Home>News>Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel

Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel

​18/01/2019

 


Bydd Clwb Pêl-droed Met Caerdydd yn gobeithio sicrhau ail fuddugoliaeth yn erbyn Clwb Hogiau a Merched Cambrian a Clydach o'r Cymoedd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG yfory (Ionawr 19, 7.30pm).

Flwyddyn ddiwethaf, collodd Clwb Pêl-droed Met Caerdydd yn erbyn The New Saints (TNS) a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Cyrhaeddodd Met Caerdydd y rownd derfynol ym Mharc Jenner, y Bari ar ôl ennill eu tair gêm Uwch Gynghrair Cymru ddiwethaf.

Bydd eu gwrthwynebwyr Cambrian a Clydach o'r Cymoedd yn anelu at ddod y tîm cyntaf o du allan i Uwch Gynghrair Cymru i ennill y gwpan.

Dywedodd cyfarwyddwr pêl-droed Met Caerdydd Christian Edwards: "Ar ôl ennill ein gemau diwethaf, mae'r tîm yn teimlo'n dda wrth agosáu at y gêm ddydd Sadwrn.

"Mae Cambrian a Clydach yn chwarae'n dda ar hyn o bryd, ac mae hwn yn mynd i fod yn gêm anodd i bawb. Mae rhai wedi sôn nad oes ganddyn nhw obaith ennill, ond o ran eu perfformiad yn y Cwpan hyd yn hyn, mae'n amlwg nad yw hyn yn wir o gwbl.

"Ar ôl chwarae yn y rownd derfynol yma gynt, rydyn ni'n gwybod beth i'w ddisgwyl ac, felly, wedi paratoi eu hunain.

Rwy'n gobeithio y bydd torf dda ym Mharc Jenner ac y bydd yna ddigonedd o gefnogwyr Met Caerdydd yno i'n cefnogi ni ar y diwrnod."

Mae dros 300 o fyfyrwyr, staff a chefnogwyr Met Caerdydd yn bwriadu mynd i'r gêm. Cyn y gêm, bydd Met Caerdydd yn cymryd eu timau O dan 9, 10,11 a 12 i gystadlu mewn twrnamaint yn y Bari.

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.