Skip to content

Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Bywyd) - Gradd BSc (Anrh)

Mae’r BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Bywyd) bellach ar gau ar gyfer ceisiadau ar gyfer mynediad yn 2026.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Telir Ffioedd Dysgu yn llawn ar gyfer y rhai sydd wedi llwyddo i ennill lle ar y cwrs.

Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth ddeinamig sy’n datblygu’n barhaus ac sy’n gofyn i unigolion tra hyfforddedig i berfformio amrywiaeth o dechnegau yn seiliedig ar labordy a fydd yn cyfrannu ar ofal a llesiant cyffredinol cleifion.

Lluniwyd gradd achrededig BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Bywyd) ym Met Caerdydd yn benodol i alluogi myfyrwyr i ddatblygu, integreiddio a defnyddio gwybodaeth wyddonol a sgiliau i archwiliad aml-ddisgyblaethau iechyd a chlefydau. Gydag elfennau o hyfforddiant yn seiliedig ar waith wedi’u hymgorffori ymhob blwyddyn o’r rhaglen, mae wedi’i theilwra’n ofalus i baratoi graddedigion ar gyfer gyrfa yn y GIG.

Mae gradd Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Bywyd) yn cysylltu’n agos gyda gofynion cynllunio gweithlu ar gyfer GIG Cymru, ac felly, mae’n cynnig lefel uwch o gyflogadwyedd. Yn ystod ail flwyddyn yr astudiaeth bydd myfyrwyr yn arbenigo yn un o’r disgyblaethau canlynol: Gwyddor Gwaed, Gwyddor Celloedd, Gwyddor Geneteg neu Wyddor Haint. Bydd graddedigion llwyddiannus hefyd yn gymwys i wneud cais i gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a hynny’n gwella cyfleodd gyrfaol ymhellach.

Achredwyd y cwrs hwn gan Gymdeithas Frenhinol Bioleg at ddiben diwallu, yn rhannol, y gofynion academaidd a phrofiad ar gyfer Aelodaeth a Biolegydd Siartredig (CBiol).

Gan fod y rhaglen hon yn cael ei hariannu gan y GIG ac felly cyfyng ydy’r nifer o leoedd sydd ar gael a gall hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn anffodus ni ellir ystyried ceisiadau gohiriedig.

 

Wedi'i achredu gan

Royal Society of Biology Logo

Cymdeithas Frenhinol Bioleg

IBMS Accredited Logo

Sefydliad Gwyddor Biofeddygol

01 - 04
Health and Care Professions Council Logo

Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

NHS Health Education England Logo

Addysg Iechyd GIG Lloegr

01 - 04

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Yn ogystal, bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 70% ar yr ymgais gyntaf, gydag isafswm o 65% o’r modiwl Gwyddorau Biolegol yn Nhymor 2. Gweler y gofynion mynediad am fanylion pellach​.

Bydd myfyrwyr yn graddio gydag un o’r dyfarniadau canlynol:

  • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Gwaed)
  • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Celloedd)
  • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Geneteg)
  • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Haint)

Os bydd cystadleuaeth am rai arbenigeddau yn codi, efallai y bydd cyflawniad academaidd, canlyniad proses gyfweld, ymgysylltiad myfyrwyr â’r rhaglen a CV myfyrwyr yn cael eu hystyried.

Blwyddyn Un (Lefel 4)

Byddwch yn astudio biocemeg sylfaenol, bioleg celloedd a geneteg, microbioleg, imiwnoleg, a ffisioleg dynol, yn cynnig y wybodaeth wyddonol angenrheidiol ar gyfer astudiaeth bellach. Hefyd, byddwch yn gallu datblygu sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a phroffesiynol perthnasol yn ogystal â gwneud cyfnod o hyfforddiant clinigol cyffredinol yn seiliedig ar waith.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau 4 wythnos o leoliad rhyngbroffesiynol yn y Brifysgol ar draws 3 blynedd y rhaglen, ac yn ystod y flwyddyn academaidd gyntaf hon byddant yn ymgymryd â lleoliad clinigol 3 wythnos mewn labordy patholeg y GIG sydd wedi'i achredu gan IBMS yng Nghymru.

