Skip to content

Gwyddor Biofeddygol - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae'r radd BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol ym Met Caerdydd wedi'i hachredu'n broffesiynol gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Biofeddygol a'r Gymdeithas Frenhinol Bioleg ac mae wedi'i chynllunio i'ch galluogi i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gwyddonol i'r ymchwiliad amlddisgyblaethol o glefydau ac anhwylderau dynol, megis diabetes, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Bydd ein gradd Gwyddor Biofeddygol yn eich galluogi i ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddoniaeth fforensig, fferyllol, iechyd a diogelwch, masnach ac addysgu. Yn ogystal, mae llawer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer graddau uwch, gan gynnwys graddau meddygaeth mynediad i raddedigion a deintyddiaeth, a chymwysterau proffesiynol pellach.

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol at ddiben bodloni'r gofyniad academaidd a phrofiad yn rhannol ar gyfer Aelodaeth a Biolegydd Siartredig (CBiol).

Blwyddyn Gyntaf Gyffredin

Noder fod y radd BSc Gwyddor Biofeddygol a'r llwybr BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth) yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, gallwch benderfynu pa radd i'w dilyn o flwyddyn dau ymlaen.

Wedi'i hachredu gan

IBMS Accredited Logo

Sefydliad Gwyddoniaeth Biofeddygol

Royal Society of Biology Logo

Cymdeithas Frenhinol Bioleg

01 - 04

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Gradd:

Blwyddyn Un:
Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall ffisioleg dynol, biocemeg, bioleg celloedd, geneteg, microbioleg ac imiwnoleg. Bydd sesiynau yn y labordy a sesiynau addysgu yn cynnig y wybodaeth wyddonol a’r sgiliau technegol a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer Blwyddyn 2 a 3. Hefyd, bydd myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau dadansoddiadol, cyfathrebu a throsglwyddadwy perthnasol.

Modiwlau (I gyd yn rhai Craidd):

  • Biocemeg (20 credyd)
  • Bioleg Celloedd a Geneteg (20 credyd)
  • Anatomeg a Ffisioleg (20 credyd)*
  • Haint ac Imiwnedd 1 (20 credyd)
  • Sgiliau Labordy a Dadansoddi Data (20 credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1 (20 credyd)*

 

Blwyddyn Dau:

Byddwch yn dod i deall rhagor am fioleg foleciwlaidd a chaffael arbenigedd mewn amrediad o dechnegau ymchwiliol arbenigol; epidemioleg a dadansoddi data; a dulliau ymchwil. Bydd meysydd megis biocemeg feddygol, patholeg celloedd, haematoleg, gwyddor trallwyso, microbioleg feddygol, imiwnoleg, ffarmacoleg a thocsicoleg yn ystyried natur, pwysigrwydd a phrosesau trin clefydau. Hefyd, bydd modiwl datblygiad proffesiynol yn annog myfyrwyr i ystyried eu darpar yrfaoedd a’u helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a fydd yn eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer eu darpar swyddi cyflogedig.

Modiwlau (I gyd yn rhai Craidd):

  • Dulliau Dadansoddiadol, Ymchwil a Diagnostig (20 credyd)
  • Gwyddorau Gwaed a Chelloedd (20 credyd)*
  • Haint ac Imiwnedd 2 (20 credyd
  • Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg (20 credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2 (20 credyd)*
  • Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg (20 credyd)

 

Blwyddyn Tri

Ffocws y flwyddyn derfynol fydd ar integreiddio’r wybodaeth a gafwyd yn flaenorol er mwyn i fyfyrwyr werthfawrogi’r dull aml-ddisgyblaethol o fynd ati i ymchwilio, diagnosio a reoli anhwylderau a chlefydau. Ymhlith y pynciau a astudir bydd ymchwilio clefydau yn y labordy, dadansoddi bio-wybodeg, ymchwil drosi a detholiad o bynciau cyfredol perthnasol i wyddor biofeddygol. Bydd prosiect ymchwil y flwyddyn olaf yn annog dysgu annibynnol ymhellach, datblygiad parhaus o sgiliau ymchwil technegol, ysgrifennu’n wyddonol a dadansoddi’n gritigol.

