Diwrnodau Agored, Teithiau Campws, a Gweminarau Clirio
01 - 02
Teithiau Campws Clirio
Pryd? Dydd Sadwrn 16 a Dydd Mercher 20 Awst 2025, 10yb – 2yp
Wedi'i anelu at ddisgyblion sy'n awyddus i sicrhau lle ym Met Caerdydd drwy’r broses Glirio ac a hoffai ymweld â'n campysau cyn ymuno â ni ym mis Medi. Bydd timau Gwasanaethau Cymorth a Recriwtio Myfyrwyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd ein Llysgenhadon Myfyrwyr cyfeillgar yn arwain teithiau tywys fel y gallwch archwilio ein campysau a gofyn cwestiynau am fywyd myfyrwyr a sut beth yw astudio ym Met Caerdydd.
Byddwn yn cynnal cyfres o weminarau i'ch cefnogi dros y cyfnod Clirio. Mae'r rhain yn amrywio o'r hyn i'w ddisgwyl ar ddiwrnod y canlyniadau i’r gefnogaeth sydd ar gael a chyngor penodol os ydych chi'n mynd trwy'r broses Clirio. Gwelwch y weminarau isod.
Eich Cynnig Clirio - beth sydd nesaf?
Os ydych chi wedi derbyn cynnig trwy'r broses Clirio, byddwn yn esbonio'r hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf i wneud yn sicr eich bod yn barod i gychwyn prifysgol ym Medi.