Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog. Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.
O ran y cynnwys, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i chi ddeall ac archwilio chwaraeon o amrywiaeth o safbwyntiau disgyblaethol. Er enghraifft, byddwch yn dysgu am:
1. Y broses hyfforddi (ymarferol a damcaniaethol)
2. Arwyddocâd diwylliannol-gymdeithasol a moesegol chwaraeon a gweithgaredd corfforol
3. Y materion sy’n gysylltiedig â darparu addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o bersbectif addysgol
4. Maeth poblogaeth a chwaraeon
Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.
Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth:http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Un
Yn y flwyddyn gyntaf (Lefel 4), Ymgymerwch â chwe modiwl gorfodol, pump o'r rheini drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r modiwlau hyn y cynnig cyflwyniad cyffredinol i astudiaethau academaidd ym maes chwaraeon, gan ganolbwyntio ar hyfforddi, gwyddor chwaraeon, addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid, a materion cyfoes mewn chwaraeon ac addysg gorfforol.
Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn cynnig cyfle i chi hefyd ymarfer a datblygu eich sgiliau academaidd. Fe'ch cyflwynir hefyd i’r proses ymchwilio ym maes chwaraeon ac ymgymerwch â dau fodiwl ymarferol o'ch dewis (cyfrwng Saesneg).
- Ymchwil ac Ysgolheictod
- Addysg Chwaraeon Cymhwysol
- Dwyieithrwydd
- Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles
- Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg
- Addysg Gorfforol, Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg
Blwyddyn Dau
Yn yr ail flwyddyn (Lefel 5), datblygwch yn bellach eich gwybodaeth a dealltwriaeth o ran ein tair elfen allweddol, sef, hyfforddi/addysgu, gwyddor chwaraeon a materion moesegol. Bydd gofyn i chi astudio o leiaf pum modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymgymerwch â dau fodiwl ymarferol o'ch dewis (cyfrwng Saesneg).
- Dylunio a Phractis Ymchwil
- Addysg Chwaraeon Cymhwysol
- Lleoliad Proffesiynol
- Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles
- Moeseg Chwaraeon
Maeth
Blwyddyn Tri
Yn y drydedd flwyddyn (Lefel 6), cwblhewch brosiect terfynol drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n rhoi sylw i bwnc ymchwil mewn maes o'ch dewis. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a datrys problemau.
- Prosiect Terfynol
- Astudiaeth Annibynnol mewn Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon
- Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles Uwch
- Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dysgu ac Addysgu
Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn tanategu’r nodau addysgol a chanlyniadau dysgu ein rhaglenni a’n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Rhith-Amgylchedd Dysgu (Moodle) yn agwedd annatod o’r pecyn dysgu sydd yn cefnogi anghenion ein myfyrwyr.
Mae prif ddarlithoedd yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn ffocysu ar y cymhwysiad o gysyniadau allweddol gyda’r nod o wella profiadau ac ymrwymiad myfyrwyr. Cwrddwch â thiwtoriaid ar sail un-i-un. Fel Ysgol, gweithiwn yn galed darparu cyfleoedd dysgu a ganolbwyntir ar y myfyriwr sydd yn darparu amgylchedd dysgu hyblyg o safon.
Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso’r datblygiad o’ch ymresymu beirniadol tra’n annog y cyfaniad o bractis a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu o dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig. Rydym yn annog i chi ddatblygu agwedd cadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.
Mae sgiliau ‘EDGE’ Met Caerdydd (Ethical, Digital, Global and Entrepreneurial) yn rhan allweddol o’n dulliau addysgu a dysgu. Byddwch yn gymwys iawn dangos priodoleddau graddedig a ddisgwylir yn y byd gwaith Cystadleuol. Ein bwriad yw eich helpu datblygu’n broffesiynolwyr adfyfyriol ac ysgolheigion beirniadol.
Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, cewch brofiad dysgu o gynefino i raddio sydd yn gydlynol ac yn datblygu’ch hunaniaeth o fewn eich rhaglen astudio.
Nodweddion penodol o’r profiad dysgu ar Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (AChAG) yn cynnwys:
- Ymchwilwyr dawnus a hyfforddwyr o safon elitaidd sydd yn rhan annatod o’r amgylchedd dysgu unigryw hwn
- Cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi Lefel 1 a 2
- Cyfleusterau rhagorol sydd yn optimeiddio profiadau myfyrwyr
- Cyfle i wella’ch Cymraeg trwy astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith.
Asesiadau
Mae’r rhaglen hon yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu i roi ein myfyrwyr y profiad dysgu gorau.
