Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio
Cardiff Met Logo

Yr Athro Gary Beauchamp

Athro Addysg
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Mae’r Athro Beauchamp yn Ddeon Cysylltiol (Ymchwil) i’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol ac yn Athro Addysg. Ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio fel athro ysgol gynradd, symudodd yr Athro Beauchamp i addysg uwch fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth yn Gyfarwyddwr Rhaglen y cwrs TAR cynradd yn ogystal â darlithio ym meysydd gwyddoniaeth gynradd, cerddoriaeth ac addysg ac astudiaethau proffesiynol. Bu hefyd yn dysgu ar ystod o fodiwlau MA ac yn goruchwylio myfyrwyr ymchwil. Symudodd i ymgymryd â dyletswyddau tebyg gydag Ysgol Addysg Abertawe cyn dod yn Gyfarwyddwr Rhaglen y radd BA (Anrhydedd) Astudiaethau Addysgol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2007. Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn 2009.

Mae ffocws ymchwil yr Athro Beauchamp ar TGCh yn addysg, yn enwedig y defnydd o dechnolegau rhyngweithio wrth ddysgu ac addysgu. Ar hyn o bryd, mae’n goruchwylio myfyrwyr PhD sy’n edrych ar TGCh yn Addysg ac addysg gerddoriaeth. Mae’r Athro Beauchamp hefyd wedi cyhoeddi gwaith ar TGCh ac addysg ryngweithiol, addysg gynradd, addysg cerddoriaeth (y maes yr enillodd ei ddoethuriaeth ynddo yn 1996) ac addysg gwyddoniaeth yn y sector cynradd.