Home>News>Cinio Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru yn Anrhydeddu Arwres Met Caerdydd

Cinio Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru yn Anrhydeddu Arwres Met Caerdydd

 

​Anrhydeddwyd un o arwyr Met Caerdydd yn ystod 30ain Cinio blynyddol ar gyfer Gwobrau Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (26 Mehefin). Met Caerdydd oedd Prif Noddwr y digwyddiad hwn..

Cafodd Wendy White, arwres pêl-rwyd Cymru fel chwaraewr a hyfforddwraig, yn ogystal â darlithydd AG arloesol ym Met Caerdydd, ei chyflwyno i Neuadd Enwogion yn y seremoni. Mae Wendy, a fu farw yn 2016,  yn cael ei hystyried yn un o'r hyfforddwyr chwaraeon ac athrawon AG mwyaf dylanwadol i weithio yng Nghymru.

Cafodd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, lle ma'r Pennaeth Chwaraeon Gwyn Morris yn gyn fyfyriwr Met Caerdydd, ei hanrhydeddu hefyd am eu gwasanaethau i Chwaraeon Cymru, gan gydnabod llwyddiant ei chyn-fyfyrwyr Gareth Bale, Geraint Thomas a Sam Warburton.

Mae gan Met Caerdydd gysylltiadau cryf â Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru. Un o gyn-fyfyrwyr ac aelod o staff Met Caerdydd, Lynn Davies, enillydd medal aur Olympaidd, yw Llywydd y sefydliad, mae'r Cymrawd Anrhydeddus a chyn-bêl-droediwr Cymru Laura McCallister yn Gadeirydd, gyda Joe Towns, Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon Darlledu, hefyd yn aelod o'r bwrdd.

Dywedodd yr Athro Leigh Robinson, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, a groesawodd y noddwyr ar y noson: "Ym Met Caerdydd rydym yn hyrwyddwyr enfawr o'r hyn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ei gynnig, ar ôl darparu hyfforddiant i lawer o sêr chwaraeon blaenllaw Cymru.

"Mae Met Caerdydd wedi cael blwyddyn chwaraeon wych. Roedd ein tîm pêl-droed i fenywod yn flaenllaw ac unwaith eto fe wnaethant sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr. Mae cymhwyster hanesyddol tîm y dynion mis diwethaf yn rhagbrofion Cwpan Europa yn dal i achosi cyffro. Llofnododd dau o'n myfyrwyr gontractau proffesiynol mewn criced a rygbi ac mae ein Cyfarwyddwr Athletau, James Thie, yn Bencampwr y Byd ar gyfer y 1500m yn ei gategori oedran.

Rydym yn falch o'n cysylltiad â Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru, a hoffem longyfarch pawb a gafodd eu urddo ac yn diolch iddynt am eu cyfraniadau sylweddol i chwaraeon yng Nghymru."

Dywedodd Laura McAllister, Cadeirydd Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru: "Mae ein digwyddiad blynyddol Rôl Anrhydedd wedi gallu tyfu o ran maint a statws yn ystod y blynyddoedd diwethaf diolch i nawdd hael Prifysgol Met Caerdydd. Roedd yn braf gweld un arall o'u cyn-fyfyrwyr enwog, Michaela Breeze, yn graddio ar y Gofrestr Anrhydedd. " 

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.