Skip to content

Canolfan ar gyfer Gwyddor a Meddygaeth Chwaraeon Cymhwysol

A close-up of a person working on a Dell laptop displaying an eye-tracking software interface. The screen shows a magnified image of an eye being analyzed. A second computer monitor and other lab equipment are visible in the background. A close-up of a person working on a Dell laptop displaying an eye-tracking software interface. The screen shows a magnified image of an eye being analyzed. A second computer monitor and other lab equipment are visible in the background.
01 - 02

Mae'r Ganolfan ar gyfer Gwyddor a Meddygaeth Chwaraeon Cymhwysol (CASSM) yn ceisio mynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf cymdeithas trwy ymchwil amlddisgyblaethol sy'n gwella perfformiad dynol ac yn lleihau'r risg o anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon. Mae gwaith y ganolfan yn cael effaith bellgyrhaeddol ar draws sawl sector, gan ddylanwadu ar ofal iechyd ac arfer chwaraeon, tra hefyd yn llywio polisi ar gyfer cyrff llywodraethu chwaraeon.

Wedi'i leoli yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, mae'r Ganolfan yn dwyn ynghyd arbenigedd ar draws sawl maes, gan gynnwys:

  • ffisioleg chwaraeon
  • biomecaneg
  • seicoleg
  • dadansoddiad perfformiad chwaraeon
  • adsefydlu chwaraeon
  • cryfder a chyflyru

Mae'n gweithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol, timau chwaraeon proffesiynol, cwmnïau technoleg a phartneriaid eraill yn y diwydiant i fynd i'r afael â chwestiynau allweddol yma maes chwaraeon perfformiad uchel, llwybrau datblygu talent, a chwaraeon hamdden a gweithgarwch corfforol.

Yn 2025, ymunodd y Ganolfan â Chynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Dawnus (TASS) i ffurfio Sefydliad Ymchwil TASS Cymru, sy'n cefnogi ymchwil ac arloesi er mwyn datblygu rhai o athletwyr ifanc mwyaf cyffrous y wlad, sy’n 16 oed a hŷn.

Arweiniodd y Ganolfan hefyd bartneriaeth arloesol â Chlwb Pêl-droed Brentford, gan gynnig cyfres o ysgoloriaethau PhD sy'n cymhwyso ymchwil ôl-raddedig i ofynion bywyd go iawn y byd pêl-droed proffesiynol.

Grwpiau a chanolfannau

Mae'r Grŵp Ymchwil Datblygiad Corfforol Pobl Ifanc yn dwyn ynghyd grŵp mawr o ymchwilwyr, hyfforddwyr a myfyrwyr ôl-raddedig i gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel sy'n archwilio datblygiad athletaidd hirdymor ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae'n canolbwyntio ar dri maes ymchwil ac arloesi:

  • Archwilio a gwella ffitrwydd corfforol
  • Lleihau'r risg o anaf
  • Gwella iechyd a lles

Mae'r grŵp ymchwil yn gweithio ochr yn ochr â'r Ganolfan Datblygiad Corfforol Pobl Ifanc, sy'n cynnig cefnogaeth cryfder a chyflyru ar ôl yr ysgol i oddeutu 200 o blant sy'n ymwneud â chwaraeon ieuenctid neu sy'n syml eisiau gwella eu hiechyd a'u ffitrwydd.

Gyda 12 aelod o staff academaidd, staff technegol ychwanegol a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, y Grŵp Ymchwil Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yw'r mwyaf o'i fath yn y DU.

Mae diddordebau ymchwil y grŵp yn cynnwys:

  • dadansoddi’r risgiau o anafiadau
  • gwneud penderfyniadau, momentwm, dadansoddi technegau
  • tactegau a dadansoddi cyfraddau gwaith
  • effeithiolrwydd cefnogaeth dadansoddi perfformiad yn ymarferol
  • dadansoddi perfformiad mewn cyd-destunau cyfryngau a beirniadu
  • problemau mesur ym maes perfformiad chwaraeon
  • ymarfer proffesiynol mewn dadansoddi perfformiad chwaraeon

Mae'r grŵp yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig ar y radd BSc (Anrh) Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon i ennill profiad ymarferol, yn y byd go iawn.

