Home>News>Gweithdy Newid Ymddygiad mewn Gofal Sylfaenol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol maes Iechyd a Meddygon Teulu gynhelir ym Mhri

Gweithdy Newid Ymddygiad mewn Gofal Sylfaenol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol maes Iechyd a Meddygon Teulu gynhelir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

​3 Ebrill 2019

 


Darlithydd Seicoleg Met Caerdydd, Lisa Brindley yn cyflwyno yn y gweithdy

Trefnodd Seicolegwyr maes iechyd o Brifysgol Met Caerdydd weithdy ar Newid Ymddygiad er mwyn ehangu’r drafodaeth ar gyflwyno cymorth i newid ymddygiad ar gyfer gofal sylfaenol.

Seicolegwyr ydy’r unig weithwyr proffesiynol maes iechyd sydd wedi’u hyfforddi i lefel ddoethurol mewn newid ymddygiad ac felly mewn sefyllfa i gynnig cymorth gwerthfawr i gynorthwyo arferion perthnasol i iechyd a allai arwain at welliannau mewn canlyniadau iechyd a lliniaru’r pwysau ar Feddygon Teulu.

Deliodd y digwyddiad â dulliau o gynorthwyo Meddygon Teulu o ran newid ymddygiad gan gynnwys cyflwyniadau gan Seicolegwyr Iechyd sy’n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol yn yr Alban, cynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill oedd yn gweithio ym maes newid ymddygiad perthnasol i iechyd.

Ariannwyd y gweithdy gan Met Caerdydd ac Adran Cymdeithas Seicolegol Prydain ar Seicoleg Iechyd. Lluniwyd hyn er mwyn rhoi cyfle i Feddygon Teulu a phartïon perthnasol eraill drafod gyda seicolegwyr maes iechyd am lunio newid ymddygiad mewn gofal sylfaenol.

Hefyd, darparodd y gweithdy gyfle i ystyried y manteision a’r rhwystrau i gyflwyno arbenigwyr maes newid ymddygiad i'r tîm gofal sylfaenol aml-broffesiynol a hefyd i ystyried y cymwyseddau sydd eu hangen i fod yn effeithiol yn y rôl honno.

Dywedodd Dr Caroline Limbert o Met Caerdydd, a fu'n siarad yn ystod y digwyddiad: "Roedd y digwyddiad yn bositif iawn, ac yn realistig, gan fod cyflwyno arbenigwyr newid ymddygiad i'r tîm gofal iechyd cychwynnol proffesiynol yn cynrychioli newid mawr i'r system bresennol ac nid yw newid yn digwydd dros nos."

"Mae'n bwysig hefyd i'w gael yn iawn, ond mae potensial i wneud gwahaniaeth mawr. Hyd yn hyn, dim ond un achos tebyg o gyflwyno seicolegwyr iechyd i mewn i ofal cychwynnol yn y DU – ac yn yr Alban oedd hynny. Fe gyflwynodd y seicolegwyr a fu'n gweithio ar y prosiect hwnnw eu gwerthusiad yn y gweithdy ac fe'i gwelwyd yn llwyddiannus iawn gan gynnig llawer mwy o gyfleoedd dysgu i'w cymryd ymlaen wrth i ni adeiladu momentwm yn y maes yma."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.