Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio
Cardiff Met Logo

Dr Nick Young

Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Addysg Gynradd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Rwy’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Addysg Gynradd ac yn angerddol ynghylch defnyddio technoleg berthnasol i wella dysgu o fewn addysg. Rwyf wedi cael profiad helaeth yn y sector addysg, gan weithio fel athro Ysgol Gynradd yn Ne Corea, Sbaen ac yn fwy diweddar yng Nghymru.

Dechreuodd fy ngyrfa ar lwybr gwahanol iawn i Addysg, oherwydd enillais Radd mewn Newyddiaduraeth. Mae’r astudiaethau hynny, ynghyd â sgiliau gwerthfawr a ddysgais wrth deithio wedi cyfrannu at fy ngyrfa ddysgu.

Wrth fagu mwy o brofiad, datblygais ddiddordeb mewn defnyddio technoleg yn y dosbarth. Rwyf wedi bod yn ffodus yn fy ngyrfa i gael cyfle i arwain prosiectau ymchwil o fewn meysydd y mae gennyf ddiddordeb byw ynddynt, fel chwaraeon, cydweithredu rhyngwladol a thechnoleg o fewn Addysg.