Skip to content

Ffotograffiaeth - Gradd BA (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae Ffotograffiaeth yn iaith bwerus. Mae’n ein galluogi i gyfathrebu emosiynau a syniadau cymhleth. Mae’n dweud wrthym beth fydd yn cael ei ystyried yn bwysig ac yn ein helpu i ddeall ac i gwestiynu’r gorffennol a’r presennol.

Gall eich gweledigaeth unigryw helpu i ail-ddiffinio’r ffordd y gwelwn y byd o’n cwmpas. Gallwch chi, yn ffotograffydd beirniadol a chreadigol, gyfrannu i greu tirweddau gweledol y dyfodol.

Bydd gradd BA Ffotograffiaeth ym Met Caerdydd yn datblygu’ch dealltwriaeth o ran y dulliau technegol, creadigol a chysyniadol a ddefnyddir mewn ffotograffiaeth, y bydd dulliau artistig a golygyddol yn eu hysbrydoli er mwyn creu delweddau ac arferion arbrofol lens-seiliedig. Byddwch yn caffael sgiliau ffotograffiaeth digidol a ffilm proffesiynol ynghyd â gwybodaeth am hanes ac ymarfer ffotograffiaeth.

Byddwch yn dysgu i werthuso’n feirniadol eich dulliau creadigol o ran arferion ffotograffig cyfoes, gan leoli’r rhain o fewn diwylliant gweledol ehangach. Byddwn yn eich annog i ddilyn eich diddordeb ffotograffig chi eich hunan a meithrin ffordd unigryw o weld, a chreu portffolio dynamig o waith.

Byddwch yn datblygu hunaniaeth weledol nodedig ac yn dod i ddeall ym mha ffyrdd y gallai eich arddull bersonol chi eich hunan gael ei defnyddio ar gyfer ystod o gyd-destunau, o ffasiwn a’r celfyddydau gain hyd at hysbysebu a golygyddol.

Mae’r gradd BA mewn Ffotograffiaeth wedi’i lleoli yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae partneriaeth hir iawn gan yr Ysgol â Ffotogallery, Asiantaeth Ffotograffiaeth Genedlaethol Cymru, sy’n canolbwyntio ar gyrsiau byr a gweithdai, interniaethau â thâl, a chyfleoedd i’r myfyrwyr gael arddangos a gwirfoddoli yn ystod ‘Diffusion’: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.

Cyflawnodd BA (Anrh) Ffotograffiaeth Boddhad Myfyrwyr Cyffredinol o 100% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf (2025).

Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau ac arbenigedd yn y canlynol:

  • Sgiliau gwneud delweddau analog a digidol
  • Technegau goleuo stiwdios a lleoliadau
  • Genres ffotograffig
  • Golygu a dilyniannu
  • Iaith ffotograffiaeth
  • Llif gwaith digidol ac ôl-gynhyrchu
  • Datblygu portffolio
  • Protocolau moesegol
  • Cyd-destunau proffesiynol (gan gynnwys cyllidebu, prisio, hawlfraint, asiantaethau, ac ymwybyddiaeth o’r farchnad)

Blwyddyn Un

Elfennau Sylfaenol Ffotograffiaeth - 40 credyd

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau, y syniadau a’r prosesau technegol sylfaenol a fydd yn ymwneud â maes ffotograffiaeth a’u hannog i ddefnyddio technegau cynhyrchu priodol er mwyn gwireddu eu syniadau.

Bydd yn hwyluso gwaith cynllunio ymateb i friff creadigol wrth ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ieithoedd gweledol gan feithrin eu gallu i gyfleu syniadau, emosiynau a gwybodaeth drwy gyfrwng delwedd ffotograffig.

Bydd y modiwl yn cyflwyno’r myfyrwyr i waith ymarferwyr a fydd yn gweithio ym maes ffotograffiaeth, yn gyfoes ac yn hanesyddol, a’r syniadau allweddol sydd y tu cefn i’w gwaith â’r nod o ddatblygu gallu’r myfyrwyr eu hunain i gynhyrchu delweddau’n weithredol ac â phwrpas.

Bydd y ffocws ar drafod camerâu â’r llaw, gweithio yn y stiwdio ffotograffau, technegau traddodiadol yr ystafell dywyll, a phrosesau delweddu digidol.

Persbectifau Ffotograffig - 20 credyd

Nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr gael datblygu sgiliau a thechnegau ffotograffig uwch wrth eu cyflwyno i ystod o genres a chyd-destunau’n ymwneud ag arferion ffotograffig a lens-seiliedig.

Bydd y ffocws ar weithio gyda fformatau proffesiynol ac archwilio genres ffotograffig allweddol a pharatoi delweddau i’w harddangos.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu technegau trin delweddau’n greadigol ac yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng agweddau cysyniadol, swyddogaethol ac esthetig tuag at ffotograffiaeth.

