Home>News>Partneriaeth ysgolion newydd i godi safonau addysg gychwynnol i athrawon

Partneriaeth ysgolion newydd Met Caerdydd i godi safonau addysg gychwynnol i athrawon

 

​09 Medi 2019

Mae partneriaeth arloesol, sydd â'r nod o gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o athrawon o'r safon uchaf, yn mynd i roi'r cyfle i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i hyfforddi wrth ochr athrawon o'r ysgolion cynradd ac uwchradd gorau ar draws De-Ddwyrain Cymru. 

 

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon a gafodd ei lansio heddiw [MEDI 9], yn gweld rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon newydd eu hachredu'r Brifysgol yn gweithio gydag 18 ysgol/cynghrair arweiniol y bartneriaeth sydd wedi'u hadnabod yn rhai o'r prif ddarparwyr addysg a dysgu proffesiynol yng Nghymru.

 

Bydd y dull cydweithredol hwn yn ceisio codi safonau addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru a chwrdd â gofynion sgiliau'r proffesiwn sy'n esblygu, gan gynnig dilyniant di-dor i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig Met Caerdydd o fod yn athro dan hyfforddiant i gael bod â statws athro newydd gymhwyso (ANG).

 

Yn lansiad swyddogol Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA heddiw [MEDI 9] ar gampws Cyncoed y Met, fe groesawodd Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol y Brifysgol, westeion a oedd yn cynnwys yr Athro Graham Donaldson, diwygiwr addysgol blaenllaw a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddylunio cwricwlwm newydd Cymru.  

 

Fe ddaeth nifer o gynrychiolwyr o ysgolion y Bartneriaeth i'r digwyddiad hefyd lle y gwnaeth y gwesteion fwynhau perfformiadau gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Glasllwch, Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Gwenfo, Ysgol Bassaleg ac Ysgol Gynradd Ystrad Mynach, ynghyd â thrafodaeth panel yn cynnwys myfyrwyr a rhanddeiliaid.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Rwy'n falch iawn o weld lansio rhaglenni addysg gychwynnol athrawon newydd Partneriaeth Caerdydd, a hoffwn longyfarch yr holl bartneriaid sy ' n ymwneud â'r gwaith o gyflawni hyn.

"Bwriedir i'r rhaglenni AGA newydd hyn ddenu'r bobl gywir sydd â'r sgiliau, y cymwysterau a'r gallu priodol i addysgu ac i ddarparu gweithlu addysg o ansawdd uchel sy'n fywiog, yn ennyn diddordeb ac yn ymroi i ddysgu parhaus i bawb.

 "Drwy achredu'r rhaglenni newydd hyn, mae Partneriaeth Caerdydd wedi profi eu bod yn barod i'n helpu i gyflawni newid sylweddol mewn addysg athrawon er mwyn darparu ' r athrawon o safon uchel sydd eu hangen arnom i addysgu yn ein hysgolion a darparu'r gorau cyfleoedd i'n plant.  "


Meddai'r Athro Graham Donaldson, sy'n ddiwygiwr addysgol blaenllaw, Bydd llwyddiant gwelliannau addysgol uchelgeisiol Cymru yn dibynnu ar ymrwymiad ac arbenigedd proffesiynol ei hathrawon. Felly, mae'n dda iawn gen i groesawu'r fenter gyffrous hon i addysg gychwynnol i athrawon wedi'i seilio ar bartneriaeth gref ar draws prifysgolion, ysgolion a llywodraeth leol. Drwy ddod â thystiolaeth ymchwil ac ymarfer blaenllaw at ei gilydd, bydd y Bartneriaeth yn gallu sicrhau y bydd ein hathrawon yn y dyfodol yn barod i ddal ar y cyfleoedd y bydd y cwricwlwm newydd yn eu cynnig i bobl ifanc Cymru.

 

Meddai Mrs Longville, "Yn ogystal â'r ysgolion a'r cynghreiriau arweiniol, bydd Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA hefyd yn cynnwys Prifysgol Rhydychen**, Consortiwm Canolbarth y De (CSC)**, Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS)**, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

 

"Mae'r partneriaid hyn wedi cyflawni'n helaeth i gyd-lunio'n tair rhaglen AGA – TAR Cynradd, TAR Uwchradd a BA Cynradd (Anrh) â Statws Athro Cymwysedig (SAC). Boddhad arbennig i ni yw ein bod wedi derbyn achrediad ar gyfer y rhaglen BA Cynradd (Anrh) â SAC a dau bwnc uwchradd newydd – TAR Daearyddiaeth a TAR Addysg Grefyddol.

 

"Bydd Partneriaeth Caerdydd yn hyfforddi mwy na 450 o fyfyrwyr y flwyddyn ar y cyfan a fydd yn ymarferwyr medrus iawn, wedi'u goleuo gan ymchwil yn ogystal ag yn arweinwyr dysgu yn ein hystafelloedd dosbarth yn yr 21ain yng Nghymru a thu hwnt. Mae parch mawr i'n rhaglenni yn fyd-eang a bydd tua 70 o fyfyrwyr rhyngwladol yn ymuno â'n rhaglenni ym mis Medi."

 

Meddai'r Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, "Mae Met Caerdydd yn darparu addysg i athrawon ers mwy na 60 o flynyddoedd. Mae ein hanes cyfoethog o gynhyrchu'r athrawon mwyaf talentog i ateb gofynion y ddarpariaeth addysg gyfredol yn tanlinellu statws y Brifysgol yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd ac sydd â gogwydd tuag at y galwedigaethol. Ein profiad helaeth yw'r grym a fu'n gyrru Partneriaeth newydd Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.

"Gan gydweithio gydag ysgolion y Bartneriaeth byddwn yn sicrhau y bydd athrawon dan hyfforddiant Met Caerdydd yn cyflawni ac yn rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer SAC. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant o safon uchel a fydd yn ymarferol drylwyr ac yn ddeallusol heriol ac a fydd yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y newidiadau i'r cwricwlwm a fydd yn dechrau yng Nghymru yn 2022."

 

*Ar gyfer 2019, Met Caerdydd fydd yr unig ddarparwr AGA wedi'i achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn Ne-Ddwyrain Cymru.

** Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA yn seiliedig ar fodel interniaeth a ddefnyddir gan Brifysgol Rhydychen i hyfforddi ei myfyrwyr TAR. Mae'r Bartneriaeth yn gweithio hefyd gyda  CSC, EAS ac ERW, y consortia lleol sy'n gyfrifol am y safonau a'r dysgu proffesiynol yn yr ysgolion, sy'n cefnogi'n ariannol ac yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol.

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.