Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Rheoli - Meistr drwy Ymchwil (MRes)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r cwrs hwn yn darparu ar gyfer astudiaeth ymchwil uwch ym maes Rheoli. Ei nod yw rhoi mewnwelediadau allweddol i ddarpar reolwyr ac arbenigwyr busnes mewn theori ac ymarfer ymchwil o fewn y ddisgyblaeth reoli. Yn benodol, amcanion y cwrs hwn yw:

  1. Darparu hyfforddiant sylfaen mewn sgiliau ymchwil sylfaenol ac uwch sy’n ddigonol i fynd i mewn i raglen Ddoethurol. Mae’r rhaglen hefyd yn addas i ymgeiswyr sydd efallai’n dymuno cael gradd ymchwil, ond nad ydynt am ymrwymo i gyfnod hirach o astudio.
  2. Datblygu ymarfer ymchwil a theori rheoli (cysyniadol, methodolegol, ymarferol a moesegol) ar lefel broffesiynol ac academaidd.
  3. Darparu cyd-destun rhyngddisgyblaethol i ymchwil, gan gael cefnogaeth gan amrywiaeth o gyd-destunau technegol, academaidd a disgyblaeth.
  4. Datblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o theori Rheoli ac ymarfer ymchwil i systemau cymhleth, yn systematig ac yn greadigol, i wella arferion rheoli.
  5. Gwella sgiliau dysgu annibynnol a lefel uchel a datblygiad personol ymwybyddiaeth feirniadol o derfynau gwahanol dechnegau ymchwil drwy fodiwlau a dadleuon a addysgir) fel bod ymchwilwyr yn gallu gweithio gyda hunan-gyfeiriad a gwreiddioldeb a chyfrannu at y ddisgyblaeth reoli.

Bydd myfyrwyr yn astudio 180 credyd o astudiaethau arbenigol mewn amrywiaeth o bynciau Rheoli. Mae’r cwrs yn cynnwys 80 credyd o astudio trwy gwrs, ac yna traethawd ymchwil 100 credyd sy’n seiliedig ar ymchwil.

Bydd y modiwlau canlynol yn cael eu hastudio:

  • 3 x modiwl disgyblaeth-benodol 20 credyd a ddewisir o’n portffolio meistr presennol (60 credydau)
  • ASR7001 Ymarfer Ymchwil (20 credydau)
  • Traethawd Ymchwil (100 credydau)

Dyfernir yr MRes ar ôl cwblhau’r holl elfennau a addysgir yn llwyddiannus yn ogystal â chyflwyno Traethawd Ymchwil 25,000 o eiriau.

Y pwynt ymadael ar gyfer y rhaglen hon fydd y Dystysgrif Ôl-Raddedig a enillir drwy gwblhau 60 credyd astudio yn llwyddiannus o raglen meistr gymeradwy yn y Brifysgol.

Defnyddir darlithoedd safonol i alluogi gwybodaeth graidd a deall cynnwys i gael eu cyflwyno i garfan gyfan y modiwl. Ategir hyn gyda seminariaid/gweithdai i ganiatáu archwilio pob agwedd ar gynnwys modiwl (gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a nodweddion eraill) mewn lleoliad grŵp rhyngweithiol ac ymwthiol. Mae’r rhaglen yn cynnwys goruchwyliaeth un-i-un helaeth i drafod a chyd-destunu’r damcaniaethau a addysgir gyda syniadau myfyrwyr ar sut y bydd eu prosiectau ymchwil yn datblygu. Cefnogir hyn drwy’r VLE Moodle, sy’n darparu mynediad at ddeunyddiau allweddol, taflenni a phapurau ymchwil.

Bydd y traethawd ymchwil yn annog myfyrwyr i weithio o fewn sefydliadau er mwyn cymhwyso eu gwaith ymchwil mewn lleoliad go iawn. Disgwylir i fyfyrwyr rhan-amser gymhwyso eu hymchwil yn eu gweithle fel y bydd cwmnïau’n elwa ar y buddsoddiad a wnaed i fynychu’r cwrs.

