Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Cyflawni Effaith Ranbarthol

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn credu mewn troi uchelgais yn weithredu. Wrth i Gymru symud tuag at ddyfodol cryfach, gwyrddach, a digidol yn unol â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, rydym yn troi ein harbenigedd academaidd yn gefnogaeth weithredol ar gyfer y trawsnewidiad hwn i Gymru — gan weithio law yn llaw â busnesau, cymunedau, a sefydliadau'r sector cyhoeddus i arfogi pobl â'r sgiliau a'r arloesedd sydd eu hangen i bweru'r newid mawr ei angen hwn.

Diolch i Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU, Cronfa Gymdeithasol Ewrop Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'n Cynghorau partner, rydym yn cyflawni mentrau wedi'u targedu mewn twf glân, sgiliau digidol ac arloesedd busnes. Mae'r rhaglenni hyn wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â heriau allweddol—helpu Cymru i gyflawni sero net, cofleidio'r chwyldro digidol, ac adeiladu economi wydn.

Mae Cymru a'r DU ehangach ar genhadaeth i gyrraedd sero net erbyn 2050, ond mae cyrraedd yno yn gofyn am gamau ymarferol ac uniongyrchol gan fusnesau a chymunedau, a gelllir cyflawni hyn drwy’r rhaglen Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC). Rydym yn helpu sefydliadau i ailystyried eu modelau busnes, mabwysiadu arferion cynaliadwy, ac arloesi ar gyfer dyfodol carbon isel.

Lawrlwythwch Astudiaeth Achos CEIC

Mewn byd ar-lein sy'n datblygu'n gyflym, nid yn unig mae sgiliau digidol yn braf i'w cael - maent yn hanfodol. Mae Rhwydwaith Cymorth Dysgu Technoleg Ddigidol (DTLSN) Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwalu rhwystrau i gynhwysiant digidol drwy ddarparu hyfforddiant ymarferol, offer a chymorth i unigolion, ysgolion a busnesau ledled Cymru.

Lawrlwythwch Astudiaeth Achos DTLSN

Mae busnesau sy'n cael eu rhedeg yn dda yn hanfodol i economïau cryf. Mae Rhaglen Twf Busnes Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a gynhelir gan y Ganolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter (CLEC), yn cyfarparu entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd â'r sgiliau rheoli strategol a datblygu pobl sydd eu hangen ar gyfer twf cynaliadwy.

Lawrlwythwch Astudiaeth Achos CLEC

Mae Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n cyfuno arbenigedd technegol, mewnwelediad ac ymchwil i helpu i adeiladu busnesau bwyd mwy arloesol, gwydn a llwyddiannus.

Fel rhan o Raglen HELIX Llywodraeth Cymru, mae ZERO2FIVE yn gweithio gyda chwmnïau bwyd a diod o bob maint ac yn gam twf i ddarparu cymorth technegol, megis datblygu cynnyrch newydd, ardystiad trydydd parti, cydymffurfio â safonau bwyd byd-eang (gan gynnwys BRCGS a SALSA) ac effeithlonrwydd prosesau.

Mae gan ZERO2FIVE gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ystafell synhwyraidd defnyddwyr, pedair ardal prosesu bwyd gwahanol, cegin datblygu a chegin arsylwi defnyddwyr.

Mae Uned Ymchwil Bwyd a Diod Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn arbenigo mewn ymchwil sy'n canolbwyntio ar y diwydiant bwyd a diod, ymchwil diogelwch bwyd defnyddwyr yn y lleoliad domestig ac ymchwil gofal iechyd sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd.

Bob blwyddyn, mae ZERO2FIVE yn gweithio gyda dros 100 o gwmnïau bwyd a diod yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru. Mae'r cwmnïau hyn yn amrywio o rai sy’n dechrau arni i rai o'r cwmnïau bwyd a diod mwyaf yn Ewrop.

Rhwng Gorffennaf 2023 a Mawrth 2025, mae'r cymorth a ddarparwyd gan ZERO2FIVE a'r ddwy ganolfan fwyd arall sy'n darparu Rhaglen HELIX wedi cyfrannu at greu 188 o swyddi newydd, diogelu 6,131 o swyddi, creu 533 o gynnyrch newydd ac effaith ariannol gyffredinol o £303m.

Ewch i dudalennau gwe Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i ddarganfod mwy.

Partneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Yard a Chyngor Caerdydd oedd prosiect DAPTEC, i drawsnewid data amgylcheddol cymhleth o Ynys Echni yn osodiad cyhoeddus rhyngweithiol yn Techniquest, gan ymgysylltu cymunedau, ysgolion ac ymwelwyr â STEM trwy dechnoleg greadigol. Drwy gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar hinsawdd a natur, cymunedau cryfach, a Chymru fwy cyfartal, cododd y prosiect ymwybyddiaeth amgylcheddol, ysbrydolodd dalent y dyfodol, ac arddangosodd bŵer cydweithio traws-sector wrth gyflawni arloesedd sy'n seiliedig ar leoedd.

I gael gwybodaeth am ffyrdd y gall eich sefydliad gydweithio â Met Caerdydd gyda nifer o gyfleoedd a ariennir wedi'u hesbonio, ewch i'n tudalen Cydweithio a Chyllido.

Bu Rhaglen Partneriaethau rhwng y byd Academaidd a byd Diwydiant Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle cyffrous i fusnesau â photensial uchel ddatgloi cyfleoedd twf newydd uchelgeisiol trwy bartneru ag arbenigedd Academaidd.

Dan arweiniad Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, hwylusodd y rhaglen ddatblygiad cynhyrchion, gwasanaethau, technolegau neu brosesau newydd neu well, gan feithrin arloesedd a thwf economaidd yn y rhanbarth trwy gyllid wedi'i dargedu. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen a'i hamcanion ar gael drwy glicio yma.

Roedd ystod o arbenigedd a chymorth ymyrraeth ar gael ar draws y tri sefydliad partner academaidd. Cafodd prosiectau eu halinio â chanolfannau a sefydliadau academaidd perthnasol yn seiliedig ar yr adnoddau a'r capasiti oedd ar gael i gefnogi cyflawni prosiectau ar y pryd.

Penderfynodd PDR ym Met Caerdydd i bartneru â Ride Adapt i ddatblygu datrysiad trwy'r rhaglen a oedd yn diwallu eu hanghenion. Cliciwch yma i weld yr astudiaeth achos o'r rhaglen honno.