Skip to content

Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru

Mae Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (CYTC), sy’n rhan o Ysgol Reoli Caerdydd, yn cynnal ymchwil effeithiol sy’n llywio polisi ar draws ystod amrywiol o bynciau yn y sectorau twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • datblygu lleoliad
  • ymdeimlad o le
  • twristiaeth wledig a digwyddiadau
  • dangosyddion cynaliadwyedd
  • digideiddio twristiaeth
  • lletygarwch a digwyddiadau
  • cynnwys pobl â nam ar eu golwg mewn twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau
  • ystyr ac arwyddocâd twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau ym mywydau grwpiau ymylol a heb eu grymuso.
Two people stand in front of banners featuring the logos of Cardiff Met and WCTR. They are engaged in conversation.

Mae gwaith CYTC yn rhychwantu’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yng Nghymru a thu hwnt.

O ganlyniad, mae CYTC wedi meithrin partneriaethau cryf gyda’r gymuned dwristiaeth ryngwladol a’r sefydliadau hynny sy’n agosach at adref. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru (megis Cyngor Caerdydd, a gomisiynodd y CYTC i gynnal ymchwil gwerthuso digwyddiadau), Llywodraeth Cymru, Croeso Cymru, Digwyddiadau Cymru a The Wallich.

Roedd CYTC hefyd yn bartner yn y Gynghrair Cenhedlaeth Twristiaeth Nesaf (Cymru). Mae’r prosiect UE €4 miliwn hwn yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau mewn twristiaeth a sectorau cysylltiedig, gan ganolbwyntio ar wella sgiliau digidol, cymdeithasol a chynaliadwyedd.

Mae ei hymchwilwyr wedi arloesi methodoleg gwerthuso effaith digwyddiadau, sydd wedi’i chymhwyso’n llwyddiannus i ddigwyddiadau proffil uchel fel Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Ras Fôr Volvo a Gŵyl Ddinas Gerdd Caerdydd.

Aelodaeth diwydiant

Staff allweddol

Dyfarniadau

Derbyniodd Dr Karen Davies Wobr Literati Adolygydd Eithriadol Emerald Publishing ar gyfer 2024 gan yr International Journal of Event and Festival Management.

Dyfarnwyd Erthygl y Flwyddyn 2025 gan y Journal of Hospitality & Tourism Education i Dr Kasha Minor, Dr Emmet McLoughlin, ynghyd â Dr Sheena Carlisle, am eu herthygl, ‘The Digital Skills Gap – Is it Time to Rethink the Needs of Tourism and Hospitality Organisations in the UK?’ Rhoddwyd y wobr gan Bwyllgor Ymchwil y Cyngor Rhyngwladol ar Addysg Gwestai, Bwytai a Sefydliadol.

Mwy o wybodaeth

Ewch i dudalen archwilio ymchwil CYTC i ddysgu mwy am ei aelodau, allbynnau ymchwil, cydweithrediadau a sut mae ei waith yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.