Bydd angen cryn dipyn o waith gan y myfyrwyr drwy ddysgu annibynnol a hunan-astudio. Mae astudiaeth o’r fath yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau y modiwl yn annibynnol ac i gwblhau ymarferion ffurfiannol a chyfansymiol.

Bydd Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol yn ystod elfen a addysgir y cwrs. Bydd ef/hi ar gael i bob myfyriwr sydd â phroblemau penodol yn ymwneud â chynnwys a strwythur y cwrs. Bydd Goruchwyliwr hefyd yn cael ei ddyrannu i bob myfyriwr ar ddechrau’r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr gysylltu â’u Goruchwyliwr yn ystod yr elfen a addysgir, a’i chadw’n ymwybodol o’r cynnydd drwy ‘gyfarfodydd adolygu carreg filltir’ rheolaidd.

Mae pob asesiad modiwl 20 credyd a addysgir yn yr Ysgol yn seiliedig ar 4,000 o eiriau neu gyfwerth. Mae dulliau asesu wedi’u cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o faterion ymarfer damcaniaethol, cymhwysol a phroffesiynol ac maent yn cynnwys traethodau gwaith cwrs, adroddiadau ymchwil, cyflwyniadau a beirniadaeth.

Mae’r modiwl Traethawd Hir Ymchwil 100 credyd (RES7000) yn cynnwys cynhyrchu traethawd hir ymchwil 16,000 o eiriau a 4,000 o eiriau Adroddiad Ymarfer Myfyriol. Caiff y traethawd hir ei brofi drwy arholiad viva voce.

Disgwylir y bydd llawer o raddedigion o’r cwrs hwn yn mynd ymlaen i ymgymryd â rhaglenni gradd ymchwil a chael swyddi uwch o fewn ystod o fusnesau fel rheolwyr/cyfarwyddwyr.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol. Mae’r gofynion mynediad penodol yn cynnwys:

  • Gradd anrhydedd (2.2 dosbarth neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol
  • Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn rolau rheoli hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr nad yw eu hiaith gyntaf yn Saesneg ddarparu tystiolaeth o rhuglder i safon IELTS 6.5 o leiaf (gydag o leiaf 6.5 yn y cydrannau Darllen ac Ysgrifennu) neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:

Fel arfer, caiff myfyrwyr eu dewis ar sail:

  • ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn
  • cynnig ymchwil 2000 gair sy’n amlinellu eu maes ymchwil
  • cwricwlwm vitae

Gofynnir i ymgeiswyr ddod i gyfweliad os yw’r cynnig ymchwil a’r cam ymgeisio yn dderbyniol. Gellir cynnal cyfweliadau drwy Skype neu ffôn gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen a Chydlynydd Astudiaethau Graddedig cyn gwneud unrhyw gynnig.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasaneth. Am wybodaeth bellach ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Ar gyfer ymholiadau cwrs penodol, cysylltwch â csmresearch@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r Meistr drwy Ymchwil (MRes) mewn Rheoli yn rhan o raglen MRes Prifysgol Met Caerdydd ac mae’n unigryw o fewn sector Sefydliadau Addysg Uwch (HEI) y DU. Mae’r MRes wedi’i gynllunio i ymgorffori cyfnod a addysgir (80 credyd) a chyfnod ymchwil (100 credyd) a fydd yn cefnogi ymgeiswyr o gamau cysyniadau cychwynnol a datblygu syniadau ymchwil, a dadansoddi llenyddiaeth empirig yn feirniadol, hyd at gynllunio a chwblhau prosiect ymchwil annibynnol sylweddol mewn pwnc arbenigol. Mae’r dull modiwlaidd, gydag asesiadau penodol, yn rhoi cerrig milltir clir i ymgeiswyr olrhain eu cynnydd drwy gydol y rhaglen astudio, tra bod y traethawd hir 100 credyd yn sicrhau bod mwyafrif y credyd a astudiwyd yn cael ei ddyfarnu i ymchwil annibynnol. Mae’r nodweddion hyn yn sicrhau bod y rhaglenni MRes yn rhoi mwy o ffocws ar ymchwil na rhaglenni meistr a addysgir nodweddiadol (e.e., MSc, MA), gan ddileu’r ansicrwydd sy’n deillio’n aml wrth astudio am gwrs Lefel 7 llai strwythuredig, fel yr MPhil.

