk/dbs.  

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n ymgeisydd Cyfrwng Cymraeg? 
Dylai ymgeiswyr sy'n dymuno hyfforddi ar gyfer y sector Cyfrwng Cymraeg nodi'r dewis hwn yn glir ar eu ceisiadau. Cewch eich lleoli mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y broses gyfweld cewch eich asesu ar eich gallu yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Cyfweliadau  

Sut bydda i'n cael gwybodaeth am y cyfweliad? 

Gellir gweld dyddiad eich cyfweliad ar eich UCAS Hub. Bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon mewn e-bost gan Met Caerdydd hefyd.  

Pa mor aml y cynhelir cyfweliadau? Oes dyddiadau penodol? 
Nid oes dyddiadau penodol. Fodd bynnag, cewch ddigon o rybudd ar gyfer eich cyfweliad.  

Cyllid  

Faint mae'r cwrs TAR yn ei gostio? 
Gweler ein tudalen Ffioedd a Chyllid am ragor o fanylion.  

Ydw i'n cael bwrsari? 
Efallai y bydd cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Cynradd yn dibynnu ar ddosbarth eich gradd israddedig a'ch llwybr. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o fanylion.
 
Oes unrhyw gyllid arall ar gael?  
Gall myfyrwyr TAR sy'n hanu o Gymru sy'n dewis aros ac astudio yng Nghymru gael cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Ffioedd Dysgu hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am y grant ac i gael y ffurflen PN1 berthnasol ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.  

 

Gwybodaeth am y Cwrs  

Pryd mae'r TAR yn dechrau ac yn gorffen? 
Ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23, nid yw dyddiad dechrau'r TAR wedi'i gadarnhau eto. Daw'r cwrs i ben ym mis Mehefin 2023.  
 

Pryd fydda i'n cael gwybod am leoliadau mewn ysgolion? Ble fyddan nhw? Alla i drefnu fy lleoliadau fy hun?  
Bydd elfen lleoliadau mewn ysgolion yn digwydd ein dewis rhagorol o ysgolion partneriaeth ac mae'n rhan annatod o'r rhaglen. Cewch wybod ar ddechrau eich rhaglen. Ni allwch drefnu eich lleoliad eich hun.  
 

Alla i ohirio fy lle? 
Yn anffodus, ni allwn ganiatáu gohirio lleoedd ar ein rhaglenni hyfforddiant athrawon.  

Gwybodaeth ychwanegol

Hyd y cwrs: 
Llawn amser - Blwyddyn  

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol: 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.  

Efallai y bydd cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Cynradd yn dibynnu ar ddosbarth eich gradd israddedig. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o fanylion. 

Cysylltu â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost i askadmissions@cardiffmet.ac.uk .  

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Lisa Fenn 
E-bost: lsfenn@cardiffmet.ac.uk 

Key Course Information

Lleoliad astudio:  
Campws Cyncoed  

Ysgol: 
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd 

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser   

Dyddiad dechrau: Medi 2022 

Accreditation
Accreditation
Astudio Trwy'r Gymraeg
Sicrhaodd lleoliadau ysgol fy ngyrfa addysgu Cynradd

Cewch glywed gan Hari, sydd wedi graddio, am ei phrofiadau ar y TAR Cynradd a pham ei bod wrth ei bodd yn dysgu cymaint.

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Darganfyddwch fwy am y Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Met Caerdydd.

Blog
Fy nhaith mewn i addysgu- o astudio Chwaraeon i astudio'r cwrs TAR Cynradd drwy gyfrwng y Gymraeg

Cewch glywed am brofiadau Ethan ar y cwrs a pham ei fod wedi dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy.

Full terms and conditions in relation to accepting an offer to study at Cardiff Metropolitan University can be found by visiting www.cardiffmet.ac.uk/terms