Skip to content
Cardiff Met Logo

Janet Beauchamp

Uwch Ddarlithydd mewn Tai
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Mae Janet yn Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y Sefydliad sy'n arwain at y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi hefyd yn addysgu ar y rhaglen BSc Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.

Ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2014, lle daeth yn Gyfarwyddwr Rhaglen rhaglenni Astudiaethau Tai achrededig y Sefydliad Tai Siartredig.

Mae Janet yn Gynllunydd Tref Siartredig, a fu’n gweithio yn y sector cyhoeddus am 20 mlyneddyn gan arbenigo mewn dylunio trefol ac ymgysylltu â’r gymuned; uwchgynllunio cynlluniau tai a phrosiectau adfywio trefol. Ochr yn ochr â’i hymarfer proffesiynol bu hefyd yn gweithio fel tiwtor modiwl mewn dwy brifysgol arall, gan ychwanegu gwerth fel ymarferydd.

Yn ogystal â’i rôl academaidd, mae’n parhau â’i gweithgareddau proffesiynol fel Cadeirydd bwrdd rheoli cymdeithas dai yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn ymgymryd â rolau gwirfoddol gyda Phrosiect Ffydd mewn Tai Fforddiadwy Housing Justice Cymru ac mae’n aelod o Grŵp Cynghori Tai Sefydliad Bevan ac Academi Sgiliau Datblygu Sefydliad Tai Siartredig Cymru.

Prosiectau / grantiau ymchwil diweddar:

  • Cronfa Cyflymu Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd/ ESRC - Tyfu bwyd yn y ddinas
  • Lleithder a Llwydni mewn tai cymdeithasol : Protocol cyd-gynhyrchu gyda thenantiaid
  • Arolygon Adeiladau a ddefnyddir ar gyfer tai cymdeithasol newydd gyda Housing Justice Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Llywodraeth Cymru : Llawlyfr Tai Gwag
  • Grŵp Pobl: Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC23)

Mae Janet hefyd yn ymwneud â mentrau eraill ar draws Prifysgol Metropolitan Caerdydd megis Ymgysylltu Dinesig, Ehangu Mynediad, Allgymorth ac Ysgolion Haf.

Gwobrau

  • Ysbrydoli! Sefydliad Dysgu a Gwaith Cyrraedd y rhestr fer o ymgwiswyr terfynol Gwobrau Addysg i Oedolion 2018
  • Cyrraedd y rhestr fer o ymgwiswyr terfynol Gwobrau Green Gown 2020 yng nghategori Dysgu a Sgiliau y Genhdlaeth Nesaf
  • Gwobr dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd 2023 Cyfraniad Eithriadol i Fywyd Myfyrwyr YAPhCC
  • Cyrraedd y rhestr fer o ymgweiswyr terfynol Gwobrau Green Gown 2024 yng nghategori O Fudd i’r Gymdeithas
  • Ysbrydoli! Sefydliad Dysgu a Gwaith Gwobrau Addysg i Oedolion y Sefydliad 2024 -Gwneuthurwr y Gweithle