Trwy asesu y gallwn dystio eich bod wedi cyflawni amcanion dysgu’r modiwlau yn ôl FHEQ a CQFW. Mae asesiadau yn cefnogi eich profiad dysgu gan ddarparu cyfleon i chi gael adborth ffurfiannol a chrynodol sydd yn profi’ch gwybodaeth, gallu, sgiliau a dealltwriaeth feirniadol. Asesir y modiwlau israddedig trwy gyfuniad o:
- Gwaith cwrs ysgrifenedig
- Cyflwyniadau poster
- Cyflwyniadau llafar
- Portffolios
- Arholiadau na/a welir
- Sgiliau ymarferol
- Gweithgareddau eraill sydd yn asesu, datblygu, gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o’ch blwyddyn olaf ar y radd er anrhydedd. Gall prosiectau terfynol fod yn ymchwil, arloesedd, ymgynghoriaeth neu brosiect cymunedol.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae ‘EDGE’ Met Caerdydd yn eich paratoi am llwyddo yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd, cewch ystod o gyfleon i ddatblygu’ch galluoedd ‘Ethical, Digital, Global & Entrepreneurial’ trwy dysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos y byd go iawn, profiad gwaith ar gampws a lleoliadau gwaith oddi ar gampws. Sicrhawn y cewch ystod o gyfleon i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, cydweithio ac arwain.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf y cewch gyfle i ennill cymwysterau technegol mewn ystod o feysydd rhaglen-benodol, gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, ymarfer corff ac iechyd a diogelwch. Sicrha’r cyfleon hyn fod y cymwysterau perthnasol gennych er mwyn ymgeisio am lawer o gyfleon lleoliad gwaith ar gael ar/oddi ar gampws. Helpwn fyfyrwyr i chwilio am gyfleon i astudio/gweithio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi i chi ‘EDGE’ pwysig o ran cael swydd wedi graddio. Mae graddedigion AChAG wedi ennill cyflogaeth yn y meysydd canlynol: cyfryngau, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol. Mae llawer o’n graddedigion yn parhau’n y Brifysgol ar gwrsiau ôl-raddedig (TAR, Meistr a Doethuriaeth). .
Gofynion Mynediad a Sut i Ymgeisio
Dylai ymgeiswyr fod gyda phroffil chwaraeon cryf. Dylai ymgeiswyr fod gyda phum TGAU gan gynnwys gradd C mewn TGAU Saesneg (Iaith) (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg, ynghyd â 112 - 120 o bwyntiau o dri Level A (neu'n gyfatebol):
- 112 - 120 o bwyntiau o 3 Safon Lefel A i gynnwys graddau BB mewn pwnc perthnasol; (Bagloriaeth Cymru i'w hystyried fel trydydd pwnc)
- Diploma Estynedig & RQF BTEC/Cambridge Technegol gyda Rhag/Clod/Clod
- Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gyda Rhag/Clod/Clod
- 112 - 120 o bwyntiau o Dystysgrif Ymadael Iwerddon ar lefel uwch i gynnwys 3 x gradd H2 mewn pwnc perthnasol (y radd isaf a ystyrir yw H4)
- Derbyniad i Addysg Uwch: Pasio gyda 15 credyd (Rhag) a 30 credyd (Clod)
- 112 - 120 o bwyntiau o Arholiadau Uwch yr Alban, i gynnwys graddau CC.
- Cwblhau
Rhaglen Sylfaen Ysgol Rheolaeth Caerdydd yn llwyddiannus**
Bydd cynigion nodweddiadol yn cael eu gwneud o fewn y tariff a nodir uchod ac yn seiliedig ar gryfder eich cais, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon.
Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod, neu os nad yw eich cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu chwiliwch am y cwrs ar UCAS Course Search.
Gweithdrefnau Dderbyn:
Seilir y proses dethol ar gais UCAS sydd wedi'i gwblhau a phresenoldeb ar Ddiwrnod Ymgeiswyr Chwaraeon.
Diwrnodau i Ymgeiswyr Chwaraeon:
Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i Ddiwrnod Ymgeiswyr fel rhan o'r proses ymgeisio. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Ddiwrnodau Agored a Diwrnodau Ymgeiswyr.
Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus roi blaenoriaeth gyntaf i dimau chwaraeon y Brifysgol trwy gydol eu gyrfa fel myfyrwyr is-raddedig.
Sut i Ymgeisio:
Dylech gyflwyno ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS. Ewch i'n tudalennau Sut i Ymgeisio am fwy o wybodaeth. Dylai ymgeiswyr rhan amser fod yn dilyn y ddolen hon:
www.cardiffmet.ac.uk/selfservice.
Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig a Throsglwyddo Credydau i mewn i Blwyddyn 2 a 3
Os ydych am drosglwyddo credydau i gwrs sydd yn derbyn Derbyniadau Blwyddyn 2 a/neu 3, yna gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ar sut i ymgeisio ar y tudalen we RPL. Cysylltwch â Derbyniadau am gymorth pellach.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Cyn ymgeisio, dylai myfyrwyr rhyngwladol (y rhai tu allan i’r UE) fod yn cysylltu â Swyddfa Ryngwladol Met Caerdydd i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol o ran astudio gyda ni. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Ymgeiswyr aeddfed
Ymgeiswyr aeddfed yw unrhywun dros 21 oed, sydd ddim wedi mynychu'r Brifysgol ar ôl gorffen ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth
yma.
Cysylltwch â Ni