Bydd yn datblygu gallu’r myfyrwyr i adfyfyrio ar, ac i werthuso, eu sgiliau nhw eu hunain er mwyn dod i wybod pa ddulliau yw’r rhai mwyaf priodol i gael cynhyrchu delweddau mewn cyd-destunau penodol.

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i astudio disgwyliadau, canfyddiadau ac ymatebion eu cynulleidfa ac i adfyfyrio ar ddimensiynau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol eu hymarfer nhw eu hunain.

Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*

Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.

Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd

Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.

Blwyddyn Dau

Ymarfer Ffotograffig Creadigol - 40 credyd

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol y myfyrwyr a bydd yn canolbwyntio ar eu harbenigedd creadigol unigol o fewn cyd-destun arferion ffotograffig diwylliannol, moesegol a phroffesiynol cyfoes. Bydd yn cefnogi datblygiad y myfyrwyr drwy ymholi annibynnol, arloesedd personol a chymryd risgiau, gan eu hannog i archwilio, arbrofi a magu dealltwriaeth o fathau gwahanol o arferion ffotograffig cyfoes.

Bydd y ffocws ar Arbrofi, Naratif a Chyd-destun.

Nod y modiwl fydd ymestyn sgiliau proffesiynol, technegol a deallusol y myfyrwyr a datblygu eu hyder iddyn nhw gael dod i wybod ymhle mae eu hymarfer creadigol unigol o fewn sbectrwm eang arferion ffotograffig a lens-seiliedig. Bydd y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr archwilio ffyrdd gwahanol eraill o fynegi, cynhyrchu a chyflwyno i gael datblygu eu sgiliau ymhellach wrth ddatblygu portffolio cydlynol o waith.

Heriau'r 21ain Ganrif - 40 credyd

Mae'r modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.

Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd

Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.

Cynnig Ymchwil - 20 credyd*

Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.

Blwyddyn Tri

Ymarfer Ffotograffig Proffesiynol - 60 credyd

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o gynllunio strategol, negodi beichiau gwaith, a datblygu portffolio proffesiynol. Bydd yn meithrin sgiliau technegol a deallusol proffesiynol uwch ac yn datblygu’r farn esthetig a fydd yn ofynnol oddi wrthyn nhw ar y lefel hon.

Bydd y ffocws ar brosiectau ffotograffig a wneir i’w cyhoeddi a chynllunio gyrfa mewn Ffotograffiaeth.

Bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio gwybodaeth o ddisgyblaethau cyffredinol ac arbenigol drwy ymgysylltu â phrosiect a ddatblygir yn unigol a fydd yn dangos dyfnder a thrylwyredd deallusol, gan syntheseiddio syniadau o ystod eang o gyd-destunau damcaniaethol ac ymarfer-seiliedig. Bydd technegau meddwl yn greadigol i’w gweld drwy arbrofi ac arloesi a fydd yn dangos yn amlwg ddealltwriaeth ynglŷn ag anghenion penodol cynulleidfa.

Bydd y modiwl hwn yn ymestyn sgiliau ymarferol drwy gynhyrchu a chyflwyno gwaith ffotograffig annibynnol o safon uchel a fydd â’r sail ddeallusol briodol.

Profiad Ymarferol - 20 credyd

Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol. Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.

Cyfraniad - 40 credyd*

Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol​.

Bydd strategaethau dysgu, addysgu ac asesu yn ceisio hyrwyddo arddulliau dysgu effeithiol i gael creu amgylchedd lle y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn ymddiddori ym mhob pwnc; annog gallu i ddysgu’n annibynnol a dysgu gydol oes; a gwireddu potensial llawn pob myfyriwr.

Bydd y rhaglen yn ceisio datblygu diwylliant dysgu ac addysgu a fydd yn datblygu meddwl ymholgar a chreadigol gan gydnabod yr angen i ymateb i alwadau ymarfer ffotograffig proffesiynol.

Bydd caffael dealltwriaeth a gwybodaeth graidd yn digwydd yn bennaf drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, gwaith stiwdio a gweithdai ymarferol. Bydd myfyrwyr yn magu mwy o ddealltwriaeth a ‘gwybodaeth uwch’ drwy’r pethau hyn hefyd yn ogystal â thrwy astudio annibynnol a gwaith grŵp penodol.

O fewn ymarfer stiwdio, y Prosiect yw’r prif strategaeth dysgu ac addysgu. Mae prosiectau yn parhau dros gyfnod gweddol hir a’u bwriad yw ehangu galluoedd deallusol a chreadigol y myfyrwyr. Byddan nhw’n ceisio hyrwyddo agwedd o ddadansoddi beirniadol a fydd yn herio tybiaethau blaenorol ac yn anelu at arloesedd gwirioneddol. Mae ganddyn nhw derfynau ac amcanion penodol ond ni fydd canlyniadau rhagnodedig ganddyn nhw o anghenraid.

