Home>News>Cyn-fyfyriwr Met Caerdydd Yn Cynnig Interniaethau I Ddau Fyfyriwr

Cyn-fyfyriwr Met Caerdydd Yn Cynnig Interniaethau I Ddau Fyfyriwr

Picture of Peter Stafford

 

​Mae Peter Stafford, cyn-fyfyriwr Athrofa Prifysgol Cymru (BSc Hyfforddi Chwaraeon a Meistr Gweinyddu Busnes) wedi ail-gysylltu â Met Caerdydd i gynnig interniaethau i ddau fyfyriwr meistr ar y rhaglen darlledu chwaraeon.

Mae Stafford, yn wreiddiol o Iwerddon, ac Andrew Mitchell, ei bartner busnes o Ganada yn rhedeg Mitchell Stafford Management (MSM), asiantaeth cyfathrebu a digwyddiadau wedi’i lleoli yn Lausanne, y ‘Brifddinas Olympaidd’, yn y Swistir. Ymhlith cleientiaid MSM mae nifer o ffederasiynau chwaraeon rhyngwladol a threfnwyr digwyddiadau, yn cynnwys y Pwyllgorau Olympaidd Ewropeaidd (EOC) sy’n darparu’r Gemau Ewropeaidd bob pedair blynedd.

Daeth cyfle i ddau intern i fod yn darparu deunydd i roi sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y gyfres nesaf o’r Gemau Olympaidd yn Minsk, Belarus, ym mis Mehefin, ac ysgogodd hyn Stafford i gysylltu â’i hen goleg.

Dywedodd Joe Towns, cyfarwyddwr y cwrs: “Rwy'n hynod falch bod y cyfle hwn wedi codi, yn enwedig oherwydd mai cyn-fyfyriwr sy’n ei gynnig. Rydyn ni bob amser yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer ein myfyrwyr ac mae hwn yn sicr yn gyfle gwych. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i MSM am gofio amdanon ni, mae’n dangos grym ac ehangder rhwydwaith ein cyn-fyfyrwyr.”

Cydweithiodd Towns a Stafford i ddethol dau fyfyriwr ar gyfer y prosiect hwn -- Mica Moore a Silvija Zabcic. Eu tasg fydd cynhyrchu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y Gemau ochr yn ochr â’r pwyllgor trefnu lleol, y Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol a darlledwyr rhyngwladol.

Yn sôn am y prosiect, dywedodd Mica: “Rydw i wrth fy modd i fynd allan i Gemau Ewrop fel intern cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon. Rydw i mor ddiolchgar o fod yn rhan o gystadleuaeth mor enfawr, gyda 4000 o athletwyr yno yn cystadlu mewn 16 o wahanol chwaraeon. Bydd yn gyfle gwych i roi popeth rydw i wedi'i ddysgu eleni ar fy nghwrs MSc darlledu Chwaraeon ar waith. ”

Ychwanegodd Silvija: "Rydw i mor falch o fod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr, i gael y cyfle i weithio gydag athletwyr proffesiynol, newyddiadurwyr chwaraeon ac eraill sy'n mynd i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Mae'n gyfle anhygoel i ennill profiad a datblygu fy sgiliau ymhellach, diolch i fy nghwrs, MSc Darlledu Chwaraeon a'r Brifysgol. Mae hefyd yn
anhygoel fy mod yn cael y cyfle i deithio dramor ac archwilio diwylliant newydd wrth wneud yr hyn rwy'n ei fwynhau. "

Pan ofynnwyd i Stafford y rheswm dros gysylltu â’r brifysgol, dywedodd y cyn-athletwr, “Rydw i’n dilyn hanes y brifysgol ar y cyfryngau cymdeithasol a sylweddoli ei bod yn cynnal cwrs ar ddarlledu chwaraeon. O gofio’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud, meddyliais y byddai'n wych petai cyfle i ni wneud rhywbeth gyda’n gilydd. Mae gen i atgofion melys am fy nghyfnod ym Met Caerdydd neu APCC/UWIC fel yr oedd ar yr adeg honno ac mae rhoi rhywbeth yn ôl i’r genhedlaeth nesaf yn wirioneddol arbennig.”
Cynhelir ail Gemau Ewropeaidd Minsk 2019 rhwng Mehefin 21 a 30. Bydd dros 4,000 o athletwyr gorau Ewrop yn cystadlu mewn 15 o gampau yn y Gemau: 3×3 pêl fasged, saethyddiaeth, athletau, badminton, pêl-droed ar y traeth, bocsio, sbrint canŵ, seiclo, gymnasteg, jiwdo, karate, sambo, saethu, tenis bwrdd a reslo. Bydd wyth o'r 15 camp yn ennill eu lle yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Bydd athletwyr o bob un o’r 50 o Bwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol Ewropeaidd yn cymryd rhan.
I weld yr hyn y mae Mica a Silvija, yn ei gynhyrchu rhwng Mehefin 20 a 30, cofiwch ddilyn y dolenni cyfryngau cymdeithasol isod ar gyfer yr EOC:
Instagram @eoc_social
Twitter @EOCmedia

Am ragor o wybodaeth am MSM a’r Gemau Ewropeaidd ewch i:

www.mitchellstafford.com 

www.minsk2019.by or www.eurolympic.org 


I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.