Home>News>Met Caerdyd yn Derbyn Darlun or Colurwraig ar cyn Fyfyrwraig Sian Grigg wrth i Arddangosfa BAFTA ddod i Gymru am y tro

Met Caerdydd Yn Derbyn Darlun O’r Colurwraig A’r Cyn-Fyfyrwraig Siân Grigg Wrth I Arddangosfa BAFTA Ddod I Gymru Am Y Tro Cyntaf

​9 Ebrill 2019

 

​Siân Grigg

Mae'r arddangosfa'n rhan o Ŵyl 'Diffusion' Ffotogallery, gyda chefnogaeth Elusen Hobson a gafodd ei agor yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd heddiw ac yn rhedeg tan Ebrill 27ain.

Bydd BAFTA Cymru yn cynnal yr achlysur "Yng Nghwmni" gyda Sian, enwebwyd am Oscar, i ddathlu 'Merched yn Arwain y Ffordd i Gymru' yn y diwydiant ffilm.

Bydd y Brifysgol hefyd yn derbyn rhodd o bortread o gyn fyfyrwraig Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn un o gasgliad o brintiau yn arddangosfa BAFTA – 'For the Love of Film: Women Leading the Way to Wales'.

Dyma'r tro cyntaf i'r arddangosfa, sy'n cynnwys detholiad o brintiadau o arddangosfa ddiweddar yn BAFTA, Llundain, yn dod i Gymru ac yn cynnwys ffotograff newydd o Siân, enillydd gwobr BAFTA, wedi ei dynnu gan Phil Fisk.

Mae'r cydweithrediad diweddaraf hwn yn arddangos ymrwymiad y Brifysgol ar gydweithio â busnesau a diwydiannau i wella cyflogadwyedd a sicrhau'r addysg fwyaf perthnasol i'r diwydiant i'r myfyrwyr.

Mae portffolio Siân yn cynnwys The Revenant; The Wolf of Wall Street, Django Unchained and The Great Gatsby.

Mae'r arddangosfa'n rhan o Ŵyl 'Diffusion' Ffotogallery, gyda chefnogaeth Elusen Hobson a bydd yn agor yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd y dydd Mawrth hwn ac y parhau hyd Ebrill 27ain. Mae am ddim ac yn agored i'r cyhoedd ar rai oriau dethol yn unig.

Mae achlysur "Cynulleidfa gyda" BAFTA a Siân Grigg ar Ebrill 26ain yn cyd-daro gyda'r arddangosfa. Bydd hi'n trafod ei gyrfa yn y diwydiant ffilm rhyngwladol hyd yma, a bydd nifer gyfyngedig o docynnau ar gael i'r cyhoedd.

"Mae Siân yn un o ymarferwyr creadigol mwyaf ysbrydoledig Cymru, ac wedi gweithio ar ffilmiau mawr fel Titanic, The Revenant (gydag enwebiad am wobrau BAFTA ac Oscar), Suffragette, y ffilm ddiweddar Goodbye Christopher Robin ac Ex Machina," meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddydd BAFTA Cymru.

"Yn dilyn cyflwyno ein Gwobr Siân Phillips arbennig i Siân yn 2016, rydyn ni'n gyffrous iawn i allu dadlennu'r ffotograff newydd ohoni wedi ei dynnu yn Ne Cymru. Bydd y noson hefyd yn cynnig cyfle i'r rheiny sy'n gweithio, neu sy'n awyddus i weithio, yn y diwydiant, i glywed am ei thaith gyrfaol, ei chyngor a'i safbwyntiau am yrfa ym maes ffilm. Ac, wrth gwrs, am weithio gyda Quentin Tarantino ar ei ffilm a fydd yn cael ei rhyddhau yn yr haf, Once Upon a Time in Hollywood!"

Mae portreadau ffotograffig ystyrlon Phil Fisk, sydd wedi'u comisiynu gan BAFTA, yn dathlu'r brwdfrydedd a'r gelfyddyd arobryn sydd tu ôl i'r sinema fodern. Mae'r gyfres hon yn cynnwys asiantau castio, actorion, artistiaid colur a chynhyrchwyr, ac yn amlygu'r broses o wneud ffilmiau, a'r bobl sy'n gwneud i hyn ddigwydd, sef y wynebu cyfarwydd o flaen y camera, a'r rhai hynny sydd o'r golwg tu ôl i'r llenni.

Cafodd y portread o Siân Grigg ei greu ar leoliad yn Ne Cymru, mwn man oedd o arwyddocâd personol iddi, gan mai yno cafodd ei magu ac mai yma mae'n byw rhwng prosiectau ffilmio sy'n ei chludo o gwmpas y byd. 

 "Rydym ni'n falch iawn o gael cyfle i ddathlu llwyddiant Siân, a'r dystiolaeth i'w galluoedd disglair ac i amrywiaeth y byd creadigol, sy'n egwyddor arweiniol Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd," meddai Olwen Moseley, Deon yr Ysgol.

"Mae amlygu'r amrediad o ddisgyblaethau a rolau sy'n rhan o'r diwydiannau creadigol mor bwysig i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr. Mae BAFTA a phawb sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol yn gwybod bod gwir lwyddiant yn deillio, nid o agenda gul STEM, ond o STEAM (cymhwysiad creadigol o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) wedi'i fynegi gan gatalydd Celf a Dylunio, sef y cynhwysion hanfodol ar gyfer arloesedd a hud a lledrith gwneud ffilmiau. 

 "Rydym ni hefyd yn falch iawn o fod yn cynnal yr arddangosfa hon o ffotograffau, fel rhan o Ŵyl Diffusion, sy'n dod yn fyw trwy ddisgyblaeth greadigol arall, sef tystiolaeth o greadigrwydd meidrol ar ei orau."

 "Rydym ni'n falch iawn bod yr arddangosfa hon yn dod i Gymru a'n bod ni'n gallu ei dangos fel rhan o Diffusion," meddai David Drake o Ffotogallery.

"Mae thema ein gŵyl, sef 'Sain a Llun', yn arddangos amrywiaeth o artistiaid ac unigolion sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac mae'n dangos bod enw da Caerdydd fel canolfan greadigol yn mynd o nerth i nerth. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu dathlu hyn gyda'n partneriaid yn BAFTA Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd."

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.

Cliciwch yma i archebu tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn