Skip to content

Cyngor Ariannol

Sut y Gallwn Ni Helpu

Yn ystod eich amser yn y Brifysgol, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar gyllidebu neu gyllid myfyrwyr.

Rydym yn cynnig apwyntiadau, gweminarau a sesiynau galw heibio i drafod cyllidebu a rheoli arian, a chyllid myfyriwr. Gallwn helpu gyda:

Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at gyngor arbenigol yn rhad ac am ddim gan ein darparwyr partner Money Saviour CIC a Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, budd-daliadau, tai, defnyddwyr, a chyfraith teulu.

Myfyrwyr Newydd a Darpar Fyfyrwyr

Rydym yn deall y bydd gan ddarpar fyfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid gwestiynau ynghylch pa gyllid sydd ar gael i fyfyrwyr, a sut/pryd i wneud cais.

Mae ein tîm Cynghori Ariannol yma drwy gydol y flwyddyn i ateb ymholiadau a darparu cymorth wrth gynllunio cyllideb i fyfyrwyr. Mae cefnogaeth ar gyfer:

Trefnu Apwyntiad

Gall myfyrwyr cyfredol drefnu apwyntiad a bwrw golwg ar sesiynau galw heibio drwy fewngofnodi i CanolbwyntMet. Gallwch hefyd drefnu apwyntiadau yn y parth-g ar gampws Llandaf neu'r Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr ar gampws Cyncoed.

Gall ddarpar fyfyrwyr e-bostio’r tîm cyngor ariannol ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk i wneud apwyntiad neu i ofyn unrhyw gwestiwn.

Cysylltu â Ni

Gallwch hefyd ymweld â’r parth-g ar gampws Llandaf neu'r Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr ar gampws Cyncoed, neu gysylltu â ni ar: