Skip to content

Cyngor Ysgol Gelf a Dylunio i Ymgeiswyr

A vibrant wall hanging featuring an array of colorful pieces arranged in an artistic design. A vibrant wall hanging featuring an array of colorful pieces arranged in an artistic design.
01 - 02

Yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd rydym yn cynnig lleoedd yn seiliedig ar bortffolio, oherwydd rydym yn gwybod ei fod yn ymwneud â mwy na chanlyniadau arholiadau yn unig. Rydym eisiau dod i'ch adnabod chi fel person, fel artist, dylunydd, neu wneuthurwr.

Mae gweld eich portffolio yn ein helpu i wneud yn siŵr bod ein cwricwlwm arloesol a'n cymuned gefnogol yn addas i chi. Rydym yn chwilio am arwyddion eich bod yn frwdfrydig ac yn chwilfrydig, ochr yn ochr â'ch sgiliau a'ch potensial fel meddyliwr creadigol.

Mae'r broses ymgeisio ychydig yn wahanol yn dibynnu ar y cwrs rydych wedi gwneud cais amdano, ond fel arfer mae'n cynnwys rhannu eich portffolio yn ystod sgwrs hamddenol gydag aelod o'r tîm. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams, a byddwch yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ôl i chi wneud cais. Mae'n anffurfiol, does dim angen bod yn nerfus - rydyn ni eisiau i chi deimlo'n gyfforddus, byddwch yn chi'ch hun.

Mae eich portffolio yn gyfle i ddangos sut rydych chi'n meddwl, yn creu ac yn arbrofi. Gall gynnwys darnau rydych chi wedi gweithio arnyn nhw yn yr ysgol neu'r coleg, neu waith personol rydych chi wedi'i greu i chi'ch hun.

Mae'n well teilwra'ch portffolio i'r cwrs rydych chi'n gwneud cais amdano, ond mae yna rai pethau cyffredinol sy'n ddefnyddiol i'w cynnwys, does dim ots pa bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

5 awgrym ar gyfer dod â'ch portffolio at ei gilydd:

  • Tystiolaeth o ystod o sgiliau – Gallai hyn fod yn lluniadu, ffotograffiaeth, peintio, gwneud marciau 2D, cyfansoddi, neu enghreifftiau o wneud 3D fel gwrthrychau, cerfluniau, tecstilau neu gynhyrchion. Gallech hefyd gynnwys gwaith delweddau symudol sy'n cael ei gynnal ar wefannau fel YouTube.
  • Syniadau a datblygiad – Cynhwyswch lyfrau braslunio, nodiadau, profion, a gwaith sydd ar y gweill yn ogystal â darnau gorffenedig. Mae'n rhoi cipolwg go iawn o’ch diddordebau, eich proses, a'ch creadigrwydd.
  • Ansawdd dros nifer – Rhan o baratoi portffolio da yw penderfynu beth i'w hepgor. Mae'n well dangos detholiad meddylgar yn hytrach na phopeth rydych chi erioed wedi'i wneud, felly dewiswch eich darnau gorau a mwyaf perthnasol.
  • Eich arbrofion – Dangoswch i ni amser lle gwnaethoch roi cynnig ar rywbeth newydd, neu gymryd risg, hyd yn oed os na lwyddodd. Mae hyn yn dangos i ni y gallwch chi weithio y tu allan i'ch parth cysur ac yn dangos chwilfrydedd.
  • Gadewch bethau allan – Peidiwch â chynnwys gwaith nad ydych yn falch ohono neu nad yw'n adlewyrchu eich gallu. Mae hefyd yn bwysig osgoi ailadrodd, neu unrhyw beth wedi'i gopïo nad yw'n dangos eich meddwl eich hun.

Cofiwch, nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd. Rydyn ni eisiau gweld sut rydych chi'n meddwl, a sut rydych chi'n ymdrin â heriau.


Gwyliwch y fideo esboniadol hwn am ragor o wybodaeth:


Sut i greu portffolio electronig

Y ffordd symlaf o roi portffolio i ni yw anfon ffeil PDF atom drwy e-bost – byddwn yn dweud wrthych ble i anfon hwn ar ôl i chi wneud cais. Er mai PDF yw ein fformat dewisol, gallwn hefyd dderbyn dolen i wefan portffolio os oes gennych un.

