Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig cartref yn gymwys i gael cyllid Cyllid Myfyrwyr.
Bydd hyn yn talu cost ffioedd dysgu, a delir gan Gyllid Myfyrwyr yn uniongyrchol i'r brifysgol.
Dylid ei ddefnyddio hefyd i helpu gyda chostau byw (a elwir yn fenthyciadau cynhaliaeth a/neu grantiau cynhaliaeth). Mae'r grantiau hyn yn cael eu talu'n uniongyrchol i fyfyrwyr.
Bydd y dudalen hon yn ymdrin â'r canlynol:
- Y gwahanol gyrff ariannu Cyllid Myfyrwyr a manyolion cyswllt
- Cymhwysedd
- Sut i wneud cais
- Pryd i wneud cais
- Swm y benthyciad
- Dyddiadau eich rhandaliadau
- Ad-dalu'ch benthyciad
- Asesiad incwm y cartref
Cyrff Ariannu a Manylion Cyswllt Cyllid Myfyrwyr
Rydych chi'n gwneud cais i'r cyllidwr yn y wlad lle rydych chi fel arfer yn byw.
Nid yw lle rydych chi'n bwriadu astudio yn effeithio ar y corff ariannu rydych chi'n gwneud cais iddo, e.e., os ydych fel arfer yn byw yn Lloegr ac yn gwneud cais i Met Caerdydd, yna'r corff ariannu rydych chi'n gwneud cais iddo yw Cyllid Myfyrwyr Lloegr.
Gweler dolenni isod i bob darparwr Cyllid Myfyrwyr:
- Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru - ffoniwch 0300 200 4050
- Gall myfyrwyr o Loegr wneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr Lloegr - ffoniwch 0300 100 0607
- Gall myfyrwyr o'r Alban wneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr yr Alban - ffoniwch 0300 555 0505
- Gall myfyrwyr o Ogledd Iwerddon wneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon - ffoniwch 0300 100 0077
Am gyngor penodol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol, cysylltwch â ni ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu cysylltwch â'ch benthyciwr yn uniongyrchol.
Cymhwysedd
Mae nifer o feini prawf cymhwysedd i allu derbyn Cyllid Myfyrwyr:
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort dilys
- Manylion cyswllt y rhiant/rhieni rydych chi'n byw gydag fel arfer (neu'ch partner os ydych chi'n byw gyda nhw). Adnabyddir rhein fel eich 'noddwyr'.
Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gael ar wefan y corff cyllido penodol (dolenni isod).
Os ydych wedi astudio ar lefel israddedig o'r blaen ac wedi derbyn Cyllid Myfyrwyr, efallai y gallwch wneud cais am gyllid pellach.
Bydd hyn yn dibynnu ar ba mor hir y buoch chi’n astudio’n flaenorol, ac a oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol ar gyfer gadael eich cwrs blaenorol.
Hefyd, os ydych yn bwriadu astudio cwrs sy'n gymwys ar gyfer bwrsariaeth GIG, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr hyd yn oed os ydych wedi astudio o'r blaen. Gall y rheolau hyn fod yn gymhleth felly rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch ariannwr yn uniongyrchol i gael cyngor sy'n benodol i'ch amgylchiadau.
Sut i Wneud Cais
Y ffordd hawsaf yw gwneud cais ar-lein i'r cyllidwr yn y wlad rydych chi'n byw ynddi fel arfer ar adeg gwneud cais am brifysgol.
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael Cyfeirnod Cwsmer unigryw, a bydd angen i chi greu cyfrinair ac ateb cyfrinachol. Bydd angen y manylion hyn arnoch bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr.
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen:
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort dilys. Oni bai eich bod yn gadael gofal, yn dieithrio, neu'n dros 25 oed
- Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu manylion cyswllt y rhiant/rhieni rydych fel arfer yn byw gyda nhw (neu'ch partner os ydych yn byw gyda nhw). Gelwir y rhain yn 'noddwyr'.
Ar ôl i chi wneud eich cais, bydd Cyllid Myfyrwyr yn cysylltu â'ch noddwyr ac yn gofyn iddynt am eu manylion cyflogaeth a'u rhif Yswiriant Gwladol i'w helpu i gyfrifo eich hawl Cyllid Myfyrwyr.