Modiwlau (I Gyd yn Rhai Craidd):

  • Biocemeg (20 credyd)
  • Bioleg Celloedd a Geneteg (20 credyd)
  • Anatomi a Ffisioleg (20 credyd)*
  • Haint ac Imiwnedd 1 (20 credyd)
  • Sgiliau Labordy a Dadansoddi Data (20 credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1 (20 credyd)*

Blwyddyn Dau (Lefel 5)

Byddwch yn ennill arbenigedd mewn ystod gynhwysfawr o dechnegau ymchwiliol arbenigol, epidemioleg a dadansoddi data a dulliau ymchwil. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i ddisgyblaethau gwyddor gwaed, gwyddor cellog, gwyddor genetig a gwyddor heintiau. Bydd myfyrwyr yn archwilio natur a phwysigrwydd prosesau clefydau a’u hymchwiliad clinigol ac yn cychwyn ar gyfnod hyfforddi arbenigol blwyddyn o hyd mewn labordy patholeg y GIG. Mae’r lleoliad clinigol yn dechrau yn haf blwyddyn 2 ac yn parhau i drydedd flwyddyn a blwyddyn olaf y rhaglen.

Modiwlau:

  • Dulliau Ymchwil (20 credyd)*
  • Gwyddorau Gwaed a Chelloedd (20 credyd)
  • Haint ac Imiwnedd 2 (20 credyd)
  • Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg (20 credyd)
  • Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg (20 credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2 (20 credyd)*
  • Lleoliad Gwyddor Gofal Iechyd Arbenigol A (nad yw’n dwyn credyd)

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

Mae’r flwyddyn olaf yn cynnwys cyfuniad o leoliad clinigol, dysgu o bell academaidd a rhyddhau bloc yn y Brifysgol. Eleni byddwch yn canolbwyntio ar integreiddio eich dysgu i gefnogi dull amlddisgyblaethol o ymchwilio, gwneud diagnosis a rheoli anhwylder ac afiechyd. Bydd y pynciau a drafodir yn pwysleisio’r ymagwedd amlddisgyblaethol at ymchwilio i glefydau yn y labordy, a rheoli cleifion. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau arbenigedd penodol drwy ddysgu o bell a rhyddhau blociau, wrth gwblhau gweddill y lleoliad clinigol blwyddyn o hyd. Mae’r hyfforddiant seiliedig ar waith hwn yn parhau o leoliad blwyddyn 2. Bydd y prosiect ymchwil blwyddyn olaf a wneir fel rhan o’ch hyfforddiant seiliedig ar waith, yn annog ymhellach ymholi annibynnol a dadansoddi beirniadol.

Modiwlau:

  • Bioleg ac Ymchwil yn y Labordy i Glefydau (20 credyd)
  • Pynciau Cyfoes mewn Gwyddor Gofal Iechyd (20 credyd)
  • Ymarfer Proffesiynol a Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith (20 credyd)
  • Arbenigedd B (20 credyd)
  • Prosiect Ymchwil (40 credyd)*

 

* Modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Defnyddir ystod o ddulliau addysgu a dysgu drwy’r rhaglen. Mae’r rhaglen yn cynnwys tiwtorialau, a nifer sylweddol o sesiynau ymarferol yn y labordy. Hefyd, defnyddir Rhith Amgylchedd Dysgu Moodle i gynnig gwybodaeth allweddol am fodiwlau rhaglen, gwybodaeth am gyngor gyrfaol a gwybodaeth weinyddol am raglen astudiaeth y myfyrwyr.