Caiff amcanion prosiectau eu sefydlu ar y dechrau a byddan nhw’n ffurfio rhan o’r briff.

Caiff y dulliau asesu eu nodi hefyd yn y cyfnod hwn. Defnyddir sawl math o brosiect:

  • Prosiectau Gorfodol: wedi’u gosod gan y staff ag amcanion a chanlyniadau penodol
  • Prosiectau o dan arweiniad myfyrwyr: wedi’u pennu gan fyfyrwyr unigol mewn ymgynghoriad â’r staff
  • Prosiectau 'Byw': wedi’u gosod gan gleientiaid allanol neu rai a fydd wedi’u lleoli yn y sefydliad mewn ymgynghoriad â’r staff.

Bydd yr holl waith prosiect yn gofyn sgiliau dadansoddi problemau, ymchwil, creadigrwydd, gwneud penderfyniadau, sgiliau technegol ac ymarferol, cyfathrebu a chyfiawnhau. Bydd canlyniadau’r prosiectau yn seiliedig ar waith stiwdio fel arfer ond gallen nhw fod yn seiliedig ar ymchwil hefyd.

Caiff nifer o strategaethau dysgu ac addysgu eraill eu defnyddio o fewn prosiect, gan gynnwys:

  • Sesiynau briffio: yn cael eu defnyddio i egluro amcanion a chyfyngiadau prosiectau
  • Beirniadaethau prosiectau: yn cael eu defnyddio i roi’r cyfle i’r myfyrwyr gyflwyno a chyfiawnhau eu gwaith i’w grŵp blwyddyn ac i’r staff
  • Gweithdai: yn cynnig ystod o sgiliau ymarferol a damcaniaethol
  • Ymarferion: yn cael eu defnyddio i ddiffinio ac egluro elfennau penodol o’r broses ddylunio
  • Arddangosiadau: i hyrwyddo ‘dysgu drwy enghraifft'
  • Cyflwyniadau: y bwriad yw eu defnyddio i annog creadigrwydd, eglurder a hyder wrth gyflwyno gwaith grŵp neu unigol ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Darlithoedd

Bydd darlithoedd yn cyflwyno rhaglen astudio gydlynol ac yn ysbrydoli’r myfyrwyr yn gyffredinol. Bydd deunyddiau gweledol a/neu destunol yn eu cefnogi. Gallai’r cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddamcaniaethol, cyd-destunol neu’n ymarferol. Lle y bydd yn briodol, caiff darlithoedd eu strwythuro er mwyn i’r myfyrwyr gael cymryd rhan mewn trafodaeth.

Tiwtorialau Pynciau Modiwlaidd

Mewn tiwtorialau bydd myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr yn cyfarfod gyda darlithiwr neu ddarlithwyr. Cân nhw eu defnyddio mewn dwy ffordd o fewn y rhaglen:

  • Ymestyn y deunydd y sonnir amdano yn y darlithoedd drwy ddull datrys problemau wedi’i yrru gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndirol myfyrwyr
  • Gweithdai: yn cynnig ystod o sgiliau ymarferol a damcaniaethol.

Seminarau

Bydd tri math o seminar: y rheiny o dan arweiniad staff lle y caiff testunau neu arteffactau eu rhoi i’r myfyrwyr er mwyn cyflwyno dadansoddiad i’w grŵp; y rheiny lle y bydd y myfyrwyr yn dewis testunau/arteffactau i’w trafod o fewn y grŵp; a’r rheiny lle y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u gwaith neu gasgliadau eu hymchwil nhw eu hunain.

Bydd seminarau wedi’u dylunio i annog cyflwyniadau croyw a dadansoddol a, thrwy drafodaeth grŵp, i ddatblygu dealltwriaeth o’r pwnc a’i gyd-destun.

Dyma ddull dysgu ac addysgu canolog, yn enwedig wrth sôn am y dysgu a gewch o’r Maes a’r Cytser a’i gyd-destunoli a’i gysylltu nôl â phwnc ffotograffiaeth.

Gallai seminarau olygu y bydd y myfyriwr neu’r myfyrwyr yn cyflwyno gwaith a baratowyd eisoes i’w cyd-fyfyrwyr ac i ddarlithydd. Caiff y strategaeth hon ei defnyddio i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal ag i gyflwyno ymarferion datrys problemau.

Bydd seminarau’n cynnig profiad gwerthfawr i’r myfyrwyr o ran sgiliau cyflwyno, blogiau, wikis neu bodlediadau, yn ogystal ag yn rhoi dull i’r staff gael asesu dysgu myfyriwr-ganolog.

Gweithdai Ymarferol

Bydd gweithdai ymarferol yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer ac i fireinio’u sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle y gallan nhw gael adborth oddi wrth aelod o’r staff academaidd.

