Mae'r Ganolfan Iechyd, Imiwnoleg, Microbioleg a'r Amgylchedd (CIIMA) yn dwyn ynghyd arbenigwyr mewn gwyddor fiolegol, iechyd galwedigaethol, amgylcheddol ac iechyd y cyhedd i wella bywydau'r boblogaeth yma yng Nghymru a thu hwnt.
Wedi'i leoli yn y Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, mae'r Ganolfan yn canolbwyntio ar wella iechyd drwy fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chlefydau trosglwyddadwy, amodau gwaith a byw, diogelwch bwyd a ffactorau amgylcheddol.
Mae'r Ganolfan yn croesawu cyfleoedd ymchwil annibynnol a chydweithredol, yn ogystal â darparu astudiaethau dichonoldeb, ymchwil contract a gwasanaethau masnachol i sefydliadau ledled y DU.
Grwpiau a chanolfannau
Mae CIDA yn grŵp o academyddion, ymchwilwyr a staff ymgynghori proffesiynol sy'n ymroddedig i asesu a datrys materion sy'n ymwneud ag iechyd galwedigaethol ac amgylcheddol – yn bennaf y rhai sy'n ymwneud â bioaerosolau (gronynnau a gludir yn yr awyr fel bacteria neu ffyngau a all achosi problemau iechyd difrifol).
Mae'r ganolfan yn archwilio iechyd a bywiogrwydd yr amgylchedd naturiol, gan archwilio'r berthynas rhwng ecosystemau iach a llesiant corfforol a meddyliol y bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt.
Mae'r grŵp hwn yn ymchwilio i bathogenau dynol sy’n deillio o facterial, ffyngau a firysau. Mae ei astudiaethau yn cwmpasu pathogenau sy'n effeithio ar amrywiaeth o wahanol systemau organau, ymatebion imiwnedd lletywyr, a datblygu triniaethau gwrthficrobaidd synthetig a naturiol.
Mae gan y grŵp ddiddordeb hefyd mewn gweithredu technolegau arloesol a chynaliadwy i greu dyfeisiau a thriniaethau biofeddygol bio-sylfaenol, sy'n gysylltiedig â bioeconomi gylchol (lle mae adnoddau biolegol yn cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu i leihau gwastraff a chefnogi iechyd amgylcheddol hirdymor).
I gynnal ei ymchwil, mae'r grŵp yn defnyddio ystod o offer a chyfleusterau arbenigol, gan gynnwys labordy sy'n gallu cynhyrchu geliau bio-seiliedig a myco-deunyddiau, ochr yn ochr â thechnegau dadansoddol i werthuso cynhyrchion naturiol.
Mae'r grŵp yn arwain cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol gyda phartneriaid diwydiant, academaidd a chlinigol sy'n cefnogi cymuned labordy fywiog o fyfyrwyr PhD, meistr ac israddedig.
Mae ei arbenigedd amrywiol yn caniatáu iddo fynd i'r afael â heriau ymchwil cyfoes, gan gynnwys ymwrthedd gwrthficrobaidd, heintiau anadlol mewn plant, heintiau’r llwybr wrinol sydd ag ymwrthedd i’r prif gyffuriau a heintiau clwyfau cronig.
Mae'r grŵp hwn yn canolbwyntio ar ddeall yn well yr effaith a'r cyfyngiadau sydd gan risgiau iechyd galwedigaethol, amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ar ansawdd bywyd yn y gwaith ac mewn mannau cyhoeddus.
Mae ei waith yn rhychwantu'r byd, gyda phrosiectau lleol yma yng Nghymru, yn ogystal â chydweithrediadau â llywodraethau lleol a chenedlaethol a phartneriaid diwydiannol yn y DU, Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol.
Mae’r Grŵp Ymchwil Osôn yn cydweithio ag arbenigwyr diwydiant, sefydliadau academaidd a chyrff llywodraethu i leihau nifer y pathogenau a gludir yn yr awyr ac ar yr wyneb mewn adeiladau clinigol a domestig mewn ystod eang o leoliadau, megis amaethyddiaeth a phrosesu bwyd.