Neilltuir tiwtor personol ar gyfer pob dysgwr pan fyddan nhw’n ymrestru ar y cychwyn cyntaf, a hwn/hon fydd eu tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol eu hastudiaeth. Bydd myfyrwyr yn llunio Portffolio Datblygiad Personol (PDP) yn ystod y flwyddyn gyntaf ac mae’r system o diwtoriaid personol yn annog myfyrwyr i ddal ati i ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol ac adfyfyriol drwy gydol eu hastudiaethau. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein ‘Polisi Drws Agored’ sy’n annog myfyrwyr i gysylltu â staff am gyngor a chyfarwyddyd pryd bynnag byddan nhw angen hynny.

Hefyd, neilltuir tiwtor hyfforddiant yn y gweithle ar gyfer myfyrwyr. Bydd y cyfryw aelod o’r staff yn un o’n darlithwyr cofrestredig gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a bydd yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr tra byddan nhw allan ar leoliad.

Cewch eich asesu’n barhaus dwy arholiadau, gwaith cwrs, ac aseiniadau portffolio, astudiaethau achos ac yn y flwyddyn olaf, traethawd hir ymchwil yn seiliedig ar waith / cyflwyniad poster gwyddonol.

Yn ogystal, tra’n gwneud hyfforddiant yn y gweithle, bydd gofyn i’r myfyrwyr gwblhau Llawlyfr Hyfforddiant Ymarferydd Gwyddor Gofal a Iechyd a phortffolio Gwyddor Biofeddygol cyn-ymrestru ar gyfer Tystysgrif Cymhwysedd.

Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth wyddonol ddeinamig, broffesiynol sy’n newid yn barhaus, disgyblaeth sy’n ymwneud â deall sut mae clefydau yn datblygu a sut gallen nhw effeithio ar y modd mae’r corff yn gweithio fel arfer. Nod y ddisgyblaeth ydy ymchwilio i broses glefydau ac, yn y pen draw , datblygu dulliau i fonitro, diagnosio, trin ac atal clefyd.

Mae Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnig cyfleoedd gyrfaol heriol a boddhaus o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a nifer o sefydliadau eraill yn cynnwys yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, Awdurdod Gwaed Cenedlaethol a’r Cyngor Ymchwil Meddygol.

O gwblhau’r rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn llwyddiannus, gall graddedigion wneud cais am gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Hyfforddiant yn seiliedig ar waith: mae cyfnodau estynedig o hyfforddiant mewn labordai’r GIG wedi’u hymgorffori ar draws tair blynedd y rhaglen radd hon. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn ennill gwybodaeth fanwl, dealltwriaeth drylwyr a phrofiad helaeth o amgylchedd gwyddor gofal iechyd i’w paratoi nhw ar gyfer cyflogaeth fel Ymarferydd Gwyddor Gofal Iechyd/Gwyddonydd Biofeddygol o fewn y GIG.

Gwybodaeth bellach am gyfleodd gyrfaol ym maes Gwyddor Gofal Iechyd.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus. Bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 70% ar yr ymgais gyntaf, gydag isafswm o 65% o’r modiwl Gwyddorau Biolegol (20 credyd) yn Nhymor 2.

  • Pwyntiau tariff: 112-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS academaidd 7 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A. Graddau BC mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol.
  • Pynciau perthnasol: Ystyrir Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth fel y Wyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DDM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
  • Lefel T: Pwnc gwyddoniaeth yn cael ei ystyried, ochr yn ochr â chymhwyster Lefel 3 perthnasol pellach.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd Lefel 3 ar Ragoriaeth mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch ym meysydd y Biowyddorau, Gofal Iechyd, Gwyddor Iechyd a Gwyddoniaeth yn dderbyniol. Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C/4 neu uwch mewn iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth hefyd.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dwy Radd 5/6 mewn Bioleg Lefel Uwch a Gwyddoniaeth gyfatebol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: H1 mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir pynciau lefel uwch gyda gradd H4 o leiaf yn unig.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad llwyddiannus, gwiriad DBS a Iechyd Galwedigaethol.

Byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd cymwys sy’n astudio, neu sydd wedi astudio, Diploma priodol sy’n ymwneud ag Iechyd Mynediad i Addysg Uwch; cymhwyster dysgu seiliedig ar waith lefel 3 neu 4 neu raglen lefel 3 debyg; sy’n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ar gyfer y rhaglen.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Oherwydd natur y rhaglen, ni allwn ystyried ymgeiswyr Rhyngwladol nad ydynt yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth y GIG. Fodd bynnag, gall deiliaid pasbort y DU sydd fel arfer yn byw dramor fod yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth y GIG. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rhaglen bydd angen i chi wneud cais trwy UCAS, a bydd cadarnhad o le yn dibynnu ar ddyfarnu bwrsariaeth y GIG.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Mae holl fyfyrwyr gofal iechyd, yn cynnwys y rhai heb fod yn rhan o gynllun Bwrsari GIG Cymru, sy’n cynnig cymorth ariannol i dalu ffioedd dysgu ac am rai o agweddau cynhaliaeth ar yr amod eu bod yn ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio, yn gymwys i dderbyn cymorth gan GIG Cymru sef ad-daliadau o gostau teithio i leoliad profiad gwaith clinigol a phrofiad gwaith a threuliau cynhaliaeth y gellir eu hawlio drwy Swyddfa Lleoliadau Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am adennill costau lleoliad, cysylltwch â cpt@cardiffmet.ac.uk.

Cysylltwch â moneyadvice@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid, gan gynnwys cyllid myfyrwyr a bwrsariaeth y GIG. Am ragor o wybodaeth am Gynllun Bwrsari’r GIG, cliciwch yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen, Victoria Bradley:

  • Cod UCAS

    B130 (gradd 3 blynedd), B13F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    3 neu 4 blynedd yn llawn amser (gyda blwyddyn academaidd estynedig i gynnwys elfennau hyfforddiant yn seiliedig ar waith). Sylwer y bydd y lleoliadau yn digwydd yn ystod gwyliau 'traddodiadol' myfyrwyr, h.y., dros fisoedd yr haf.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

YouTube Thumbnail - BSc Healthcare Science Teaching Scenario YouTube Thumbnail - BSc Healthcare Science Teaching Scenario

Astudio Gwyddor Gofal Iechyd

Senario Addysgu Byw

Gwyliwch senario addysgu byw o fyfyrwyr Gwyddor Gofal Iechyd yn paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol yn ein Labordy Efelychu Patholeg yn yr Hyb Iechyd Clinigol Perthynol.

01 - 04
Rows of workbenches in a large laboratory. On the workbenches are microscopes and other scientific equipment. Rows of workbenches in a large laboratory. On the workbenches are microscopes and other scientific equipment.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Labordai Gwyddor Biofeddygol

Mae’r labordai addysgu gwyddor biofeddygol yn fawr, yn fodern ac yn gyflawn o offer, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu cymwyseddau allweddol sy’n cyd-fynd â gofynion achredu. Mae myfyrwyr yn ymgymryd â sesiynau ymarferol hanfodol mewn meysydd disgyblaeth craidd sy’n cynnwys microbioleg ac imiwnoleg, gwyddorau gwaed a chellol, bioleg foleciwlaidd a geneteg trwy gydol eu rhaglenni astudio. Mae sgrin cyfryngau a gosodiad sain yn galluogi ymgysylltu rhyngweithiol rhwng staff a myfyrwyr gan sicrhau y cyflwynir profiad dysgu rhagorol yn ystod pob sesiwn labordy.

A large white room. In the background, a simulated patient lies on a trolley. A large white room. In the background, a simulated patient lies on a trolley.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Hyb Iechyd Clinigol Perthynol

Mae myfyrwyr yn ennill profiad sy’n arwain y sector trwy weithio mewn cyfleusterau ar ffurf unedau cleifion allanol go iawn ochr yn ochr â thimau amlddisgyblaethol, gan ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn ymarferwyr cymwys sy’n darparu gofal cleifion o’r ansawdd uchaf.

01 - 04