Home>News>Mae Matt Pritchard y Dirty Vegan sydd yn Alumni Met Caerdydd yn rhoi sylw i Gynaladwyedd

Mae Matt Pritchard, y ‘Dirty Vegan’ sydd yn Alumni Met Caerdydd yn rhoi sylw i Gynaladwyedd.

Picture of Matt Pritchard
 

Er y gallai fod yn destun syndod bod y cyn enfant terrible a’r chwaraewr castiau ar y teledu Matt Pritchard bellach yn byw bywyd glân ac yn ymwybodol iawn o’i iechyd, testun syndod iddo yntau oedd pan ddaeth ei gyn-ddarlithwyr o Met Caerdydd i’r sesiwn llofnodi llyfrau yn ddiweddar.

Fe fu Brian Reeve, 86 oed, a Mr Mike Silk yn addysgu Matt, seren Dirty Sanchez a anwyd yng Nghaerdydd, pan oedd yn fyfyriwr arlwyo yng nghyn-gampws y Brifysgol yn Rhodfa Colchester. Fe wnaeth ffilmio peth o’i gyfres deledu Dirty Vegan bresennol hefyd yn y ceginau a’r labordai sydd bellach ar gampws Llandaf ac sydd gyda’r mwyaf modern o’u bath.

Un o’r myfyrwyr presennol a awgrymodd y gellid cyflwyno rhagor o ddewisiadau Fegan ar draws bwydlenni arlwyo’r Brifysgol yn rhan o gynllun Syniadau Da y Brifysgol, sy’n gynllun lle y bydd y staff a’r myfyrwyr yn awgrymu gwelliannau i fywyd y brifysgol. Caiff y rhain eu hystyried a’u gweithredu ble bynnag y bydd hynny’n bosib.  

Matt Pritchard talking at Cardiff Met University

Rachel Roberts, Rheolwr Ymgysylltiad Cynaliadwyedd Met Caerdydd, drefnodd y digwyddiad yn rhan o raglen ymgysylltiad cynaliadwyedd y Brifysgol. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfweliad a sesiwn Holi ac Ateb gyda Matt dan arweiniad Neil Woollacott, cyn i Matt gael cyfle i lofnodi llyfrau a blasu’r ryseitiau o lyfr Matt, Dirty Vegan. Cafodd seigiau eu paratoi gan dîm Arlwyo a Lletygarwch y Brifysgol o dan arweiniad Andrew Phelps.

Meddai Matt, a ddewisodd dull byw sy’n seiliedig ar blanhigion dair blynedd a hanner yn ôl pan ddechreuodd ymwneud yn ddifrifol â digwyddiadau dygnwch eithriadol, “Mae’n wirioneddol bwysig bod â dewis ar y fwydlen. Mae cymaint o alergeddau ar gael ac mae feganiaeth ar gynnydd. Mae angen bod dewis ar fwydlen.  

“Mae lleoedd fel Met Caerdydd yn wych o ran cynnig dewis fegan sy’n wahanol i’r daten bob a ffa pob arferol, rhywbeth mwy chwaethus – mae angen iddo fod yn fwyd cyflym y gellir ei fwyta’n rhwydd rhwng dysgu, adolygu, astudio ac ysgrifennu traethodau, ond hefyd rhaid iddo fod yn fwyd iachus, llawn egni, a rystig.”

Mae deiet sy’n seiliedig ar blanhigion yn ategu ei ddull byw athletaidd, ac ychwanegodd: “Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ci, cyw iâr, buwch neu oen? Pwy sy’n dweud ei bod yn iawn bwyta hwn ond ei bod yn iawn cwtshio hwnna? Dyw’r peth ddim yn gwneud synnwyr. Rwy’n caru fy nghi Lemmy yn fawr iawn ac mae athletwyr eithafol rwyf wedi siarad â nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n fwy ffit ac yn teimlo’n fwy iach ar ddeiet fegan.”

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.