Cofrestrwch ar gyfer Taith Campws i archwilio ein cyfleusterau a gweld beth sydd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i'w gynnig.
Mae Teithiau Campws yn cael eu harwain gan ein Llysgenhadon Myfyrwyr cyfeillgar ac maent hefyd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am fywyd myfyrwyr ac astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ar y dyddiadau isod, byddwch yn cael y cyfle i ymweld â'n campysau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymorth dewisol gyda'r tîm Recriwtio Myfyrwyr. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i helpu gydag unrhyw gwestiynau am Brifysgol Metropolitan Caerdydd a'r broses ymgeisio. Bydd hefyd cyfle i gael cyngor ac adborth ar eich datganiad personol.
- 19 Tachwedd 2025
- 3 Rhagfyr 2025
- 10 Rhagfyr 2025
- 17 Rhagfyr 2025
- 7 Ionawr 2026
- 8 Ionawr 2026
- 9 Ionawr 2026
I gadarnhau eich lle, cwblhewch y ffurflen isod.