Chwaraeon i Bob Oed
Yn ystod y tymor, mae dros 2800 o blant (5 oed+) yr wythnos yn mynychu amrywiaeth o academïau chwaraeon a drefnir gan Chwaraeon Met Caerdydd. Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau chwaraeon yn ystod gwyliau'r ysgol, ac yn ystod gwyliau'r Pasg a'r haf rydym yn cynnal Gwersylloedd Chwaraeon, gwersylloedd aml-weithgaredd i blant 4 - 14 oed. Rydym hefyd yn rhedeg gwersylloedd haf chwaraeon penodol a gellir eu harchebu trwy'r Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Yn ogystal â’n rhaglenni ar y campws, mae’r Tîm Cymunedol Met Caerdydd yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd chwaraeon, gweithgarwch corfforol, ac iechyd a lles mewn cymunedau lleol. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys cysylltiadau ysgol-clwb, canolfannau chwaraeon cymunedol, mentrau chwaraeon cynhwysol, a gweithgareddau allgymorth sy’n hyrwyddo cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Archebu Ar-leinArchebu Ar-lein