Derbyniwch eich cynnig Clirio Met Caerdydd a gwnewch gais am lety erbyn 5yp ar 21 Awst 2026, a byddwn yn gwarantu cynnig llety i chi ar gyfer 2026/27.
Gall llety fod ym mhreswylfeydd Met Caerdydd neu gydag un o'n partneriaid llety dibynadwy yng Nghaerdydd. Er ein bod yn gwarantu cynnig llety, ni allwn warantu preswyliad penodol, math o ystafell, lleoliad neu bwynt pris.
Efallai y bydd myfyrwyr sy'n derbyn cynnig ar ôl 21 Awst 2026 yn gallu sicrhau llety mewn preswylfeydd Met Caerdydd neu gydag un o'n partneriaid llety dibynadwy.