Home>News>Diwylliannau Byd-Eang yn Nathliadau Prifysgol Met Caerdydd

Diwylliannau Byd-Eang yn Nathliadau Prifysgol Met Caerdydd

​08/03/2019

 


Y mis hwn gwelwyd amrediad o ddiwylliannau o bob cwr o'r byd wrth i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gynnal ei dathliadau Wythnos Fyd-Eang.

Cychwynnwyd menter yr Wythnos Fyd-eang bedair blynedd yn ôl, i ddathlu'r amrywiaeth o ddiwylliannau o fewn y brifysgol. Daw myfyrwyr y ddau gampws yng Nghaerdydd o 101 o wahanol wledydd, tra bod 7,800 o fyfyrwyr eraill yn astudio cyrsiau Met Caerdydd mewn 13 sefydliad partner ar hyd a lled y byd.

Mae Wythnos Fyd-eang y brifysgol yn gwella ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac yn cymell myfyrwyr a staff i ryngweithio, dysgu am wledydd a thraddodiadau gwahanol ac ymuno â'i gilydd mewn gweithgareddau. Roedd y rhaglen o weithgaredd, a drefnwyd gan Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaethau'r Brifysgol, yn llawn o ddigwyddiadau amrywiol dan arweiniad myfyrwyr a staff, yn pwysleisio pwysigrwydd a manteision bod yn ddinasyddion byd-eang. Ymhlith y digwyddiadau roedd pentref byd-eang gyda bwydydd rhyngwladol, heriau coginio, cerddoriaeth a thraddodiadau yn ogystal â sioe ffasiwn ryngwladol.

Un o'r uchafbwyntiau eleni oedd y twrnamaint chwaraeon ddydd Iau Mawrth 7fed ar Gampws Cyncoed, ar y cyd â Bythefnos Masnach Deg Undeb y Myfyrwyr.  Bu nifer o dimau'n cystadlu yn y gornestau pêl-droed a thenis bwrdd, gan gynnwys timau o'r grwpiau seintwar lleol, megis 'Oasis', 'The Gap' a 'Migrant Help', sy'n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd.

Yn ôl Natalie Buckland, Rheolwraig Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "Gyda chymorth 'Sport Cardiff' roedden ni'n gallu cyrraedd ymhellach i'r gymuned. Roedden ni mor falch o weld grwpiau lleol yn anfon timau i'r twrnamaint. Mae'n pwysleisio fel gallwn ni, ym Met Caerdydd, ffocysu ar gynhwysiant ac integreiddio sy'n ymestyn tu hwnt i'r Brifysgol ac allan i'r gymuned.

"Mae'r Wythnos Fyd-eang yn gyfle i fyfyrwyr a staff ryngweithio gyda'u cymheiriaid a dysgu am ddiwylliannau eraill i ddathlu'r amrywiaeth ar ein campws. Eleni, fe aethon ni gam ymhellach ac ehangu ein rhaglen i gyrraedd grwpiau diwylliannol eraill, gan gadarnhau ein cysylltiad rhwng y Brifysgol a'r gymuned yng Nghaerdydd."

Ers 2014 mae'r Brifysgol wedi cynnal nifer o weithgareddau lle gall myfyrwyr rhyngwladol arddangos eu diwylliannau ac i annog integreiddio. Yn 2016, ail-frandiwyd Diwrnod Byd-eang Met Caerdydd yn Wythnos Fyd-eang wedi i'r achlysur blynyddol ennyn diddordeb cynyddol.

Y llynedd, Met Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i fod yn Brifysgol Seintwar, gan gydnabod ymrwymiad y Brifysgol i groesawu a chynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Yn unol â hyn, roedd gweithgareddau'r Wythnos Fyd-eang eleni'n cynnwys codi ymwybyddiaeth pam bod mudwyr yn dianc o'u gwlad yn ystod rhyfel neu erledigaeth a'r anawsterau maen nhw'n eu wynebu.

Cynhaliwyd Wythnos Fyd-eang 2019 o ddydd Llun, Mawrth 4ydd, hyd ddydd Gwener, Mawrth 8fed, gyda digwyddiadau ar Gampws Llandaf a Champws Cyncoed. I gael rhestr lawn o'r digwyddiadau ynghyd â lluniau o'r gweithgareddau, yna ewch i: www.cardiffmet.ac.uk/international/globalweek/

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.