Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Teimlwch y byd trwy eich dwylo ac ymgysylltwch â grym trawsnewidiol deunyddiau.
Mae gan glai iaith weledol a gwirioneddol sydd ar gael ym mhob diwylliant. Mae’n rhan annatod o fywydau pobl, eu hanghenion a’u cof. Mae ceramegydd yn fedrus wrth weithio gyda’r deunydd mwyaf amlbwrpas hwn. Byddan nhw’n teimlo’r byd drwy eu dwylo ac yn ymgysylltu â gallu gweddnewidiol deunyddiau.
Bydd gradd BA (Anrh) Cerameg ym Met Caerdydd yn rhoi’r sgiliau i chi gael cyfrannu i’r maes hwn sy’n tyfu. Byddwch yn archwilio agwedd anthropolegol tuag at wneud, mapio daearyddol-gymdeithasol deunyddiau ac arferion, a gallu cymdeithasol sgiliau drwy weithio gyda mentrau lleol, megis orielau, marchnadoedd, casgliadau, ac yn rhan o’n ‘stiwdio byd-eang’. Byddwch yn archwilio strategaethau creadigol er mwyn adnabod eich tueddiadau a phatrymau sy’n rhan o ddatblygu syniadau, gan astudio technoleg deunyddiau a gwydro er mwyn troi’r syniadau hynny yn ffurf. Byddwch yn dysgu am darddiad ac alcemi, o brosesau traddodiadol i dechnolegau newydd.
Byddwch yn meddu ar y sgiliau i ymateb i gyd-destunau cysyniadol a masnachol, i werthfawrogi ehangder y maes, o’r swyddogaethol i’r ffigurol, o osodwaith i arloesi technolegol. Â chyfleoedd i weithio mewn cyd-destunau yn y byd go iawn ar friffiau byw, cystadlaethau creadigol a phrosiectau rhyngddisgyblaethol, cewch eich annog i adnabod ac i adeiladu eich ymarfer annibynnol chi eich hunan ac i weithio tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.
Rydym yn ymgorffori deunydd cerameg o’r haearn sydd yn ein gwaed hyd at y calsiwm sydd yn ein hesgyrn; o’r brics sy’n ffurfio’n cartrefi hyd at y cwpan a ddefnyddiwn er mwyn yfed. Mae’n hawdd cydnabod bod clai yn un deunydd y byddwn yn ei rannu â bron pob person yn y byd.
Mae hydeimledd y deunydd wedi galluogi Cerameg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio i gymryd risgiau’n barhaus ac ymateb yn bositif i heriau creadigol. Bydd hyn yn deillio o feithrin cymuned o a fydd yn gweithredu ar lefelau israddedig, ôl-raddedig a Doethuriaeth, a fydd yn cynhyrchu cyfoeth o ymholi beirniadol.
Ein stiwdios dynodedig fydd eich cartref ar hyd y cwrs. Byddwch yn gweithio ar draws ystod eang o brosesau, yn archwilio holl bosibiliadau cerameg ac yn magu sgiliau uwch. Byddwch yn dysgu oddi wrth dîm o geramegyddion gweithredol a chewch gyfle i brofi amrywiaeth o arferion a addysgir gan gynnwys:
- Alcemeg – Cerameg a Gwyddor Deunyddiau, technoleg gwydro, a fydd yn cynnwys dadleuon daearyddol a hanesyddol-gymdeithasol
- Taflu – technegau crochenwaith traddodiadol o lestri cartref hyd at ffurfiau cerfluniol cyfansawdd
- Modelu â'r llaw – y ffurf dynol mewn clai, o waith addurniadol a cherfluniol hyd at gerfwedd isel gain
- Gwneud mowldiau – castio mewn plastr, mowldiau cyfrwng-cymysg (ffabrig/ hylosg), mowldiau cyfansawdd, turnio
- Patrymau ar arwynebau – technegau printio – gan gynnwys trosglwyddynnau, sgrin-brint a throswydro
- Tanio – trydan, nwy, rakw, soda, saggar, adeiladu odynnau allanol i archwilio swyddogaeth a pherfformiad
- Gwneuthuriad digidol – gan gynnwys meddalwedd dysgu a defnyddio argraffu 3D, torri â laser, modelu CNC
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro i roi mewnwelediad gwerthfawr i chi i'r diwydiant cerameg wrth i chi gynllunio ar gyfer eich dyfodol – p'un ai y byddwch am sefydlu eich stiwdio chi eich hunan, astudio ymhellach neu ymuno â phractis proffesiynol. Mae cyfleoedd ar gael i gael lleoliadau gwaith mewn diwydiant, i astudio dramor neu i gydweithio ar brosiect ymchwil.
Yn eich trydedd flwyddyn gallwch gwblhau traethawd hir neu gynllun busnes a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer eich gyrfa wedi i chi raddio.