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau 80 credyd o astudio sy’n gysylltiedig ag ymchwil (y Cyfnod a Addysgir) a 100 credyd o ymchwil annibynnol (y Cyfnod Ymchwil). Bydd ymgeiswyr yn elwa o hyblygrwydd y rhaglen drwy ddewis y modiwlau sy’n briodol i’w prosiect ymchwil.

Yng Nghyfnod a Addysgir y rhaglen, bydd ymgeiswyr yn cwblhau 40 credyd o fodiwlau (2 x 20 credyd) ar bynciau craidd sy’n gysylltiedig ag ymchwil ochr yn ochr â’u cyfoedion o lwybrau MRes eraill a 40 credyd o fodiwlau (2 x 20 credyd) sy’n cyd-fynd â’u maes pwnc.

Y Cyfnod a Addysgir – Modiwlau Craidd

Modiwl 1 – Datblygu eich Syniad Ymchwil

Mae’r modiwl cyntaf hwn yn rhoi sylfaen i ymgeiswyr yn y broses ymchwil, gan gwmpasu agweddau megis: athroniaethau ymchwil personol, creu nodau ac amcanion, methodolegau ymchwil, gweithio ar y cyd, moeseg ymchwil a datblygu cynaliadwyedd mewn ymchwil, ysgrifennu beirniadol, chwilio am lenyddiaeth a rheoli cyfeiriadau, eiddo deallusol, a meddwl dylunio ar gyfer dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl.

Modiwl 3

Mae ymgeiswyr yn dewis 1 o’r canlynol:

  • Datblygu Sgiliau Ymchwil Meintiol
  • Datblygu Sgiliau Ymchwil Dulliau Cymysg
  • Datblygu Sgiliau Ymchwil Ansoddol

Bydd ymgeiswyr yn dewis dilyn arbenigedd sgiliau ymchwil meintiol, ansoddol neu ddulliau cymysg yn dibynnu ar natur eu maes astudio arfaethedig yn y Cyfnod Ymchwil. Bydd y modiwlau hyn yn ymdrin â phynciau gan gynnwys rheoli prosiectau, cynnal a dehongli profion ystadegol, dulliau cyflwyno canlyniadau, ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd, a sgiliau astudio. Yn seiliedig ar ddealltwriaeth o ddylunio ymchwil (Modiwl 1), sgiliau ymchwil (Modiwl 3) ac arbenigedd y pwnc (Modiwl 2), bydd cynnig ymchwil ar gyfer eu prosiect ymchwil terfynol yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno fel dull asesu yn y modiwl hwn. Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cynnig moeseg ar y cam hwn o’u hymgeisyddiaeth hefyd.

Y Cyfnod a Addysgir – Modiwlau Angenrheidiol

Bydd pob ymgeisydd sydd wedi cofrestru ar yr MRes mewn Rheoli yn cwblhau’r modiwlau Datblygu Gwybodaeth Benodol i’r Pwnc.

Modiwl 2 a 4 – Datblygu Gwybodaeth Benodol i’r Pwnc 1 a 2

Gall ymgeiswyr ddewis astudio modiwl 20 credyd pwnc-benodol o raglenni lefel meistr a addysgir sy’n bodoli eisoes. Pa bynnag fodiwl y mae ymgeiswyr yn ei ddewis o’r gyfres o fodiwlau a addysgir sy’n bodoli eisoes, byddant yn cwblhau’r un asesiad â’r ymgeiswyr ôl-raddedig sydd wedi cofrestru ar y modiwl hwnnw.

