Home>News>Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Disgyblion Cynradd yn Dylunio Ap Lles

Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Disgyblion Cynradd yn Dylunio Ap Lles

 


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansio ap lles sydd wedi'i ddylunio gan ddisgyblion cynradd a myfyrwyr y brifysgol i gynorthwyo disgyblion a rhieni i wella lles plant.

Cafodd yr Ap Lles iValue U, a ddaeth ar gael yn ddiweddar i'w lwytho i lawr o'r Apple App Store, ei ddatblygu gan ddisgyblion cynradd yng Nghymru ar gyfer plant eraill.  

Roedd iValue U yn ganlyniad i brosiect blwyddyn rhwng Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac ysgolion ar draws De Cymru. Cafodd y prosiect, a gyllidwyd gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), ei greu i gael mynd i'r afael â phroblem gynyddol plant ifanc a allai fod yn mwynhau amser yn yr awyr agored, yn treulio mwy a mwy o amser o flaen sgriniau. 

Mewn ymateb i ymchwil a oedd yn awgrymu bod llai o blant yn teimlo bod mynediad ganddyn nhw i fannau gwyrdd a'u bod yn teimlo wedi'u datgysylltu mwy a mwy oddi wrth natur, penderfynodd darlithwyr Met Caerdydd, Nick Young, Dylan Adams a Lisa Fenn gydweithio'n agos gydag ysgolion cynradd yn y rhanbarth.

Meddai Dylan Adams: "Mae gan drafodaethau ar les le blaenllaw yn y drafodaeth ym myd addysg a gwleidyddiaeth. Yn y cwricwlwm newydd arfaethedig, mae lles bellach yn un o'r chwe maes dysgu allweddol. Yn ogystal, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn galw ar gymunedau i flaenoriaethu lles a chynaliadwyedd. A ninnau'n brifysgol, gallwn helpu ysgolion i ddatblygu gweithgareddau a fydd yn cefnogi'r dysgu a'r diddordeb ym meysydd lles a chynaliadwyedd."

Cafodd yr holl gynnwys yn yr Ap Lles iValue U ei ddylunio a'i greu gan ddisgyblion o ysgolion cynradd Blaenycwm, Maes yr Haul, Calon y Cymoedd a Deighton o dan arweiniad myfyrwyr Blwyddyn 2 Addysg Gynradd Met Caerdydd. Gyda'i gilydd, cafodd y disgyblion a'r myfyrwyr eu cyflwyno i ioga, meddylgarwch, gweithgareddau adfyfyriol amlsynhwyraidd, bibliotherapi, 

dawns ac addysgeg awyr agored, gan amlygu sut gall dulliau meddylgarwch gael eu hymgorffori yn rhan o addysgu yn ogystal â bywyd bob dydd. 

Meddai Rhian Williams-Jones, athrawes yn Ysgol Gynradd Maes Yr Haul: "Mae'r prosiect cyfan hwn yn rhywbeth mae ein disgyblion ni wedi dod i edrych ymlaen ato. Maen nhw wedi penderfynu rhannu eu profiadau a'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu drwy ddosbarthiadau meddylgarwch gyda'r plant yn eu dosbarthiadau. Pan fyddan nhw'n sylwi bod ffrind yn cael trafferth ymdopi â'u hemosiynau, maen nhw wedi dechrau eu cefnogi ac maen nhw'n awgrymu rhai strategaethau y gwnaethon nhw eu dysgu drwy'r prosiect, ac mae mwy o ddisgyblion yn dod atyn nhw i ofyn am help. Mae'n ein hysbrydoli i weld yr effaith gadarnhaol mae hyn yn ei chael ar y bobl ifanc berthnasol."

Un o brif hyrwyddwyr yr ap yw Richard Parks, cyn chwaraewr rygbi Cymru, a wnaeth enw iddo'i hunan yn ddiweddar mewn anturiaethau ac ymgyrchoedd dygnwch lefel uchel.  

Fe wnaeth Richard gyfrannu i'r prosiect ac meddai: "A minnau'n dad, lles ein plant yw y peth pwysicaf i fi. Mae defnyddio technoleg i gefnogi lles meddwl ein plant yn well yn ffordd gyffrous i'n pobl ifanc, a phob un ohonom, ofalu am ein hiechyd meddwl. Pobl ifanc sydd wedi gyrru'r prosiect hwn a nhw sy'n greiddiol iddo. Maen nhw wedi gweithio'n galed ar y prosiect, wedi cyfrannu creadigrwydd ac egni, ac mae hyn yn ein hysbrydoli ac mae'r ffaith fy mod i wedi gweithio ar y prosiect hwn gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a disgyblion ar draws Cymru yn destun balchder i fi."

Mae'r Ap Lles iValue U ar gael nawr i'w lwytho i lawr o'r Apple App Store, ac mae'n rhannu strategaethau lles meddyliol a chorfforol ar gyfer pobl ifanc, rhieni ac athrawon.

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan hyn.