Skip to content

Dylunio Mewnol - Gradd BA (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Newidiwch y ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau er gwell, trwy ddylunio mewnol effeithiol.

Bydd dylunio’n cael effaith enfawr ar gymdeithas, a gall dylunio mewnol effeithiol newid y ffordd y byddwn yn byw ein bywydau er gwell.

Ym Met Caerdydd bydd eich astudiaethau’n canolbwyntio ar wrthrychau a’u perthnasoedd â gofodau, yn ogystal â’r ffyrdd y byddan nhw’n creu profiad i’r defnyddwyr.

Drwy astudio ar ein gradd BA Dylunio Mewnol, byddwch yn dysgu mor bwysig yw cynaliadwyedd a dylunio amgylcheddol-gyfrifol; traddodiad a threftadaeth lle; estheteg a deunyddiolrwydd; yn ogystal â’r effaith y caiff dylunio ar brofiad a lles bodau dynol. Bydd ein cwrs Dylunio Mewnol israddedig yn rhoi’r adnoddau i chi gael deall gofod mewnol mewn ffordd feirniadol a chyfoes. Bydd y sgiliau hyn yn eich galluogi i ailfodelu’r gorffennol, i greu’r presennol ac i oleuo’r dyfodol.

Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cydweithredol a fydd yn ymestyn ar draws ystod o gyd-destunau, gwledydd a diwylliannau. Byddwch yn archwilio ac yn defnyddio ystod o dechnolegau, yn ymgysylltu’n feirniadol â briffiau byw a phryderon byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich hunaniaeth ddylunio chi eich hunan.

Bydd hyn yn eich galluogi i gyfansoddi, delweddu ac efelychu amgylcheddau unigryw ac unigol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Bydd eich pynciau craidd, sef meddwl yn greadigol, lluniadu, gwneud modelau, technegau dylunio stiwdio a thechnolegau CAD, yn rhoi sylfaen sicr i chi yn elfennau sylfaenol dylunio. Oddi yma byddwch yn archwilio technegau, syniadau a dulliau gwahanol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • Ailfodelu; cadw; adfer; adnewyddu safleoedd a fydd yn bodoli eisoes
  • Creu amgylcheddau â’r defnyddwyr yn ganolog (byw; gweithio; gorffwys; chwarae)
  • Dadansoddi Diwylliant Cleientiaid (iaith dylunio; naws; awyrgylch)
  • Ffurfio strategaethau dylunio
  • Creu lleoedd priodol ar gyfer profiad
  • Cynhyrchu gwybodaeth Manylion Tectonig
  • Braslunio lluniad dylunio â manylion wrth raddfa
  • Gwneud modelau a delweddu 3D (CAD; Realaeth Rithiol; Labordy Profiad Canfyddiad)
  • Datblygu perthnasoedd â chleientiaid, adeiladwyr ac arbenigwyr eraill
  • Fframweithiau Cyfreithiol a Rheoleiddiol

Bydd llawer dewis ar agor i chi – o astudio dramor hyd at gyfleoedd ymchwil a phrofiad mewn diwydiant – er mwyn i chi gael dod i adnabod mathau gwahanol o gleientiaid ac archwilio’r llwybrau gyrfaol dirifedi y gallwch eu cymryd wedi i chi raddio mewn dylunio mewnol.

Bydd llawer dewis ar agor i chi – o astudio dramor hyd at gyfleoedd ymchwil a phrofiad mewn diwydiant – er mwyn i chi gael dod i adnabod mathau gwahanol o gleientiaid ac archwilio’r llwybrau gyrfaol dirifedi y gallwch eu cymryd wedi i chi raddio mewn dylunio mewnol.

Blwyddyn Un

Pwnc: Stiwdio 1.1 - 40 credyd
Pwnc: Stiwdio 1.2 - 20 credyd

Byddwch yn treulio eich tymor cyntaf yn hogi eich sgiliau ac yn astudio strategaeth ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddelweddu ac i gyflwyno eich syniadau drwy fraslunio, lluniadu technegol, gwneud modelau, delweddu CAD a chyflwyno llafar. A byddwch yn dechrau archwilio’r materion moesegol a chymdeithasol – gan gynnwys egwyddorion amgylcheddol, ecolegol a chynaliadwyedd – y bydd y diwydiant hwn yn ymwneud â nhw. Byddwch yn dysgu am synthesis ‘gwrthrych’, ‘gofod’ a ‘phrofiad’.

Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.

Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.

​Blwyddyn Dau

Pwnc: Stiwdio 2 - 40 credyd
Byddwch yn darganfod yr hyn mae bod yn ddylunydd mewnol yn yr 21ain ganrif yn ei olygu. Fe gewch fewnwelediad i fywyd gwaith dylunydd a dechrau gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm dylunio. Byddwch yn creu Lle ar gyfer Profiad, yn ystyried cyfyngiadau a phosibiliadau safle-benodol – gan roi eich sgiliau a’ch gwybodaeth ynglŷn â phwy yw’r cleientiaid a’r defnyddwyr ar waith yn uniongyrchol.