Modiwl 5 – Prosiect Ymchwil

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol, wedi’i bwysoli ar gyfer 100 credyd, lle byddant yn gallu cymhwyso eu harbenigedd newydd mewn ymchwil a gwybodaeth benodol i’r pwnc. Bydd y prosiect ymchwil terfynol yn benodol i’r ddisgyblaeth a gall fod ar ffurf y mathau o gyflwyniadau canlynol:

  • Traethawd ymchwil traddodiadol (hyd at uchafswm o 20,000 o eiriau)
  • 1-2 llawysgrif(au) ymchwil i’w hadolygu gan gymheiriaid

Bydd y prosiect terfynol yn cael ei asesu drwy arholiad viva voce ffurfiol. Rhoddir ystyriaeth i ansawdd a chynnwys y cyflwyniad ysgrifenedig, ond hefyd i’r ffordd y mae’r ymgeisydd yn amddiffyn ei waith yn annibynnol ac yn glir.

Y cymhwyster ar adeg gadael ar gyfer y cwrs hwn fydd y Dystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) mewn Egwyddorion Ymchwil a enillir trwy gwblhau 60 credyd o astudiaeth yn llwyddiannus.

Drwy gydol yr MRes, bydd amrywiaeth o ddulliau Dysgu ac Addysgu yn cael eu defnyddio gan gynnwys:

  • cyflwyno darlithoedd a seminarau anghydamserol ar-lein (e.e., dysgu gwrthdro neu wedi’i recordio ymlaen llaw, cyrchu darlithoedd neu fideos wedi’u recordio, gweithgareddau dysgu wedi’u cynllunio ar-lein, cyfrannu at drafodaeth ar gyfer gwaith grŵp)
  • rhyngweithiadau wyneb yn wyneb ag aelodau’r tîm goruchwylio
  • dysgu sefyllfaol wedi’i amserlennu (e.e., gwaith maes, casglu data, gwaith labordy wedi’i amserlennu gyda goruchwyliaeth)
  • cymorth academaidd wedi’i amserlennu (e.e., gweithdai asesu, adborth wyneb yn wyneb, sesiynau tiwtorial seiliedig ar bynciau, sesiynau sgiliau academaidd, goruchwylio ymchwil)
  • dysgu dan arweiniad annibynnol (e.e., paratoi darllen gwrthdro, astudio annibynnol ar gyfer aseiniadau, gwaith stiwdio neu labordy ar brosiectau unigol, darllen ac ymchwil, mynediad annibynnol at gefnogaeth sgiliau academaidd penodol)

Cefnogir hyn drwy’r Rhith-amgylchedd Dysgu Moodle, sy’n rhoi mynediad at ddeunyddiau allweddol, taflenni a phapurau ymchwil.

Bydd angen i’r ymgeiswyr wneud cryn dipyn o waith dysgu annibynnol a hunan-astudio. Mae astudio o’r fath yn galluogi ymgeiswyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau’r modiwl yn annibynnol ac i gwblhau ymarferion ffurfiannol a chrynodol.

Bydd Tîm Goruchwylio hefyd yn cael ei ddyrannu i bob ymgeisydd ar ddechrau’r rhaglen. Disgwylir i ymgeiswyr gysylltu â’u Tîm Goruchwylio yn ystod eu hastudiaethau, a’u cadw’n gyfredol â chynnydd trwy ‘gyfarfodydd adolygu carreg filltir’ rheolaidd.

Yng Nghyfnod a Addysgir yr MRes, mae gan bob modiwl ei ffurf ei hun o asesu. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu drwy bortffolio gwaith cwrs a all gynnwys rhai o’r opsiynau canlynol:

  • Erthyglau Ymchwil
  • Portffolios Profiad Ymarferol
  • Allbynnau sy’n Gysylltiedig â Dylunio
  • Gweithiau Creadigol ac Artistig
  • Dadansoddiad Beirniadol o Ymchwil Gyhoeddedig
  • Proses Adolygu Llenyddiaeth Systematig
  • Posteri
  • Adolygiadau Moeseg
  • Cynigion Ymchwil
  • Cynnig Ymchwil

Yng Nghyfnod Ymchwil yr MRes, bydd ymgeiswyr yn cael eu cefnogi gan eu tîm goruchwylio i gwblhau prosiect ymchwil terfynol sy’n cynnwys naill ai:

  • Traethawd ymchwil traddodiadol (hyd at uchafswm o 20,000 o eiriau)
  • 1-2 llawysgrif(au) ymchwil i’w hadolygu gan gymheiriaid (nodwch, nid oes angen i’r llawysgrifau fod wedi’u cyflwyno’n ffurfiol i gyfnodolyn adolygu gan gymheiriaid fel rhan o’r asesiad)

Yna bydd y prosiect ymchwil terfynol yn cael ei asesu trwy Arholiad Viva Voce ffurfiol.

