Efrydiaeth PhD: Darlunio mewn Gwneud Penderfyniadau Gofal Iechyd
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gynnig pedair ysgoloriaeth ymchwil Lles wedi'u hariannu'n llawn ar: Ymgorffori darlunio wrth gyd-gynhyrchu cymorth penderfynu atal a rheoli heintiau ar gyfer pobl â Ffeibrosis Systig
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil yn rhan o brosiect Lles AHRC, a fydd yn ariannu 28 o ysgoloriaethau ymchwil ar draws prifysgolion Cymru. Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon yn dechrau ym mis Hydref 2026.
Consortiwm o holl brifysgolion Cymru yw Lles, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Bydd yn ariannu ac yn hyfforddi myfyrwyr PhD i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â lles drwy'r celfyddydau a'r dyniaethau. Lles yw'r gair Cymraeg am 'benefit' neu 'wellbeing'. Mae ei ddefnydd yma'n nodi sut bydd myfyrwyr Lles yn elwa o'r hyfforddiant a datblygiad gyrfa a sut bydd eu gwaith ymchwil ar les er budd y gymdeithas ehangach yng Nghymru a'r tu hwnt.
Bydd Lles a'i ysgoloriaethau ymchwil yn cael eu tywys gan uchelgais, egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn unigryw yn fyd-eang ac mae'n gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i bennu amcanion a chymryd camau i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn erbyn saith nod: ffyniant, gwydnwch, cydraddoldeb, iechyd, cymunedau cydlynus, diwylliant ac iaith Gymraeg bywiog, cyfrifoldeb byd-eang. Nod Lles yw defnyddio'r celfyddydau a'r dyniaethau i fodloni a deall y nodau hyn.
Bydd Lles yn ariannu 28 o ysgoloriaethau ymchwil PhD ar draws pedair carfan. Bydd ysgoloriaethau ymchwil Lles yn archwilio ac yn dangos sut gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at blaned, pobl a lleoedd iach. Wrth wraidd y prosiect ceir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Lluniwyd y ddeddfwriaeth unigryw hon i wella lles a chynaliadwyedd pobl a lleoedd yng Nghymru. Nod sylfaenol Lles yw gweithio gyda'r weledigaeth honno a'i symud ymlaen. Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael hyfforddiant unigryw ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru am y Ddeddf, a'i phum ffordd o weithio a sut gall y rhain gael eu defnyddio mewn bywyd cyhoeddus a pholisi. Bydd pob myfyriwr Lles yn cael lleoliad cynaledig gyda chorff yng Nghymru lle byddan nhw'n datblygu eu gwaith ymchwil a'u profiadau cyflogaeth.
Trosolwg o’r Prosiect
Bydd y PhD rhyngddisgyblaethol hwn yn archilio’r defnydd o ddarlunio, gyda’r darlunydd yn gweithredu fel y cyswllt rhwng cleidio a darparion meddygol, i gyd-gynhyrchu cymorth penderfynu i’w defnyddio gan y claf fydd yn cefnogi Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd (Shared Decision Making, SDM) mewn perthynas ag argymhellion Atal a Rheoli Heintiau (Infection and Prevention Control, IPC) newydd ar gyfer pobl sydd â Ffeibrosis Systig (FfS).
Mae FfS yn anhwylder genetig sy'n achosi niwed i'r ysgyfaint, y pancreas ac organau eraill yn y corff, gan effeithio ar dros 11,000 o bobl yn y DU. Mae pobl â FfS yn agored iawn i facteria niweidiol penodol ac mae angen iddynt gymryd rhagofalon ychwanegol i leihau eu risg o haint. Er enghraifft, mae pobl â FfS yn cael eu hannog yn gryf i beidio â chwrdd â'i gilydd wyneb yn wyneb (oni bai eu bod yn byw ar yr un aelwyd) oherwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â chroes-heintio. Mae hyn yn rhwystro rhannu profiadau, gan greu'r angen i hwyluso cyfathrebu anuniongyrchol rhwng cleifion.
Mae SDM yn broses gydweithredol lle mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion yn cydweithio i wneud penderfyniadau iechyd. Mae ymchwil yn dangos y gall ymgorffori darlunwyr yn rhan o dîm amlddisgyblaethol gefnogi cyd-gynhyrchu dilys cynorthwywyr SDM trwy gofnodi profiad claf, gan rymuso cleifion i ystyried a chyfleu eu dewisiadau, eu gwerthoedd a'u hanghenion gyda'u timau gofal iechyd.
Gyda chanllawiau rhyngwladol newydd ar gyfer IPC FfS i'w cyhoeddi yn 2026, mae angen offer gwneud penderfyniadau i gefnogi unigolion â FfS a'u timau gofal iechyd i deilwra gweithredu argymhellion newydd i anghenion unigolion.
