Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Datganiad Hygyrchedd

  1. Cwmpas a pherthnogaeth
  2. Uchafbwyntiau hygyrchedd
  3. Defnyddio'r wefan eich ffordd chi
  4. Newid y dangosydd
  5. Rheoli'r bysellfwrdd
  6. Llywio'r darllenydd sgrin
  7. Cyfngiadau hygyrchedd
  8. Fformatau gwahanol
  9. Adborth a manylion cyswllt
  10. Cwynion a gorfodi
  11. Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
  12. Statws Cydymffurfio
  13. Cynnwys nad yw'n hyrgyrch
  14. Baich anghymesur
  15. Cynnwys tu hwnt i gwmpas y rheoliad hygyrchedd
  16. Sut wnaethon ni i brofi a beth rydyn ni'n ei wneud i wella
  17. Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cwmpas a Pherthnogaeth

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cardiffmet.ac.uk a ddatblygwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Rydym wedi cynllunio ein gwefan i ganiatáu i bob defnyddiwr waeth beth fo'u technoleg neu'r gallu i gyrchu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Rydym wrthi'n gweithio i gynyddu hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan yn seiliedig ar Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.0 AA drwy gaffael platfform gwefan newydd. Mae'r problemau rydym wedi'u nodi o ran hygyrchedd y wefan bresennol, wedi'u rhestru yn y datganiad hwn.

Mae gan rai rhannau o'n gwefan fformat a strwythur ychydig yn wahanol. Mae pob tîm ac ysgol academaidd yn gyfrifol am greu cynnwys. Lle nodir problemau hygyrchedd, rydym yn gweithio gyda Timau'r Brifysgol i ddarparu cymorth a hyfforddiant a fydd yn mynd i'r afael â'r rhain. Os oes gennych ymholiad penodol am ardal ar ein safle, a wnewch chi gysylltu â ni.

Uchafbwyntiau Hygyrchedd

Wrth ddefnyddio'r wefan hon gallwch:

  • Ddefnyddi cyfuniad o liwiau gyda lefel dda o gyferbyniadau - gweler yr adran 'Newid y dangosydd' i gael rhagor o wybodaeth am sut i addasu hyn i ddewis yr unigolyn
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio'r bysellfwrdd - gweler yr adran 'Rheoli'r bysellfwrdd' i gael rhagor o wybodaeth am allweddi safonol
  • Defnyddio dewisiadau amgen testun ar gyfer cynnwys nad yw'n destun
  • Defnyddio dolen sgip i neidio'n syth i'r cynnwys
  • Llywio'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin fel JAWS neu NVDA - gweler yr adran 'Llywio'r darllenydd sgrin' am ragor o wybodaeth
  • Llywio'r wefan gan ddefnyddio adnabod llais

Defnyddio'r wefan eich ffordd chi

Mae My Computer My Way gan Abilitynet yn darparu cyngor a gwybodaeth ar sut i addasu eich dyfais i'ch dewisiadau personol. Gallwch hefyd ddefnyddio'r wybodaeth isod i deilwra sut rydych yn edrych ar y wefan hon.

Newid y Dangosydd

Gallwch ddefnyddio'r rheolyddion yn eich porwr i newid maint y testun neu ymddangosiad yr arddangosfa. Er enghraifft yn Chrome:

  • Agor y porwr Chrome
  • Dewis y tri dot fertigol yng nghornel dde uchaf y ffenestr, yna dewiswch 'Settings' o'r gwymplen
  • Llywio'r gosodiad rydych am ei newid a dewis eich dewisiadau
  • Gallwch hefyd bori drwy'r opsiynau hygyrchedd o'r ddewislen ar ochr chwith y ffenestr gosodiadau ac estyniadau porwr hygyrch sy'n caniatáu unigoli'r arddangosfa ymhellach

Rheoli'r Bysellfwrdd

Gallwch lywio drwy'r wefan hon gan ddefnyddio'r bysellau safonol ar gyfer eich porwr, ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhain yw:

  • Allwedd 'Tab' i ganolbwyntio ar y ddolen nesaf
  • 'Shift' +' Tab 'i ganolbwyntio ar y ddolen flaenorol
  • 'Enter' i actifadu'r ddolen bresennol

Llywio'r Darllenydd Sgrin

Penawdau

  • 'H' i symud ymlaen drwy'r penawdau
  • 'Shift' +' H 'i symud tuag yn ôl drwy'r penawdau
  • '1' i lywio i'r pennawd lefel 1 nesaf (neu rif rhwng 1 a 6 i lywio i'r pennawd nesaf ar y lefel hon)
  • 'Shift' + '1' i lywio i'r pennawd lefel 1 blaenorol (neu rif rhwng 1 a 6 i lywio i'r pennawd blaenorol ar y lefel hon)
  • 'Insert' + 'F6' yn JAWS neu NVDA + 'F7' yn NVDA i ddarparu rhestr o'r holl benawdau

Dolenni

  • Pwyswch y fysell 'Tab' i symud ymlaen trwy'r dolenni neu 'Shift' + 'Tab' i symud yn ôl trwy'r dolenni.
  • 'Insert' + 'F7' i ddarparu rhestr o'r holl ddolenni

Tirnodau

Ar gyfer llywio bysellfwrdd nodedig JAWS 10-12 mewn modd rhithwir yw:

  • tirnod nesaf ';' (hanner colon)
  • tirnod blaenorol 'Shift' + ';' (hanner colon)
  • rhestr o dirnodau 'Ctrl' + 'Ins' + ';' (hanner colon)
  • Ar gyfer NVDA 2011.2 y cyfuniad bysellfwrdd tirnod yn y modd byffer rhithwir yw:
  • tirnod nesaf 'D'
  • tirnod blaenorol 'Shift' + 'D'
  • rhestr o'r tirnodau (a rhestr/penawdau) NVDA + 'F7'
  • Gall defnyddwyr Troslais (VoiceOver) lywio tudalen trwy dirnodau trwy ddewis 'tirnodau' yn y 'rotor gwe', yna bydd fflicio'r bys i fyny neu i lawr yn symud i'r tirnod nesaf neu flaenorol.

