Home>News>Arbenigwyr alergenau yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd diogelwch bwyd

Arbenigwyr alergenau yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd diogelwch bwyd

 


25 Hydref 2019

Mynychodd bron i 200 o weithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd a diod o bob rhan o Gymru gynhadledd sy'n canolbwyntio ar rôl bwysig alergenau mewn gweithgynhyrchu bwyd a'r gymdeithas ehangach.

Trefnwyd 17eg Cymdeithas Diogelwch Bwyd blynyddol y DU yng Nghaerdydd, a gynhaliwyd yn yr Hilton Caerdydd ar 23 Hydref 2019, gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Clywodd y cynrychiolwyr gan ystod o siaradwyr proffil uchel gan gynnwys Lynne Regent, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymgyrch Anaffylacsis, yr unig elusen ledled y DU sy'n gweithredu ar gyfer y niferoedd cynyddol o bobl sydd mewn perygl o gael adweithiau alergaidd difrifol ac anaffylacsis.

Dywedodd Lynne Regent, Ymgyrch Anaffylacsis:

"Mae rheolaeth gadarn ar alergenau yn gwbl hanfodol i'r miliynau o bobl yn y DU sy'n byw gydag alergeddau bwyd.  Cyflawnodd y gynhadledd hon bwrpas pwysig oherwydd trwy'r addysg a'r ymwybyddiaeth gywir, gall y diwydiant bwyd, y gwasanaeth iechyd a'r gymdeithas ehangach oll helpu i leddfu baich pobl sy'n dioddef o alergeddau difrifol."

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y deddfau newydd ar gyfer labelu alergenau yng Nghymru a fydd yn dod i rym o Hydref 2021.

Rhannodd Mike Woods, Prif Weithredwr Just Love Foods o Goed Duon, ei stori bersonol am y modd y gwnaeth cael dau blentyn sy'n dioddef o alergeddau cnau sy'n bygwth bywyd arwain at sefydlu ei gwmni cacennau dathlu di-gnau arobryn.

Dywedodd Mike Woods, Cwmni Just Love Food:

"Mae cael plant ag alergeddau cnau difrifol yn golygu fy mod i'n gwybod o lygad y ffynnon pa mor bwysig yw hi i weithgynhyrchwyr bwyd gymryd eu rheolyddion alergenau o ddifrif. Rwy'n gobeithio y bydd rhannu fy stori yn rhoi anogaeth i weithwyr proffesiynol bwyd a diod eraill o Gymru ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael mewn gweithgynhyrchu heb alergenau."

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

"Mae wedi bod yn fraint fawr dod â siaradwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o weithgynhyrchu, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus ynghyd i drafod yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes rheoli alergenau.

"Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cymryd eu cyfrifoldeb i amddiffyn defnyddwyr alergenau o ddifrif; mae nifer y bobl a fynychodd y gynhadledd eleni yn arwydd clir o hyn. "

Cyn bo hir bydd cyflwyniadau cynhadledd eleni ar gael am ddim yn:
www.CardiffMet.ac.uk/UKAFP

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.