Ar gyfer y PhD hwn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grwpiau cyd-gynhyrchu yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, unigolion â FfS a'u teuluoedd.
Gan ganolbwyntio ar un elfen allweddol o ganllawiau newydd IPC FfS, bydd yr ymchwil hwn yn profi model ar gyfer integreiddio darlunio naratif i ddatblygu cymhorthion SDM. Bydd hyn yn dilyn dull dau gam i (1) ymgysylltu mewn proses ailadroddus, fanwl yn seiliedig ar gyfnewid gwybodaeth, ymddiriedaeth, cyfathrebu ac empathi i ddatblygu a darlunio cymorth SDM a (2) cynnal gwerthusiad dulliau cymysg yn asesu ymarferoldeb a derbynioldeb y model.
Bydd y PhD dan oruchwyliaeth Dr Rhiannon Phillips a Dr Debbie Savage ac chynghorwyd gan Amelia Huw Morgan.
Lleoliad
Rhaid i holl fyfyrwyr Lles ymgymryd â lleoliad am o leiaf dri mis. Ar gyfer y prosiect hwn, bydd y lleoliad yn digwydd yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan, Ysbyty Prifysgol Llandochau. Dyma'r unig ganolfan i oedolion yng Nghymru ac mae'n darparu gofal arbenigol, amlddisgyblaethol, gan gynnwys fferyllfiaeth, ffisiotherapi, deieteg a nyrsio clinigol i dros 350 o gleifion â Ffeibrosis Systig. Wedi’i gefnogi gan Dr Jamie Duckers, bydd y lleoliad yn darparu’r canlynol i'r myfyriwr:
- Profiad uniongyrchol o sut mae'r uned yn gweithredu, profiad clinigwyr a chleifion, yn ogystal â phrofiadau o weithio gyda thimau bach i gael effaith ar newid o fewn sefydliad mwy o faint.
- Darparu cysylltiadau ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, CF Trust, a rhwydweithiau ymchwil a chlinigol rhyngwladol sefydledig.
- Darparu cyfleoedd i gysylltu â gweithgareddau addysg a hyfforddiant cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Bydd y lleoliad hefyd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar oblygiadau ffenomenolegol gweithio gyda darlunio i adeiladu profiad sensitif ystyrlon ac edrych ar ddulliau ymchwil newydd sy'n archwilio profiad darlunio, ochr yn ochr â ffenomenoleg athronyddol, ac ymarfer gwyddor ddynol.
Gweminar i ymgeiswyr
Cynhelir gweminar i'r ymgeiswyr ar 3 Mawrth am 4pm. Dyma gyfle i drafod prosiect Lles a gofyn cwestiynau. I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch y ffurflen yma https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/swansea/lles-q-a
Meini Prawf Mynediad
I gael cyllid ysgoloriaeth ymchwil Lles, dylech feddu ar gymwysterau neu brofiad sydd gyfwerth â gradd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Ni chodir tâl y gwahaniaeth mewn ffioedd rhwng cyfradd y DU a rhyngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Lles yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Asesiad
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan banel. Gellir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, ond dylent fod ar gael hefyd dros Zoom/Teams i'r holl fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan drwy'r cyfryngau hynny. Rydym yn gallu talu am gostau teithio a llety dros nos ar gyfer cyfweliadau. Ar gais, gellir cynnal y cyfweliadau yn Gymraeg.
Sut i gyflwyno cais
Rhaid i geisiadau, gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol, gael eu derbyn erbyn 27 Mawrth 2026 i csadresdegrees@cardiffmet.ac.uk.
Rhaid i'ch cais gynnwys:
- CV- Gall hyn fod ar ffurf naratif, gan ddangos sut rydych wedi ymgymryd â phrofiad, taith addysgol a/neu waith sy'n arddangos eich potensial
- Datganiad sy'n nodi eich diddordeb yn y prosiect hwn, eich syniadau ar ei gyfer a'ch addasrwydd i ymgymryd ag ef (uchafswm o 2 dudalen)
- Geirdaon academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr ofyn i ganolwyr a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau. Rhaid i'r geirda gynnwys manylion am gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o hyfedredd yn Saesneg
Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hystyried.
Yn dilyn’r proses ddethol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwahoddiad i gofrestru ar ein rhaglen PhD drwy ein porth ymgeisio Hunanwasanaeth. Yma bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac uwchlwytho'r holl ddogfennaeth.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr AHRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Croesewir ceisiadau amser llawn a rhan-amser. Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Ariennir yr ysgoloriaeth ymchwil hon fel rhan o ddyfarniad doethurol ehangach a ariennir gan yr AHRC o'r enw "Lles"