Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Cysylltu â Ni

Mae cyfleusterau modern, hyblyg Met Caerdydd yn leoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad, cyfarfod, neu gynhadledd nesaf – yn cynnig amgylchedd proffesiynol gyda dolenni trafnidiaeth ardderchog, lluniaeth a bwyd ar y safle, a chymorth penodol. Mae amrywiaeth o ddewisiadau llety fforddiadwy hefyd ar gael, sydd yn ddelfrydol ar gyfer cynrychiolwyr sy’n mynychu digwyddiadau yn y brifddinas.

I ddarganfod mwy neu i dderbyn cymorth pellach gyda’ch ymholiad, cysylltwch â’r tîm ar conferenceservices@cardiffmet.ac.uk neu llenwch y ffurflen isod.

Diweddariad Archebu’r Haf

Diolch am eich diddordeb yng ngwasanaethau Cynadledda Met Caerdydd.

Sylwch fod ein hystafelloedd eisoes wedi’u harchebu ar gyfer cyfnod yr haf oherwydd nifer fawr o ddigwyddiadau allanol sy’n cael eu cynnal ar draws ein campysau. Mae’n dymor hynod o brysur i ni, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym yn dal i groesawu ymholiadau archebu o fis Medi 2025 ymlaen. Fodd bynnag, oherwydd y galw presennol am ystafelloedd, byddwn yn ceisio ymateb i unrhyw geisiadau archebu newydd o fewn 5 diwrnod gwaith.

Diolch am eich dealltwriaeth ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn y dyfodol agos.

Diolch am eich amynedd,
Tîm Cynadledda Met Caerdydd

Holi Ar-lein