Home>News>Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dyfarnu'r Brif Anrhydedd i Gomisiynnydd Heddlur Met

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dyfarnu'r Brif Anrhydedd i Gomisiynnydd Heddlu'r Met

 


Mae Cressida Dick CBE QPM, Comisiy nydd Gwasanaeth Heddlu'r Met wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd i gydnabod ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus drwy gydol ei gyrfa ddisglair.

Enwebwyd Steve Dalton OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Sony UK Technology a Dr Eleanor Anne Freeman OBE hefyd yn Gymrodyr Anrhydeddus gan y Brifysgol.

Mae Cressida Dick wedi bod 35 mlynedd yn gwasanaethu'r cyhoedd, y rhan fwyaf ohono ym maes plismona. Penodwyd yn Gomisiynydd Heddlu Metropolitan Llundain yn 2017. Y Met ydi'r gwasanaeth heddlu mwyaf yn y DU, gyda chyfrifoldeb cenedlaethol, yn benodol yn gylch terfysgaeth. Mae hefyd wedi dal rolau yn cynnwys arweiniaeth Headdlu Thames Valley, Coleg Cenedlaethol yr Heddlu a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Mae Cressida wedi goruchwylio amrywiaeth eang o ymchwiliadau plismona proffil uchel a chymhleth sy'n pontio meysydd troseddau difrifol a throseddu ar raddfa eang, diogelwch ac amddiffyn.

Ymunodd Steve Dalton OBE â Sony ym 1983 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a symudodd i gefnogi sefydlu'r adnoddau gweithgynhyrchu newydd i adeiladu setiau teledu ym Mhencoed ym 1992. Erbyn 2003, Steve oedd Cyfarwyddwr Rheolaeth Weithredol y ddau safle, ac yn gyfrifol am 3000 o weithwyr a throsiant oedd dros £400 miliwn.

Cymhwysodd Dr Anne Freeman mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Manceinion ac enillodd Gymrodoriaeth yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon ym 1994. Fel meddyg ymgynghorol ym maes meddygaeth gyffredinol, strôc a gofal yr henoed, gweithiodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a gwasanaethodd fel yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae'n cadeirio Bwrdd Canolfan Strôc Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle maen nhw'n anelu i ddatblygu ymchwil, arloesedd ac addysg o'r radd flaenaf.

Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: "Mae'r Ddoethuriaeth Anrhydeddus a'r Cymrodoriaethau rydyn ni'n eu dyfarnu yr wythnos hon yn mynd i unigolion sydd wedi cael dylanwad eithriadol o fewn eu meysydd eu hunain ac sy'n parhau i ddangos ymrwymiad gwirioneddol egwyddorion a gweithredoedd y Brifysgol.

"Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a anrhydeddwyd eleni am eu harweinyddiaeth ysbrydoledig. Maen nhw i gyd yn fodelau rôl wirioneddol i'n myfyrwyr graddedig sy'n gallu dysgu o'u hesiampl wrth iddyn nhw gychwyn ar y cyfnod nesaf yn eu bywydau fel graddedigion o Brifysgol Metropolitan Caerdydd."

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan hyn.