Blwyddyn Un
Pwnc: Dechrau - 40 credyd
Pwnc: Prosiect Unigol - 20 credyd
Byddwch yn dechrau archwilio grym iaith deunydd. Bydd eich tymor cyntaf yn eich cyflwyno i ystod amrywiol o arferion clai – a’r sgiliau craidd megis taflu a gwaith plastr, nifer o brosesau adeiladu â’r llaw a dulliau tanio gwahanol.
Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.
Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Creu - 40 credyd
Dyma’ch cyfle i arbrofi gyda dulliau a thechnegau gwahanol wrth i chi ddechrau diffinio eich ymarfer. Byddwch yn archwilio’r dewisiadau amrywiol y gall clai eu cynnig – a phenderfynu ar arbenigedd. Er enghraifft, gallech ganolbwyntio ar lestri bord ar gyfer y cartref, cerflunio’r ffurf dynol, patrymau ar arwynebau neu osodiadau amgylcheddol amser-seiliedig.
Heriau'r 21ain Ganrif - 40 credyd
Mae'r modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.
Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd
Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.
Cynnig Ymchwil - 20 credyd*
Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Ymchwil a Datblygu - 60 credyd
Bydd eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol a chynllunio gyrfa wrth i chi barhau i drawsnewid yn geramegydd â set cryf o sgiliau a llais unigryw. Byddwch yn gwneud cynlluniau ar gyfer eich dyfodol – p’un ai y byddwch am ymuno â stiwdio, dechrau eich practis eich hunan, mynd i addysgu, dod yn guradur amgueddfa neu ddewis astudio ymhellach.
Profiad Ymarferol - 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.
Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.
Cyfraniad - 40 credyd*
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau cerameg craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau llai, targedig wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.
A chithau’n fyfyriwr cerameg israddedig, bydd mynediad gennych i stiwdios dynodedig ac i weithdai arbenigol a, thros amser, y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio’r adnoddau a’r cyfarpar yn ddiogel. Yn ogystal ag addysgu a fydd yn benodol i’ch pwnc a mynediad i weithdai, bydd gan bob myfyriwr israddedig yr Ysgol Gelf a Dylunio gyfle i ymgysylltu â dysgu ac addysgu o fewn yr Ysgol gyfan, drwy fodiwlau addysgu dewisol yn yr ail flwyddyn a thrwy sesiynau cynefino â’r gweithdai y gellir eu harchebu.
Yn ogystal â’r amgylchedd gwaith ffisegol, bydd mynediad gennych i Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithiol dynamig, lle y caiff yr addysgu ei ledaenu a’i gyfathrebu i garfannau’r myfyrwyr.
Â’r amrywiaeth a’r cyfleoedd a fydd ar gael i’r myfyrwyr, ceir cyfle enfawr i unigolion gael bod yn bersonol annibynnol mewn ffordd sylweddol, ni fydd siwrnai unrhyw ddau fyfyriwr yr un peth.
Mae ein holl staff academaidd mor frwd o safbwynt addysgu ymarfer creadigol ag y maen nhw am eu cyfraniadau ehangach i’r maes astudio drwy eu gwaith yn artistiaid cerameg.
Yn ogystal â’r staff academaidd, mae tîm gwych o staff sy’n arbenigo mewn cerameg gan yr Ysgol Gelf a Dylunion a fydd yn gweithio yn arddangoswyr technegol sydd â’r rôl allweddol o gefnogi myfyrwyr ar ryngwyneb eu huchelgais creadigol a’i wireddu’n ffisegol. Bydd cymorth oddi wrth y staff arbenigol hyn ar gael i’r myfyrwyr rhwng 9am a 9pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 9am a 5pm ar Ddydd Gwener.
Caiff teithiau astudio i bob rhan o Brydain eu cynllunio’n rheolaidd bob blwyddyn o fewn y rhaglen yn ogystal ag ambell daith astudio breswyl ryngwladol.
Mae cefnogaeth fugeiliol yn gydran allweddol o gefnogi siwrnai’r myfyrwyr drwy’r rhaglen a bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr a fydd yn eu helpu i fynd drwy eu hastudiaethau, yn eu cefnogi â materion yn ymwneud â’u lles ac yn eu harwain tuag at eu trywydd proffesiynol o fewn y rhaglen.
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
Sgiliau: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
Cyd-Destun: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Syniadau: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.
Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist, dylunydd a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.
Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.
Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.
Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.
Mae gan yr Ysgol Gelf a Dylunio enw da yn rhyngwladol am astudiaethau ôl-raddedig a PhD mewn Cerameg ac, wedi i’r myfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau israddedig, bydd cyfle ganddyn nhw i ddatblygu eu huchelgais academaidd a chreadigol ymhellach drwy’r llwybrau hyn.
Cynigion Nodweddiadol
- Pwyntiau tariff: 96-120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
- Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
- Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau, Laura Edmunds:
- Ebost: ceramics@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
W232
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.