Y tu allan i Brifysgol Met Caerdydd, mae'r grŵp yn darparu ystod o wasanaethau ymgynghori ar gyfer timau chwaraeon lleol sy'n awyddus i wella eu perfformiad. Cysylltwch â Dr Gemma Robinson i gael gwybod mwy.

Mae aelodau'r grŵp hefyd ar fwrdd golygyddol y Cyfnodolyn Rhyngwladol Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon, gyda Dr Gemma Robinson wedi'i phenodi'n Olygydd Cyswllt yn ddiweddar.

Mae'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Chwaraeon Perfformiad Uchel yn cynnwys ymchwilwyr, ymarferwyr a myfyrwyr ôl-raddedig o ystod amrywiol o ddisgyblaethau chwaraeon, gan gynnwys ffisioleg, biomecaneg a seicoleg.

Nod y grŵp yw gwella sut mae athletwyr yn hyfforddi ac yn perfformio mewn chwaraeon elitaidd, ym Met Caerdydd ac o gwmpas y byd.

Cyfleusterau arbenigol

Mae'r cyfleuster blaenllaw hwn yn gartref i bum labordy cyfrifiaduron sydd â systemau Cyfrifiaduron Personol a Chyfrifaduron Mac perfformiad uchel ac offer golygu fideo uwch.

Mae campws Cyncoed hefyd yn cynnwys rhwydwaith camerâu IP dan do ac awyr agored sy'n dal athletwyr yn symud, gan gynnig golwg agosach ar eu perfformiad. Wedi'i reoli gan fyfyrwyr yn y labordy, mae'r rhwydwaith camerâu cymhleth hwn yn brin ymhlith sefydliadau chwaraeon a hyd yn oed yn fwy prin ymhlith prifysgolion.

Yn cynnwys dau labordy addysgu sydd wedi'u cyfarparu â’r offer sydd eu hangen i gynnal asesiadau penodol i chwaraeon – gan gynnwys rhedeg, beicio, nofio a rhwyfo – mae'r labordy hwn yn darparu profiad ymarferol gydag offer gwyddor chwaraeon arbenigol i wella dysgu ymarferol.

Mae'r cyfleuster ymchwil arloesol hwn yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys gofod labordy pwrpasol, dwy ardal casglu data ac ystafell ddadansoddi hybrid sy'n cefnogi ymchwil gwyddor chwaraeon uwch.

Mae'r gampfa hon yn cynnwys 14 platfform codi pwysau gyda raciau cyrcydu integredig, sy'n caniatáu i fyfyrwyr ymarfer amrywiaeth o godiadau allweddol a gwella eu sgiliau hyfforddi.

Mae gan y gofod hwn un adran wedi'i chyfarparu ar gyfer datblygu cryfder corff uchaf gyda meinciau a raciau codi pwysau, ac un arall wedi'i ddynodi ar gyfer sesiynau ymarferol cynhesu ac adsefydlu.

Dyswch fwy am gyfleusterau Ysgol Chwaraeon a Gwyddor Iechyd Caerdydd.

Cyllid

Mae gan y Ganolfan ystod o brosiectau ymchwil cyfredol a cheisiadau ymchwil newydd sy'n cynnwys y sefydliadau canlynol:

Partneriaid

Staff allweddol

Cyhoeddiadau diweddaraf

Gweler y cyhoeddiadau diweddaraf gan y Ganolfan.

Straeon CASSM o flog Met Caerdydd

Dysgwch fwy

Ewch i dudalen chwiliwr ymchwil CASSM i ddysgu mwy am ei aelodau, allbynnau ymchwil, cydweithrediadau a sut mae ei waith yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.