Ar ôl i chi wneud cais, gallwch fewngofnodi ar unrhyw adeg i wirio statws eich cais, cadarnhau unrhyw gamau sydd eu hangen i gwblhau eich cais, a gweld copïau o unrhyw ohebiaeth y maent wedi'i hanfon atoch ynglŷn â'ch cais.
Pryd i Wneud Cais
Gallwch wneud cais am Gyllid Myfyrwyr o'r mis Mawrth cyn i chi ddechrau eich astudiaethau.
Nid oes angen i chi aros nes bod gennych gynnig wedi'i gadarnhau.
Y dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am asesiad gwarantedig a chyllid ar ddechrau'r tymor newydd ym mis Medi yw:
- Cyllid Myfyrwyr Cymru: 23ain Mai 2025 ar gyfer myfyrwyr newydd a 27ain Mehefin 2025 i fyfyrwyr sy’n parhau
- Cyllid Myfyrwyr Lloegr: 16eg Mai 2025 ar gyfer myfyrwyr newydd a 20fed Mehefin 2025 i fyfyrwyr sy’n parhau.
Bydd angen i chi hefyd ailymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs.
Mae ceisiadau ar-lein fel arfer yn agor ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn barod ar gyfer y mis Medi canlynol. I ailgyflwyno, mewngofnodwchi'ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr ar-lein.
Os oes unrhyw rai o'ch manylion wedi newid e.e. cyfrif banc, manylion cyswllt ac ati, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu diweddaru yn eich cais.
Ariannu
Bydd faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar ba ariannwr rydych chi'n gymwys i wneud cais iddo, ac os byddwch yn byw 'gartref’, neu 'oddi cartref', ac incwm aelwyd gyfunol eich rhiant/partneriaid rydych chi'n byw gyda nhw (ac eithrio myfyrwyr o Gymru neu'r rhai sy'n cael eu dosbarthu fel 'annibynnol').
Ar gyfer 2025/26:
- Bydd myfyrwyr sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru fel arfer yn derbyn £12,150 y flwyddyn os ydynt yn byw oddi cartref i astudio, a £10,315 y flwyddyn os ydynt yn byw gyda rhieni.
- Bydd myfyrwyr sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr yn derbyn rhwng £4,915 a £10,544 y flwyddyn os ydynt yn byw oddi cartref wrth astudio, a rhwng £3,907 a £8,877 y flwyddyn os ydynt yn byw gyda rhieni. Bydd yr union swm yn cael ei bennu gan brawf modd incwm yr aelwydydd.
Mae’n bosib y bydd gennych hawl i gymorth ymarferol ychwanegol hefyd os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu penodol (a elwir yn Lwfans Myfyrwyr Anabl), neu hawl uwch os oes gennych blant sy’n ddibynnol / oedolion sy’n ddibynnol.
Gofynnir i chi gadarnhau hyn yn eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Rhandaliadau Gwobr Cyllid Myfyrwyr
Ar ôl i'ch cais gael ei asesu, byddwch yn derbyn llythyr hawl dyfarniad (bydd copi o hwn hefyd ar gael ar eich cyfrif ar-lein).
Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod am y dyddiadau y byddwch chi'n derbyn eich benthyciad/grant cynhaliaeth. Mae hyn fel arfer yn cael ei dalu i chi mewn 3 rhandaliad ar wahân ar ddechrau pob tymor.
Os gwnaethoch gais erbyn y dyddiadau cau a nodir uchod, dylid derbyn eich taliad cynhaliaeth cyntaf yn ystod wythnos gyntaf y tymor.
Weithiau bydd myfyrwyr yn profi oedi cyn derbyn eu Cyllid Myfyrwyr gan nad yw'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i darparu - mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys manylion incwm y cartref neu statws priodasol y gofynnir amdano'n uniongyrchol gan rieni myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom:
moneyadvice@cardiffmet.ac.uk
Ad-dalu'ch Benthyciad
Mae llog yn dechrau cronni ar fenthyciadau Cyllid Myfyrwyr o'r dyddiad y caiff ei roi i chi.
