Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Y Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Rydym yn deall pa mor bwysig yw cael cymorth pan fydd ei angen arnoch.

Y Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr yw eich cyrchfan i gael atebion cyflym, arweiniad, a chefnogaeth.

Rydym wedi casglu gwasanaethau allweddol at ei gilydd fel y gallwch:

  • dod o hyd i atebion i gwestiynau bob dydd
  • datrys problemau'n gyflym ac mewn un lle

P'un a ydych chi ar-lein neu ar y campws, rydym yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi.

Cymorth Ar-lein

Gwasanaethau Llyfrgell

Chwiliwch am adnoddau, cewch gymorth ymchwil a chael mynediad at hyfforddiant sgiliau academaidd a digidol

Cymorth TG

Angen help gyda thechnoleg prifysgol? Mae ein Desg Gymorth TG yma i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â TG.

Gwasanaethau Myfyrwyr

Rydym yma i'ch helpu chi gyda chyngor ariannol, cynllunio gyrfa, cymorth anabledd a lles.

Dysgu mwy am Wasanaethau Myfyrwyr

Cymorth ar y campws

Mae'r Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn dod â gwasanaethau allweddol at ei gilydd.

Gall staff hefyd eich helpu gyda'r ymholiadau mwyaf cyffredin, gan eich helpu i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflymach ac mewn un lle. 

Cyncoed

Dewch o hyd i ni ar lawr gwaelod y llyfrgell.

Llandaff

Dewch o hyd i ni ar lawr gwaelod y llyfrgell.

Oriau Agor

Pwynt Gwybodaeth Myfyrwyr

  • Dydd Llun: 8:30yb - 5:00yp
  • Dydd Mawrth: 8:30yb - 5:00yp
  • Dydd Mercher: 8:30yb - 5:00yp
  • Dydd Iau: 8:30yb - 5:00yp
  • Dydd Gwener: 8:30yb – 5:00yp

Parth-G – Llandaf

  • Dydd Llun: 9:00yb - 5:00yp
  • Dydd Mawrth: 9:00yb - 5:00yp
  • Dydd Mercher: 11:00yb - 5:00yp
  • Dydd Iau: 9:00yb - 5:00yp
  • Dydd Gwener: 9:00yb - 4:30yp

Cysylltwch â Ni

Gwasanaethau Myfyrwyr

E-bost: studentservices@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6170

TG

E-bost: ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 20417000

Gwasanaethau Llyfrgell

E-bost: library@cardiffmet.ac.uk
Sgwrs Fyw: Sgwrs Llyfrgell

Ffôn Canolfan Ddysgu Cyncoed: 029 2041 6242
Ffôn Canolfan Ddysgu Llandaf: 029 2041 6244