Home>News>Ffrind pedwar coes yn helpu i hyrwyddo llesiant ym Met Caerdydd ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Ffrind pedwar coes yn helpu i hyrwyddo llesiant ym Met Caerdydd ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

​11/10/19

 


Unwaith eto, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi croesawu cŵn ar y campws mewn ymgais i hyrwyddo llesiant myfyrwyr. Y tro hwn ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Cyflwynwyd y fenter Cŵn ar y Campws y llynedd i helpu myfyrwyr sy'n profi hiraeth a straen. Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae'r fenter wedi'i hailgyflwyno ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar ôl i fyfyrwyr fynegi'r effaith gadarnhaol a gafodd ar eu llesiant meddwl y llynedd.

Cynhaliwyd digwyddiad eleni ar Gampws Llandaf Met Caerdydd ac fe'i cynigiwyd i fyfyrwyr ledled y Brifysgol. Roedd y disgyblion yn gallu rhyngweithio â'r cŵn a chwarae gyda nhw trwy gydol y sesiwn 3 awr a oedd hefyd yn lle diogel i drafod unrhyw beth oedd ganddyn nhw ar eu meddwl wrth rannu unrhyw bryderon neu straen gyda chyd-fyfyrwyr a staff.

Ar ôl y digwyddiad, cafodd myfyrwyr wybodaeth am y gwasanaethau myfyrwyr a oedd ar gael a beth i'w wneud os ydyn nhw'n cael eu hunain yn cael trafferth â'u hiechyd meddwl neu yn syml os ydyn nhw eisiau rhywun i siarad â nhw.

Dywedodd Keira Davies, Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Rydyn ni wrth ein bodd â llwyddiant digwyddiad Cŵn ar y Campws eleni. Mae llesiant myfyrwyr yn hynod o bwysig i ni ac rydym yn gweithio i sicrhau bod pob un o'n myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth a gofal da yn ystod eu hamser yn y brifysgol.
"Roeddem yn teimlo bod y digwyddiad yn bwysig iawn gan ein bod yn ymwybodol o'r effaith gadarnhaol y gall cwmni cŵn ei chael ar hwyliau ac iechyd meddwl rhywun, felly nid oedd yn rhaid meddwl dwywaith cyn trefnu hyn ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd."

Dywedodd un fyfyrwraig, Donique, nad oedd hi'n hoff iawn o gŵn cyn mynychu'r digwyddiad ond ei bod wedi cael ei hannog i fynd gyda'i ffrindiau. Cyfaddefodd ei bod wedi syrthio mewn cariad â cockapoo o'r enw Lola a oedd wedi codi ei hysbryd ac wedi gwella ei hwyliau cyn dychwelyd i'w darlithoedd prynhawn.

Dywedodd Claudia Evans, myfyrwraig ym Met Caerdydd: "Mae symud i ffwrdd i'r Brifysgol yn gallu bod yn brofiad unig felly mae rhywbeth fel hyn yn neis iawn a dim ond yn codi'ch ysbryd. Rwy'n credu ei bod yn wych ei fod yn cael ei gynnal ar ddiwrnod iechyd meddwl ac mae bod yng nghwmni'r cŵn yn ffordd wych o leihau straen. Dwi wedi mwynhau rhyngweithio gyda'r cŵn yn fawr, maen nhw i gyd yn wych."

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.