Mae’r MRes yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa ymchwil, boed hynny’n dilyn rhaglen ymchwil bellach (fel PhD neu Ddoethuriaeth Addysgol) neu’n dechrau mewn swydd sy’n seiliedig ar ymchwil.

Bydd graddedigion MRes wedi datblygu sgiliau craidd mewn meddwl beirniadol, myfyrio ac ysgrifennu academaidd, dylunio ymchwil a dulliau ymchwil, moeseg ac uniondeb, a materion sy’n cyd-fynd ag ymchwil ddibynadwy.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion o ystod o wahanol ddisgyblaethau. Mae’r gofynion mynediad penodol yn cynnwys:

  • Gradd anrhydedd (dosbarthiad 2.1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol
  • Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn rolau rheoli hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 o leiaf (gyda lleiafswm o 6.5 yn y cydrannau Darllen ac Ysgrifennu) neu gyfwerth. Am fanylion llawn ynglŷn â sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol

Fel arfer, dewisir myfyrwyr ar sail ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn ynghyd â:

  • curriculum vitae (CV) yn amlinellu tystiolaeth o wybodaeth flaenorol am y pwnc
  • trawsgrifiad gradd, meysydd llafur modiwl ar gyfer gwybodaeth benodol i’r pwnc a chopi o draethodau hir blaenorol
  • datganiad personol
  • cynnig ymchwil (uchafswm o 1500 o eiriau) sy’n amlinellu eu maes ymchwil
  • cyfeiriadau academaidd

Gofynnir i ymgeiswyr ddod i gyfweliad os yw’r cynnig ymchwil a’r cam ymgeisio yn dderbyniol. Gellir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, drwy Teams neu dros y ffôn gyda Chydlynydd Ysgol MRes a Chydlynydd Astudiaethau Ôl-raddedig cyn gwneud unrhyw gynnig.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein system ymgeisio hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Gwahoddir ymgeiswyr MRes i fod yn rhan o Gymuned Ymchwil Doethurol Met Caerdydd a chysylltu â chyfoedion sy’n astudio graddau ymchwil mewn ystod eang o feysydd.

Bydd ymgeiswyr yn gallu cael mynediad at fannau astudio a chymdeithasu pwrpasol ar draws campysau megis mannau penodol i’r Ysgol a’r Ganolfan Ymchwilwyr Doethurol sydd wedi’i lleoli ar gampws Cyncoed sydd ar gael i bob ymgeisydd gradd ymchwil.

Fel rhan o’r Gymuned Ymchwilwyr Doethurol, bydd llais ymgeiswyr MRes yn cael ei gynrychioli gan y Grŵp Ymchwilwyr Doethurol (DRG) i gynrychioli ac eiriol dros eu buddiannau a’u hadborth. Mae’r DRG yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Ysgol academaidd ac anogir ymgeiswyr i gysylltu â chynrychiolwyr eu Hysgol i roi adborth ar eu profiad. Mae’r DRG yn trefnu Cynhadledd Ymchwilwyr Doethurol flynyddol sy’n rhoi cyfle i ymgeiswyr ennill profiad o gyflwyno eu hymchwil mewn lleoliad cynhadledd i’w cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol. Yn ogystal â’r gynhadledd flynyddol, mae’r DRG yn trefnu amryw o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn megis sesiynau Cyfoedion-i-Gyfoedion a digwyddiadau rhwydweithio a chymdeithasol. Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu trefnu gan Ysgolion, fel Encilfeydd Ysgrifennu, ac yn ganolog, fel hyfforddiant sgiliau ymchwil, lle gall ymgeiswyr ymgysylltu â chyfoedion y tu hwnt i’w carfan.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â csmresearch@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Hyd

    12-16 mis.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Hyd

    18-24 mis yn llawn amser. 36-48 mis yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.