Cyfngiadau Hygyrchedd

Nid yw tabiau acordion a ddefnyddir i ddangos agweddau ar wybodaeth cwrs yn hawdd eu llywio drwy ddefnyddio bysellfwrdd â bysellau porwr safonol. Efallai y bydd angen i chi symud trwy'r tabiau acordion gan ddefnyddio bysellau saeth/i fyny/i lawr hefyd.

Fformatau Gwahanol

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain, gallwch gysylltu â'r adran sy'n gysylltiedig â'r dudalen rydych yn edrych arni, cysylltu â ni yn uniongyrchol neu ddefnyddio un o'r swyddogaethau mewnol yn eich system weithredu:

Adborth a Manylion Cyswllt

Os hoffech gysylltu â ni yn uniongyrchol ynglŷn â fformatau gwahanol neu os oes unrhyw broblemau hygyrchedd nad ydynt wedi'u rhestru yn y datganiad hwn yr hoffech roi gwybod i ni amdanynt, cysylltwch â ni drwy:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn anelu at ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith

Os na allwch weld y mapiau ar unrhyw un o'n tudalennau, cysylltwch â ni am gyfarwyddiadau

Cwynion a Gorfodi

Os ydych wedi gofyn am fformat gwahanol neu wedi rhoi gwybod i ni am broblem gyda'n gwefan ac nad ydych yn hapus â'n hymateb, cysylltwch â ni i roi gwybod a byddwn yn ystyried rhagor o wybodaeth a chymorth y gallwn eu darparu ar eich cyfer.

Gweithdrefn orfodi - Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth Dechnegol am Hygyrchedd y Wefan hon

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 - safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n Hyrgyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

  • Nid oes gan rai delweddau ddewis o destun cyfatebol, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gyrchu'r wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys nad yw'n destun). Rydym yn parhau i wella hyn.
  • Pan fydd fideos yn cael eu rhoi ar YouTube yna mae capsiynau awtomatig ar gael ac rydym wedi darparu capsiynau agored ychwanegol mewn rhai achosion. Os byddwch yn dod ar draws fideo heb gapsiynau ac angen cymorth i gyrchu'r cynnwys, yna cysylltwch â ni a byddwn yn darparu'r wybodaeth mewn fformat arall. Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus.
  • Nid yw rhai platfformau meddalwedd trydydd parti yn bodloni'r holl feini prawf hygyrchedd gofynnol; er enghraifft, mae ein ffurflenni wedi'u hadeiladu a'u cynnal trwy feddalwedd trydydd parti ac nid yw pob un wedi'i labelu'n briodol i alluogi llywio gan ddefnyddio'r bysellfwrdd yn unig neu'n hygyrch gyda darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd). Rydym yn gweithio gydag Ysgolion a Thimau'r Brifysgol yn ogystal â'n darparwyr trydydd parti i gywiro hyn.
  • Mae rhai o'n PDFs heb deitl dilys. Mae hyn yn methu WCAG 2.4.2 Tudalen â Theitl (A). Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus.
  • Mae angen tagio rhai o'n ffeiliau PDF mewn trefn ddarllen ddilys er mwyn sicrhau hygyrchedd. Mae hyn yn methu â chyflawni WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A). Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus.

Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad ydym wedi'i nodi eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r opsiynau a rhestrir yn adran 'Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.

Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth gan ein prosesau archwilio parhaus a defnyddwyr y wefan.

Baich Anghymesur

Nid ydym yn hawlio ar gyfer baich anghymesur ar gyfer ein gwefan.

Cynnwys tu hwnt i Gwmpas y Rheoliad Hygyrchedd

Efallai na fydd PDF a gyhoeddwyd cyn 09/2018 nad ydynt yn hanfodol i'n gwasanaethau yn bodloni safonau hygyrchedd. Wrth i ni ddisodli neu gael gwared ar y rhain byddwn yn diweddaru ac yn bodloni safonau hygyrchedd.

Mae rhai agweddau ar ein gwefan yn cynnwys cynnwys trydydd parti. Rydym yn gweithio gyda'n darparwyr i fodloni safonau hygyrchedd a byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon ar y tudalennau hynny ac yn gwneud ein gorau glas i wella a disodli cynnwys nad yw'n hygyrch. Mae SearchBOX yn gyfeirlyfr annibynnol o wybodaeth hygyrchedd cyflenwyr trydydd parti.

Sut wnaethon ni i brofi a beth rydyn ni'n ei wneud i wella

Mae'r wefan hon wedi cynnal archwiliadau a gynhaliwyd gan AbilityNet yn ogystal â phrofion mewnol.​

Paratoi'r Datganiad Hygyrchedd hwn

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 01/05/2025. Paratowyd y datganiad hwn ar 01/05/2025.

Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 12/09/2025​​.

Mae'r datganiad hygyrchedd hon yn cael ei hadolygu'n flynyddol.