Home>News>Prosiect Cwiltio yn Cefnogi Mamau Affricanaidd Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Prosiect Cwiltio yn Cefnogi Mamau Affricanaidd Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

​08/03/2019

 


Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn rhoi help llaw i brosiect sy'n anelu at godi arian hanfodol ar gyfer yr elusen Mamau yn Affrica, gan gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener hwn (9fed Mawrth).

Dan arweiniad Maggie Cullinane, Arddangoswraig Technegol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD), mae'r prosiect wedi gweld 20 o fyfyrwyr tecstilau, ynghyd â 5 arall o ffasiwn, cerameg, ac artist / dylunydd / gwneuthurwr yn helpu i gynhyrchu cwiltiau wedi'u gwneud â llaw a fydd yn y pen draw yn cael ei roi mewn raffl i godi arian ar gyfer yr elusen Affricanaidd.

Mae pob myfyriwr wedi cynllunio a chreu sgwâr i gefnogi creu'r cwilt, yn ogystal â chynnal digwyddiadau codi arian ar gampws y Brifysgol.

Mae'r prosiect wedi bod yn rhedeg ers 2012 ac mae eisoes wedi codi dros £4000 mewn cronfeydd hanfodol, sy'n mynd yn uniongyrchol i gefnogi menywod yn Affrica, lle mae, yn anffodus, geni plant yn gallu bod yn angheuol mewn niferoedd brawychus.

Trwy gydol Affrica, amcangyfrifir bod tri Boeing 747 yn llawn o famau yn marw wrth eni plant bob dydd, a bod risg menyw o farw o gymhlethdodau beichiogrwydd a geni plant y gellir eu trin neu eu rhwystro dros gyfnod ei hoes yn 1 ym mhob 6 (mewn rhanbarthau datblygedig, mae'r risg yn 1 mewn 7,300).

Mae Mamau yn Affrica yn darparu rhaglenni addysg gynaliadwy mewn ysgolion, cymunedau a chyfleusterau iechyd, yn ogystal ag adeiladu seilwaith i gefnogi'r rhaglenni addysg.
Ysbrydolwyd Maggie i sefydlu'r prosiect codi arian ar ôl ei phrofiad o eni plentyn, a sut yr oedd yn cyferbynnu â phrofiadau'r menywod y mae Mamau yn Affrica yn eu cefnogi.

Meddai Maggie: "Rydym yn ei gymryd yn ganiataol yn y byd datblygedig y bydd gennym feddygon a bydwragedd ar gael i sicrhau bod ein babanod yn cael eu dwyn yn ddiogel i'r byd, ac os bydd pethau'n mynd o chwith, gwneir rhywbeth i'w roi yn iawn.

"Ar ôl fy mhrofiad fy hun o eni plentyn, lle y gallai pethau yn rhwydd fod wedi mynd yn anghywir, pe na bai gennyf fynediad uniongyrchol at y gofal meddygol gorau, roeddwn i'n gwybod bod rhaid imi chwarae rhywfaint o ran wrth sicrhau bod gan fenywod ar draws y byd gwell mynediad at ofal mamolaeth.

"Mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhan flaenllaw o'r prosiect sydd wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn wych eu gweld yn rhoi eu sgiliau i ddefnydd mor dda a chodi ymwybyddiaeth o'r elusen deilwng iawn hon cyn diwrnod Rhyngwladol y Menywod."

Gall unrhyw un sy'n dymuno dysgu mwy am y prosiect gysylltu â Maggie ar gmcullinane@cardiffmet.ac.uk neu ymweld â'i blog https://moaquilt.wordpress.com/

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.