Modiwlau (I gyd yn rhai Craidd):

  • Dadansoddiad Biofoleciwlaidd (20 credyd)
  • Pynciau Cyfoes mewn Gwyddorau Biofeddygol (20 credyd)
  • Prosiect (40 credyd)*
  • Ymchwiliad Bioleg a Labordy o Haint (20 credyd)
  • Ymchwil Drosi (20 credyd)​

 

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Defnyddir amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu drwy gydol y rhaglen. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, tasgau grŵp a nifer sylweddol o sesiynau ymarferol yn y labordy. Hefyd, defnyddir Rhith Amgylchedd Dysgu Moodle i ddarparu gwybodaeth allweddol am fodiwlau rhaglen, cyngor a gwybodaeth am yrfaoedd a gwybodaeth weinyddol am raglen astudiaeth y myfyrwyr. Neilltuir tiwtor personol ar gyfer pob myfyriwr wrth iddyn nhw ymrestru ar y cychwyn a hwn/hon fydd eu tiwtor a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol eu hastudiaethau. Mae'r system diwtorial personol yn annog myfyrwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol a myfyriol trwy gydol eu hastudiaethau. Yn ogystal, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein ‘Polisi Drws Agored’ sy’n annog myfyrwyr i gysylltu â staff am gyngor a chyfarwyddyd pryd bynnag mae ei angen.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu myfyrwyr: mae rhai modiwlau yn defnyddio aseiniadau ysgrifenedig megis traethodau ac adolygiadau llenyddiaeth, eraill yn cynnwys arholiadau, adroddiadau ymarferol cyflwyniadau (grŵp ac unigolion), astudiaethau achos ac (yn y flwyddyn olaf) elfen bwysig ydy cwblhau prosiect ymchwil gwyddonol a phoster.

Mae Gwyddor Biofeddygol yn newid yn barhaus, yn ddisgyblaeth wyddonol ddeinamig yn ymwneud â deall sut mae clefydau yn datblygu a sut gallan nhw effeithio ar weithrediad arferol y corff. Nod y ddisgyblaeth hon ydy ymchwilio i broses y clefyd ac, yn y pen draw, datblygu dulliau ar gyfer monitro, diagnosio, trin ac atal clefydau.

Gallai graddedigion ddefnyddio’u gwybodaeth wyddonol arbenigol a’u sgiliau dadansoddiadol i ymchwilio i glefydau megis clefyd siwgr, canser, a chlefyd cardiofasgwlaidd. Byddan nhw’n gallu gwerthuso effeithiolrwydd triniaeth a chynorthwyo’r ymchwil i brofion diagnostig a chynnyrch fferyllol a’u datblygu.

Gall graddedigion gael eu cyflogi mewn amrywiaeth o gyd-destunau, yn cynnwys labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddorau fforensig, y diwydiant fferyllol, iechyd a diogelwch, masnach ac addysgu. Hefyd, mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio am raddau uwch yn cynnwys mynediad graddedigion i raddau meddygaeth a deintyddiaeth ac i gymwysterau proffesiynol pellach.

Mae achrediad y radd hon gan yr IBMS yn golygu bod ein graddedigion yn bodloni'r gofynion academaidd i gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol. Mae hyn yn golygu y gallant wneud cais am swydd fel Gwyddonydd Biofeddygol dan hyfforddiant ac yna, ar ôl hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith a chyflawni Tystysgrif Cymhwysedd IBMS, ddod yn Wyddonydd Biofeddygol cofrestredig (gweler ibms.org am ragor o wybodaeth).

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 112-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A i gynnwys gradd B mewn Bioleg a gradd C mewn Gwyddoniaeth gyfatebol.​
  • Pynciau perthnasol: Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
  • Lefel T: Ystyrir Teilyngdod mewn pwnc Gwyddoniaeth.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: O fewn pwnc Gwyddoniaeth sy'n cwmpasu Bioleg ddigonol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dwy Radd 5/6 mewn Bioleg Lefel Uwch a Gwyddoniaeth gyfatebol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: H2 mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir pynciau lefel uwch gyda gradd H4 o leiaf yn unig.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Sally Hicks.

  • Cod UCAS

    B900 (gradd 3 blynedd), B90F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

YouTube Thumbnail - BSc Biomedical Science YouTube Thumbnail - BSc Biomedical Science

Astudio Gwyddor Biofeddygol

Profiad Myfyrwyr

Mae Claudia, sy’n fyfyrwraig BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol yn rhoi gwybod am sut mae’n barod am gyflogaeth diolch i’r rhaglen achrededig yma ym Met Caerdydd.

01 - 04
Rows of workbenches in a large laboratory. On the workbenches are microscopes and other scientific equipment. Rows of workbenches in a large laboratory. On the workbenches are microscopes and other scientific equipment.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Labordai Gwyddor Biofeddygol

Mae’r labordai addysgu gwyddor biofeddygol yn fawr, yn fodern ac yn gyflawn o offer, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu cymwyseddau allweddol sy’n cyd-fynd â gofynion achredu. Mae myfyrwyr yn ymgymryd â sesiynau ymarferol hanfodol mewn meysydd disgyblaeth craidd sy’n cynnwys microbioleg ac imiwnoleg, gwyddorau gwaed a chellol, bioleg foleciwlaidd a geneteg trwy gydol eu rhaglenni astudio. Mae sgrin cyfryngau a gosodiad sain yn galluogi ymgysylltu rhyngweithiol rhwng staff a myfyrwyr gan sicrhau y cyflwynir profiad dysgu rhagorol yn ystod pob sesiwn labordy.

01 - 04