Dinas sy’n fwrlwm o ddiwylliant, mannau gwyrdd a dyfrffyrdd hardd. Mae yma angerdd dros chwaraeon, cerddoriaeth a bywyd nos gwych i fyfyrwyr, ac mae rhywbeth at ddant pawb. Cewch gyfle i ddewis o’r opsiynau siopa amrywiol a’r sîn fwyd ryngwladol, neu ewch ar antur ychydig y tu allan i’r ddinas gyda llecynnau arfordirol a mynyddig gorau gwledydd Prydain ar garreg ein drws. Hyd yn oed os ydych chi o Gaerdydd neu os ydych chi’n ystyried dod yma o bell i astudio, mae eich cartref newydd yn barod ac yn aros amdanoch.
Gwnewch ein dinas yn gartref i chi
O ran dewis ble i astudio, nid dod o hyd i’r cwrs iawn yw popeth – mae hefyd yn ymwneud â dewis y lle y byddwch chi’n treulio blynyddoedd nesaf eich bywyd. Er bod gan ein dinas enw da yn fyd-eang, mae yna deimlad lleol iddi – ac mae’n un o’r cymunedau mwyaf cyfeillgar y gallech obeithio amdani. Fe welwch fod poblogaeth brysur o fyfyrwyr wedi’u lleoli’n bennaf yn y Rhath a Cathays, dwy ardal brysur yn llawn caffis, bariau, tafarndai a siopau cynaliadwy annibynnol, y ddau le o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas.
01 - 04
Caiff Caerdydd ei graddio’n gyson fel un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yng ngwledydd Prydain i fyfyrwyr.
Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest
Dinas ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant
Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei sîn gerddoriaeth wefreiddiol. Yn gartref i leoliadau indi llai sy’n dathlu talent cartref, fel Clwb Ifor Bach, Jacobs Roof Garden a’r Tramshed, fe welwch fandiau o fri rhyngwladol yn Arena Utilita Caerdydd a rhai o artistiaid mwyaf y byd yn perfformio yn Stadiwm Principality. Os byddwch yma yn yr haf gallwch wylio llu o artistiaid yn perfformio yn erbyn cefndir hanesyddol castell Caerdydd yn y dewis helaeth o gigs a gynhelir bob haf.
01 - 04
Dinas ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant
Dewch i weld sioe yn Theatr y Sherman yn Cathays, comedi byw yn The Glee Club ym Mae Caerdydd, neu ffilm yn un o bedair sinema amlbleth Caerdydd, Sinema Everyman a llond llaw o sinemâu dros dro yng Nghastell Caerdydd a lleoliadau awyr agored ledled y ddinas.
Mae adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yn lleoliad theatr a chelfyddydau byd-enwog, sy’n ddelfrydol ar gyfer ffans cerddoriaeth, ac yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn Nhreganna fe gewch chi sinema, theatr gyfoes, bar a chaffi i gyd mewn un.
01 - 04
Dinas ar gyfer bwyd a diod
Os am fwyd, ewch ar eich union i Farchnad hanesyddol Caerdydd yng nghanol y ddinas. Yn masnachu ers y 1700au, mae Marchnad Caerdydd bellach yn lleoliad i werthwyr bwyd stryd annibynnol, siopau dillad vintage, bwyd traddodiadol Cymreig (cacennau cri cynnes yn syth o’r planc!) a choffi artisan.
Mae’r ddinas yn cynnig y siopau cadwyn enwog ynghyd â sîn fwyd annibynnol gyda digwyddiadau a gwyliau dros dro rheolaidd ledled y ddinas, fel y Street Food Circus.
01 - 04
Dinas ar gyfer bwyd a diod
Cewch dafarndai traddodiadol, bariau coctel, a bariau cwrw crefft ochr yn ochr â chymysgedd o glybiau nos sydd i gyd yn cynnal nosweithiau wythnosol ar wahanol themâu i fyfyrwyr. Yn dibynnu ar eich syniad o noson allan, mae gan Gaerdydd hefyd lu o leoliadau adloniant cymdeithasol, fel caffis gemau bwrdd, bariau arcêd retro a bariau gemau cystadleuol.
Mae lleoliadau unigryw fel y DEPOT – gofod annibynnol gyda phrofiadau yn ganolog iddo, a sefydlwyd gan Nick Saunders, un o raddedigion Marchnata Met Caerdydd – yn cynnig canolbwynt ar gyfer bwyd stryd, digwyddiadau byw a’r BINGO LINGO enwog.
01 - 04
Dinas ar gyfer chwaraeon
Treuliwch eich penwythnosau yng Nghaerdydd yn mwynhau’r awyrgylch gyda llu o wahanol fathau o chwaraeon. O bêl-droed yn Stadiwm Dinas Caerdydd, criced rhyngwladol yng Ngerddi Sophia, hoci iâ gyda Devils Caerdydd ym Mae Caerdydd ac, wrth gwrs, rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality, mae gan Gaerdydd gyfoeth o ddigwyddiadau i’ch diddanu.
Ac os ydych chi am fod yng nghanol y dorf, cymerwch ran yn ras flynyddol 10k Caerdydd a Hanner Marathon Caerdydd, gyda marathon llawn dafliad carreg i ffwrdd yng Nghasnewydd.
01 - 04
Dinas antur (a thu hwnt)
I’r rhai sy’n chwilio am antur, dringo dan do, rafftio dŵr gwyn, sglefrio iâ neu nofio mewn pwll maint Olympaidd o’r radd flaenaf – maen nhw i gyd yma ar garreg eich drws.
Neu gallwch fwynhau rhai o gyfleoedd syrffio ac arfordira gorau gwledydd Prydain, a beicio, heicio neu farchogaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i gyd o fewn awr i’r ddinas. Caerdydd yw'r ganolfan berffaith ar gyfer archwilio popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.