Bydd gweithdai ymarferol yn ffordd werthfawr i symud rhwng theori ac ymarfer. Bydd sesiynau stiwdio ymarferol, â’u pwyslais ar gymhwyso egwyddorion sylfaenol ffotograffiaeth, yn canolbwyntio ar ddatrys problemau ac ar ddatblygu atebion creadigol a thechnegol ar gyfer prosiectau ffotograffig.

Bydd efelychiadau, ymarferion a phrosiectau byw a fydd yn cynnwys cleientiaid allanol yn gosod her ysgogol i’r myfyrwyr a fydd yn gweithio’n annibynnol ac mewn grwpiau i gael profi problemau byd go iawn.

Caiff y myfyrwyr eu hannog i fynegi eu cynigion mewn ffordd wrthrychol a beirniadol ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol a fydd yn hollbwysig i ffotograffydd proffesiynol.

E-Ddysgu

Caiff Moodle, amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol, ei ddefnyddio’n eang ar y cwrs i wella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Ar wahân i ddefnydd eang yn storfa ar gyfer adnoddau a deunyddiau dysgu, caiff Moodle ei ddefnyddio i gael y myfyrwyr i ymgysylltu â’u dysgu nhw eu hunain gan ddefnyddio wikis, blogiau a grwpiau trafod.

Yn ogystal, defnyddir Moodle ar gyfer asesu ffurfiannol drwy ddefnyddio cwisiau a phrofion hunan-ddiagnostig. Mae’n werthfawr hefyd yn fodd i gyfathrebu gyda’r myfyrwyr, a chafodd modiwl ‘cartref’ ar gyfer ffotograffiaeth ei greu er mwyn bod yn ganolbwynt ar gyfer cyfathrebu a phostio gwybodaeth o natur gyffredinol.

Caiff adborth electronig ei ddefnyddio drwy Moodle drwy ddefnyddio’r Grade Center.

Bwrw Golwg Feirniadol

Bydd cyfle i fwrw golwg beirniadol ym mhob cyfnod asesu aseiniad neu brosiect (interim neu derfynol) yn y modiwlau stiwdio-seiliedig lle y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u gwaith i’r grŵp blwyddyn a’r tiwtor ar gyfer adborth a thrafodaeth.

Mae’r digwyddiad hwn yn gonglfaen i’r broses ddysgu. Mae’r aseiniadau wedi’u dylunio i sicrhau y bydd y myfyrwyr yn ymdrin ag ystod eang o astudiaethau achos neu gynsail a fydd yn enghreifftio amrywiaeth o sefyllfaoedd neu atebion.

Bydd y broses o fwrw golwg feirniadol yn sicrhau y bydd y myfyrwyr yn dysgu o ganlyniad i waith yn cael ei wneud gan bobl eraill yn ogystal ag o ganlyniad i’w hymdrechion nhw eu hunain.

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

Sgiliau:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

Cyd-Destun:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

Syniadau:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn i’ch disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael gweithio yn ffotograffwyr annibynnol, i ymuno â chwmnïau’r cyfryngau a chwmnïau dylunio neu ag asiantaethau hysbysebu, neu i gael eu cyflogi yn y diwydiannau celf a dylunio creadigol ehangach.

Yn ystod y cwrs byddwch yn creu cysylltiadau, yn sicrhau lleoliadau dymunol ac yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant trwy sgyrsiau addysgiadol a sesiynau mentora. Rydym yn falch o'n partneriaeth hirsefydlog gyda Ffotogallery, Asiantaeth Ffotograffiaeth Genedlaethol Cymru, sy'n agor y drysau i interniaethau â thâl a'r cyfle i arddangos eich doniau yn ystod Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.​

Bydd rhai graddedigion yn dod yn athrawon drwy gymryd TAR. Bydd rhai graddedigion yn dewis mynd â’u hastudiaethau ymhellach drwy astudio yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ar gyfer cymhwyster meistr ac mae cyfleoedd i gael mynd â hyn ymhellach eto, i ymchwil ar gyfer PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.

Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.

Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.

Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:

  • Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
  • Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
  • Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
  • Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil

Beth yw cost ychwanegol?

Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.

Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.

Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:

  • Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
  • Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
  • Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
  • Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
  • Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
  • Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau

Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Ffotograffiaeth, Dr Duncan Cook:

  • Cod UCAS

    ​W640

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Photography shooting area with camera between two large lights pointed at a white background Photography shooting area with camera between two large lights pointed at a white background

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Stiwdios Ffotograffiaeth

Mae ein cyfleusterau ffotograffig yn cynnwys tair stiwdio oleuadau gyda fflach electronig, goleuadau Twngsten a LED, ac ystafell dywyll wlyb ar gyfer prosesau ffotograffig traddodiadol.

01 - 04