Mae'n gwneud hyn trwy ddefnyddio nwyosôn neu dd ŵr osôn i ddiheintio bacteria, firysau a ffyngau fel y gall sefydliadau fodloni safonau rheoleiddio.
Gan weithio ochr yn ochr â mentrau bach a chanolig (BBaChau) a chymdeithasau masnach, mae'r grŵp yn darparu map ffordd rheoleiddio ar gyfer cymeradwyo dyfeisiau diheintio newydd sy'n defnyddio cemegau traddodiadol ochr yn ochr â golau osôn ac uwchfioled-C (UVC).
Mae ganddo hefyd gyfleusterau unigryw, arbenigol ar gyfer diheintio aer dan do a bioffilmiau diwydiannol.
Cyfleusterau arbenigol
Wedi'i leoli ar gampws Llandaf Met Caerdydd, mae cyfleuster ymchwil y Ganolfan wedi'i leoli o fewn labordy microbioleg bioddiogelwch categori II.
Mae hyn yn galluogi'r Ganolfan i ddefnyddio pathogenau dynol yn ei waith profi. Mae ganddo gasgliad straen o dros 300 o ficro-organebau – gan gynnwys llyfrgell Listeria spp – a mynediad at ystod eang o offer dadansoddol a microbiolegol i ddiwallu anghenion sefydliad orau.
Gall siambr brofi ac offer y Ganolfan fonitro crynodiadau osôn o 0.01 i 500 ppm, yn ogystal â defnyddio methodoleg brawf tuag at Achrediad BS EN 17272:2020.
Mae gan y Ganolfan hefyd fynediad at adweithyddion bioffilm pwrpasol i efelychu diheintio bioffilm mewn prosesu bwyd (glân yn ei le), arwynebau diwydiannol (bioffilmiau gwlyb a sych) a chymwysiadau fel tyrau oeri dŵr a systemau HVAC.
Offer sy'n arwain y diwydiant
Mae'r Ganolfan yn cynnal dau blatfform offer:
Mae'r platfform offer hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn helpu i hyrwyddo cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.
Mae ar gael i bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol y Ganolfan sy'n ceisio lleihau gwastraff bwyd neu drosi biomas - fel planhigion neu wastraff - yn danwydd neu gemegau gwerthfawr eraill.
Mae'r gyfres hon o offer dadansoddol yn pennu hunaniaeth a maint cyfansoddion cemegol sy'n deillio o'r naturiol. Gall echdynnu a nodweddu cynhyrchion o hunaniaeth hysbys neu anhysbys o ddeunyddiau naturiol, yn ogystal â datgelu nodweddion ffisegol penodol geliau a deunyddiau.
Mae ganddo hefyd brofwr straen planhigion sy'n mesur iechyd a bywiogrwydd planhigion, gan ddarparu mewnwelediadau i iechyd cyffredinol amgylchedd i blanhigion a phobl.
Partneriaethau allweddol
- The European Ozone Trade Association
- Ozone Industries
- Biozone Scientific
- InBio
- Y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZER2FIVE
Cyllidwyr allweddol
Staff allweddol
Beth am gyflogi myfyriwr graddedig ar gyfer swydd iechyd, diogelwch neu’r amgylchedd
Trwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) gall busnesau gydweithio â Met Caerdydd a'i graddedigion ar brosiect strategol sy'n defnyddio gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd y Brifysgol.
Gall y Ganolfan eich helpu i nodi prosiect a myfyriwr graddedoig addas ar gyfer PTG a'ch arwain trwy'r broses ymgeisio.
Unwaith y bydd y prosiect ar waith, bydd y Ganolfan yn darparu cefnogaeth weinyddol lawn ac yn trefnu cyfarfodydd pwyllgor rheoli rheolaidd i fonitro cynnydd a chyllideb y graddedig.
Darganfyddwch fwy am y PTG gyda Met Caerdydd.
Cyhoeddiadau diweddaraf
Gweler y cyhoeddiadau diweddaraf gan y Ganolfan.
Rhagor o wybodaeth
Dewch i dudalen archwilio ymchwil CHIME i ddysgu mwy am ei aelodau, allbynnau ymchwil, cydweithrediadau a sut mae gwaith y Ganolfan yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.