Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Rhaglenni Chwaraeon Iau

Mae Chwaraeon Met Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o academïau chwaraeon i blant 4 oed a hŷn. Mae pob academi yn rhedeg dros gyfnod o wyth i ddeuddeg wythnos yn ystod y tri thymor ysgol. Mae pob academi yn cael ei rhedeg o dan gyfarwyddyd ein hyfforddwyr chwaraeon cwbl gymwys (sydd wedi cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

​Archebwch a darganfyddwch ragor o wybodaeth ynghylch ein rhaglenni chwaraeon iau ar yr Ap Chwaraeon Met Caerdydd.​

Mae Met Caerdydd yn gweithredu strwythur rhaglen o fewn y chwaraeon unigol. Mae'r strwythur hwn yn caniatáu datblygiad parhaus o fewn pob camp, o'r lefel sylfaenol hyd at ben elitaidd y sbectrwm.

Dyddiadau'r Tymor

​​Mae hwn yn canllaw yn unig; gall dyddiadau amrywio ar gyfer gwahanol chwaraeon​:

  • Medi i Ragfyr
  • Ionawr i Fawrth
  • Ebrill i Fehefin

Parcio ar Gampws Cyncoed

Gall y maes parcio ar Gampws Cyncoed fod yn brysur iawn. Rydym yn argymell gadael digon o amser i barcio eich car cyn cyrraedd ar gyfer gweithgaredd. Os bydd y prif faes parcio yn llawn, cofiwch fod y maes parcio gorlif hefyd ar gael. Mae cyfarwyddiadau i’r maes parcio gorlif i’w gweld yn y ddolen isod ynghyd â’r llwybr troed dynodedig o’r maes parcio i dderbynfa NIAC.

Sicrhewch eich bod yn talu ac arddangos os ydych wedi parcio am fwy nag ugain munud. Gellir talu am barcio at y peiriannau neu drwy'r Ap 'PayByPhone'.