Home>News>ground breaking dual career scheme cy

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei hachredu dan gynllun gyrfa ddeuol arloesol

 

Chwefror 10, 2020

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain y ffordd o safbwynt cynorthwyo athletwyr dawnus gyda'u haddysg yng Nghymru, ar ôl iddi gael ei hachredu gan y Cynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Dawnus (TASS).

Mae'r rhaglen, a gefnogir gan Sport England, yn cynorthwyo pobl ifanc sydd ar y llwybr athletwyr dawnus i gael cyfle i ennill cymwysterau ochr yn ochr â'u gweithgareddau ym maes chwaraeon, dilyn diddordebau eraill a datblygu'n bersonol.

Trwy gydnabod yn ffurfiol ymrwymiad sefydliad i gynorthwyo myfyrwyr sy'n athletwyr, mae Cynllun Achredu Gyrfa Ddeuol TASS yn ceisio galluogi athletwyr i wireddu eu potensial ym maes addysg a llwyddo yn eu camp ar yr un pryd.

Ceir cyfeiriad at y cynllun achredu yn yr adran ynghylch Addysg yn Adolygiad y Farwnes Tanni Grey-Thompson o ddyletswydd gofal mewn chwaraeon, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2017, ac mae'r achrediad yn dangos bod gan brifysgol neu goleg y gallu i gynorthwyo myfyrwyr sy'n dilyn llwybr gyrfa ddeuol. Wrth siarad o blaid y cynllun, meddai: 

"Rwy'n credu bod dyletswydd arnom i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, gan roi blaenoriaeth ar yr un pryd i'w lles a'u haddysg. Mae ar y mwyafrif helaeth o athletwyr angen sgiliau a chymwysterau ffurfiol i'w helpu i gael gyrfaoedd amgen, naill ai ochr yn ochr â'u gweithgareddau ym maes chwaraeon neu ar gyfer y cyfnod pan fyddant wedi rhoi'r gorau i gystadlu. 

"I mi, mae Cynllun Achredu Gyrfa Ddeuol TASS yn fesur hollbwysig o safbwynt sicrhau bod pob athletwr yn cael cyfle i gael addysg ac i fwynhau ffordd fwy cytbwys o fyw."

Fel safle sydd wedi'i achredu dan y Cynllun Gyrfa Ddeuol, bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn estyniad pwysig i'r rhwydwaith o brifysgolion sydd eisoes yn bartneriaid i TASS, oherwydd mae'n darparu gwasanaethau cymorth craidd bob blwyddyn i dros 600 o fyfyrwyr sy'n athletwyr.

Mae'r gwasanaethau cymorth hyn yn cynnwys cymorth o ran ffisiotherapi, maeth, ffordd o fyw, seicoleg, cryfder a chyflyru ynghyd â chynllun meddygol preifat.

Meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Met Caerdydd, Owen Rodgers: "Rydym yn hynod o falch bod TASS wedi dyfarnu statws Gyrfa Ddeuol i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda TASS ac at y posibilrwydd o ddenu mwy o athletwyr i'r Brifysgol."

Mae rhai o'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn canolbwyntio'n llwyr ar ddatblygu perfformiad y person ifanc ym maes chwaraeon, ond mae strwythur cymorth gyrfa ddeuol a pholisïau ynghylch hyblygrwydd academaidd yn ganolog i'r cymorth sydd ar gael i athletwyr sy'n astudio ar safle wedi'i achredu.

Mae pob safle sydd wedi'i achredu dan y Cynllun Gyrfa Ddeuol yn cael hyfforddiant a phecyn adnoddau i'w alluogi i ddarparu cymorth ymarferol o safbwynt gyrfa ddeuol a thynnu ynghyd bawb sy'n gweithio gyda'r athletwr.

I fyfyrwyr sy'n athletwyr, gallai'r polisïau ynghylch hyblygrwydd academaidd olygu eu bod yn cael cyfle i weld nodiadau neu adnoddau ar-lein a'u bod yn gallu trefnu sesiynau dal i fyny gyda darlithwyr, neu hyd yn oed aildrefnu terfynau amser neu ddyddiadau arholiadau mewn amgylchiadau eithriadol.

Yn y cyfamser, i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, disgwylir i'r ffaith ei bod wedi'i chydnabod yn safle sydd wedi'i achredu'n safle Gyrfa Ddeuol gan TASS fod yn fanteisiol o safbwynt denu mwy o athletwyr dawnus a meithrin cysylltiadau â sefydliadau eraill lleol ym maes chwaraeon. 

Meddai Cyfarwyddwr Cenedlaethol TASS, Guy Taylor"Rydym wrth ein bodd o allu dyfarnu achrediad Gyrfa Ddeuol TASS i golegau a phrifysgolion ledled y wlad.

"Mae cymorth gyrfa ddeuol yn ganolog i'r hyn y mae TASS yn ei wneud, a dyna pam mae'r Cynllun Achredu mor bwysig i ni i gydnabod y sefydliadau sy'n rhoi pwys ar addysg eu hathletwyr hefyd.

"Rydym yn gobeithio y bydd y polisïau ynghylch hyblygrwydd academaidd, sy'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y broses achredu, yn arwain at ddatblygu strwythur gyrfa ddeuol effeithiol a pharhaol ym mhob sefydliad. 

"Llongyfarchiadau i'r sefydliadau llwyddiannus ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â llawer mwy o golegau a phrifysgolion rhagorol yn y dyfodol agos."