Home>News>Met Caerdydd yn Brif Noddwr Gwobrau Technoleg Cymru 2019

Met Caerdydd yn brif noddwr Gwobrau Technoleg Cymru 2019

​15 Mai 2019

 

Datgelwyd mai Prifysgol Metropolitan Caerdydd fydd prif noddwr Gwobrau Technoleg Cymru eleni.

Caiff Gwobrau Technoleg Cymru eu dyfarnu gan ESTnet, rhwydwaith y diwydiant technoleg yng Nghymru, ac maen nhw'n hyrwyddo cyflawniadau ac arloesedd eithriadol a wneir gan gwmnïau technoleg yng Nghymru.

Yn 2018, lansiwyd Ysgol Dechnolegau Caerdydd gan y Brifysgol ac y mae academyddion yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau technoleg a chyrff y diwydiant i ddatblygu portffolio o raglenni gradd wedi eu ffocysu ar y diwydiant. Mae'r Ysgol yn cynnig graddau mewn gwyddor cyfrifiaduron a pheirianneg meddalwedd, dylunio gemau, diogelu gwybodaeth, roboteg, electroneg a pheirianneg systemau.

Bydd y seremoni wobrwyo, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fehefin 20, yn rhoi sylw i bob agwedd o ddiwydiant technoleg bywiog Cymru. Ymhlith enillwyr blaenorol y saith mlynedd diwethaf mae Silvertel, WeBuildBots, DevOpsGroup, AMPLYFI a Wales Interactive.

Enillydd Gwobr Technoleg ESTnetNG y llynedd, sy'n cynorthwyo pobl ifanc brwd dros dechnoleg i wireddu eu huchelgais a'u talent ac sy'n cynnwys gwobr o £2000, oedd un o raddedigion Prifysgol Metropolitan Caerdydd, David Barton, sydd bellach yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni-cyfryngol Kaydiar.

Dywedodd Yr Athro Jon Platts, Deon Ysgol Dechnolegau Caerdydd: “Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi Gwobrau Technoleg Cymru 2019 ESTnet. Cynlluniwyd Ysgol Technolegau Caerdydd i gwrdd ag anghenion cyflogaeth y sector technoleg sydd ar gynnydd yn Ne Cymru. Rydyn ni'n bartneriaid i amrediad eang o gwmnïau seiliedig ar dechnoleg i sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen, mewn sector gyda chyfran gynyddol o yrfaoedd uchel eu cyflogau sydd angen graddedigion.

“Mae Gwobrau Technoleg Cymru yn gyfle ardderchog i gydnabod ystod eang o waith sy'n arwain y sector o fewn y busnesau technoleg yng Nghymru yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Edrychwn ymlaen i glywed rhagor am y gwaith blaengar sy'n digwydd ar hyd a lled y sector.”

Dywed Avril Lewis MBE, rheolwr gyfarwyddwr ESTnet: “Rydyn ni'n falch o gyhoeddi Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel Prif Bartner Gwobrau Technoleg Cymru am eleni.

“Mae Sefydliadau fel Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn hanfodol i helpu datblygu gweithlu'r dyfodol ac i sicrhau bod Cymru'n tyfu a sefydlu ei hun fel pegwn yn y diwydiant technoleg. Mae ESTnet yn chwarae rôl allweddol i gau'r bwlch rhwng y byd academaidd a byd busnes, gan helpu i gyflymu arloesedd ac i arddangos talent.

“Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn bartner addas ar gyfer y gwobrau am eleni, yn arbennig o ystyried mae un o raddedigion Prifysgol Metropolitan Caerdydd, David Barton, oedd enillydd Gwobr Dechnoleg fawr ESTnetNG a bod ei gwmni, Kaydiar, yn enghraifft berffaith o werthoedd y gwobrau – cyfuniad o ysbryd entrepreneuraidd, arloesedd a thalent.”

Am ragor o wybodaeth neu i neilltuo eich lle yng Ngwobrau Technoleg Cymru, yna ewch ar y wefan: http://www.walestechnologyawards.co.uk.

 I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.