Heriau'r 21ain Ganrif - 40 credyd
Mae'r modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.

Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd
Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.

Cynnig Ymchwil - 20 credyd*
Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.

Dewis Cwrs Rhyngosod
Bydd yn bosib strwythuro’r cwrs hefyd ar ffurf gradd ryngosod. Rhwng blynyddoedd 2 a 3, gallwch weithio am flwyddyn mewn practis pensaernïol neu bractis adeiladu tebyg a fydd yn canolbwyntio ar ddylunio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ymhellach y sgiliau a gafodd eu hennill ym Mlynyddoedd Un a Dau ac i fagu profiad gwerthfawr mewn amgylchedd byd go iawn. O ganlyniad bydd eich CV a’ch cyflogadwyedd yn gwella’n fawr.

Blwyddyn Tri

Pwnc: Prosiect Mawr - 60 credyd
Gweithio ar friff prosiect ar gyfer prosiect dylunio a chyfleu pob agwedd ar yr ateb dylunio i gynulleidfa anarbenigol mewn modd proffesiynol gan ddefnyddio ystod briodol o dechnegau cyfathrebu a chyfryngau. Dangos gallu i syntheseiddio a manylu ar atebion dylunio arloesol gan ddefnyddio ystod eang o sgiliau creadigol, cysylltiedig â dylunio a throsglwyddadwy, sy'n gofyn am astudiaeth ymreolaethol, ymchwil, dadansoddi a meddwl gwreiddiol.

Profiad Ymarferol - 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.

Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.

Cyfraniad - 40 credyd*
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol​.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae'r holl raglenni o fewn YGDC yn cael eu cyflwyno trwy ddull dysgu yn y stiwdio. Mae dysgu yn y stiwdio yn darparu amgylchedd dysgu dilys sy'n meithrin adeiladu cymunedol ar lefel carfan, dysgu gan gyfoedion tra'n ddilys i ofynion y disgyblaethau unigol. Mae pob gofod stiwdio wedi'i deilwra i anghenion y disgyblaethau y bydd myfyrwyr yn cael amrywiaeth o gyfleoedd dysgu oddi mewn iddynt gan gynnwys:

Seminarau grŵp, beirniadaethau grŵp a chyflwyniadau, tiwtorialau un i un, gweithdai technegol, dysgu cyfoedion, dysgu annibynnol dan arweiniad.

Mae myfyrwyr yn cymryd arweiniad arwyddocaol yn eu hastudiaethau, yn datblygu eu ffocws ymchwil a'u sylfaen arbenigedd eu hunain ac yn cymryd rhan weithredol yn y broses asesu a'r modd y caiff eu harbenigedd unigol ei fynegi a'i brofi.

Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi wrth iddynt weithio'n annibynnol fel eu bod yn gallu cynhyrchu dysgu arwyddocaol ac unigryw trwy ymarfer trwyadl, hunangyfeiriedig a chydweithredol.​

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

Sgiliau:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

Cyd-Destun:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

Syniadau:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn i’ch disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist/dylunydd mewnol a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg. Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Cewch gyfle i ymgysylltu â chleientiaid ac yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl priodol.

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael ymuno â chwmnïau dylunio mewnol, i weithio yn ddylunwyr annibynnol. Bydd rhai yn cael mwy o hyfforddiant, drwy wneud TAR er enghraifft. Bydd rhai yn dewis astudio ymhellach drwy wneud cymhwyster meistr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio a bydd cyfleoedd iddyn nhw fynd â hyn ymhellach eto drwy Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Dylunio neu PhD.

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.

Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.

Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.

Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:

  • Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
  • Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
  • Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
  • Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil

Beth yw cost ychwanegol?

Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.

Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.

Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:

  • Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
  • Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
  • Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
  • Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
  • Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
  • Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau

Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Carlo Convertini, CCConvertini@cardiffmet.ac.uk.

  • Cod UCAS

    56F1

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

YouTube Thumbnail - CSAD and Mainz University YouTube Thumbnail - CSAD and Mainz University

Astudio Dylunio Mewnol

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd x Prifysgol Mainz

Mewn arddull ryngddisgyblaethol go iawn, gwelodd y prosiect hwn fyfyrwyr Dylunio Cynnyrch a Dylunio Mewnol yn gweithio gyda chydweithwyr a chymheiriaid o Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol Mainz yn yr Almaen.

01 - 04
Wide view of workshop floor including tables and safety equipment Wide view of workshop floor including tables and safety equipment

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Gweithdai Pren a Metel

Mae ein gweithdai metel yn cynnig offer a chefnogaeth ar gyfer ystod o dechnegau, o brosesau castio efydd cwyr coll a weldio i efail traddodiadol a gwaith metel dalen.

Mae ein cyfleusterau gwaith coed yn cynnig ystod lawn o offer gan gynnwys llifiau band, tywodwyr, turnau pren, llifiau crwn a thrawsbynciol, a thrwchwyr planer.

01 - 04