Bydd faint o log y byddwch a dalwch yn dibynnu ar ba gynllun ad-dalu rydych chi arno. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yma ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr ar-lein ar ôl i'ch cais gael ei asesu.
Ni fydd yn rhaid i chi ddechrau ad-dalu ffioedd dysgu Cyllid Myfyrwyr a benthyciadau cynhaliaeth tan y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs, a dim ond wedyn os ydych yn ennill dros y trothwy cyflog perthnasol.
Mae graddedigion sy'n ad-dalu benthyciadau israddedig ar hyn o bryd yn ad-dalu 9% o'r hyn y maent yn ei ennill dros y trothwy bob mis, e.e. os ydych chi'n ennill £26,000 y flwyddyn a chyflog trothwy eich cynllun yn £25,000, byddwch yn talu 9% o £1,000 dros y flwyddyn mewn didyniadau a wneir o'ch cyflog gan eich cyflogwr, felly £90 mewn didyniadau blynyddol.
Mae'r didyniadau yn cael eu gwneud gan eich cyflogwr ar yr un pryd â threth incwm ac Yswiriant Gwladol, a bydd y symiau a delir yn dangos ar eich slipiau cyflog.
Asesiad Incwm Aelwydydd Cyllid Myfyrwyr
Mae asesiad incwm y cartref yn brawf modd a fydd yn pennu gwahanol bethau ar gyfer pob cyllidwr:
Ar gyfer ymgeiswyr Cyllid Myfyrwyr Cymru
Mae'r swm y bydd myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ei dderbyn yn dibynnu ar a ydynt yn byw oddi cartref neu gyda rhieni yn ystod eu hastudiaethau ac nid yw incwm yr aelwydydd yn effeithio arno. Fodd bynnag, bydd incwm cartref y rhiant/rhieni neu'r partner rydych chi'n byw gyda nhw yn penderfynu faint o Gyllid Myfyrwyr a gewch fel grant nad oes rhaid ei ad-dalu, a faint fel benthyciad ad-daladwy.
Os ydych chi'n byw gydag un rhiant yn unig, byddwch yn cael eich asesu ar incwm eu cartref, ond os ydych chi'n byw gyda rhiant a llys-riant, bydd eu hincwm ar y cyd hefyd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad incwm. Os ydych chi'n rhannu'ch amser rhwng byw gyda'r ddau riant, gofynnir i chi gynnwys manylion y rhiant rydych chi'n byw gydag ef y rhan fwyaf o'r amser.
Ar gyfer ymgeiswyr Cyllid Myfyrwyr Lloegr
Bydd incwm cartref y rhiant (rhieni) neu'r partner rydych chi'n byw gyda nhw yn penderfynu faint o fenthyciad cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr y byddwch chi'n ei dderbyn – po uchaf yw incwm yr aelwyd, yr isaf yw'r benthyciad cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr y byddwch chi'n ei dderbyn.
Ar gyfer myfyrwyr ag incwm cartref o £65,000 neu fwy, telir y lefel isaf o gynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr.
Prawf Modd Incwm Aelwydydd Cyllid Myfyrwyr
Bydd y prawf modd yn seiliedig ar eu hincwm a enillwyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
I’r rhai sy’n dechrau yn y brifysgol ym mis Medi 2025, y flwyddyn ariannol a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad fydd 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.
Os yw incwm aelwyd eich rhiant/rhieni/partner wedi gostwng 15% neu fwy ers y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, mae gan Gyllid Myfyrwyr broses ar waith i'ch galluogi i gael eich ailasesu ar incwm cartref y flwyddyn ariannol gyfredol – gelwir hyn yn asesiad incwm y flwyddyn gyfredol. Dim ond unwaith y bydd manylion y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'u darparu yn gyntaf, y gellir gwneud hyn. Gallwch ddarganfod mwy am hyn gan eich ariannwr.
Ni fydd asesiad incwm y cartref yn ystyried unrhyw incwm o gyflogaeth rydych yn ei ennill cyn neu yn ystod eich astudiaethau.