Os yw eich ffeil yn arbennig o fawr ac na ellir ei hanfon drwy e-bost, mae’n bosib y bydd angen i chi ei hanfon drwy wefan rhannu ffeiliau megis WeTransfer. Lawrlwythwch ein canllaw ar gyfer Using Microsoft PowerPoint to Create a PDF Portfolio.


Cwrs Adeiladu Portffolio ar gyfer Myfyrwyr sy'n Dyheu | Oedran 16–18

Eisiau codi eich portffolio gyda gwaith ymarferol, creadigol a chynaliadwy? Ymunwch â'n Cwrs Adeiladu Portffolio - rhaglen tair sesiwn, a fydd yn digwydd ar ddyddiau Sadwrn, a gynlluniwyd i'ch helpu i lunio portffolio cymhellol, parod ar gyfer y brifysgol gan ddefnyddio technegau mynegiannol, arbrofol a digidol.

Yn rhedeg drwy mis Tachwedd 2025, gallwch ffeindio allan mwy ac archebu lle yma.

Os gofynnwyd i chi fynychu adolygiad portffolio, dyma'ch cyfle i rannu gwaith gyda ni ac i drafod eich cais.

Dyma sut i gael y gorau o'ch adolygiad:

  • Gwnewch ychydig o baratoadau – Cymerwch olwg ar y wybodaeth ar dudalennau’r cwrs, ac edrychwch ar ein Instagram a Blogiau Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth. Bydd yn rhoi ymdeimlad go iawn am YGDC ac yn eich helpu i deimlo'n fwy parod.
  • Gofynnwch – Mae adolygiad portffolio hefyd yn gyfle i chi ddysgu mwy amdanom ni. Gallech ofyn am bethau fel lleoliadau, prosiectau, teithio, neu sut beth yw bywyd yma yn YGDC. Cofiwch – mae'n bwysig eich bod chi'n dod o hyd i'r lle cywir i chi.
  • Byddwch yn chi'ch hun – Nid cyfweliad swydd mohono o gwbl – nid ydym yn disgwyl i chi wisgo siwt! Rydyn ni eisiau gweld eich angerdd, eich creadigrwydd, a chwrdd â'r chi go iawn.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw – Darllenwch drwy’r wybodaeth rydyn ni’n ei hanfon atoch chi a rhowch ddigon o amser i chi’ch hun i baratoi – byddwch yn teimlo’n llawer mwy hamddenol os nad ydych yn rhuthro. Os bydd rhywbeth yn codi ac rydych yn hwyr, rhowch wybod i ni.

Beth os nad ydw i'n dda iawn am dynnu llun?
Mae lluniadu'n ddefnyddiol, ond dim ond un ffordd o fynegi eich hun ydyw. Gallwch gynnwys unrhyw beth o gwbl sy'n dangos eich syniadau a'ch sgiliau perthnasol. Rydyn ni eisiau gwybod sut rydych chi'n meddwl, nid sut rydych chi'n tynnu llun.

Beth os nad oes gen i lyfr braslunio?
Mae hynny'n iawn! Gall braslunio gymryd sawl ffurf, fel cymryd nodiadau, sgrinluniau, neu arbrofi mewn ffyrdd eraill. Rydyn ni eisiau gweld sut rydych chi'n datblygu eich syniadau.

A ddylwn i gynnwys gwaith gorffenedig yn unig?
Ddim o gwbl. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld datblygiad a gwaith arbrofol hefyd. Weithiau mae camau cynnar syniad yn dweud mwy wrthym am eich taith greadigol na'r darn terfynol.

Oes angen i mi esbonio fy ngwaith?
Mae'n ddefnyddiol ychwanegu rhywfaint o gyd-destun at eich gwaith, hyd yn oed os mai dim ond capsiwn byr, nodyn neu deitl ydyw. Mae'n ein helpu i ddeall beth oedd eich ysbrydoliaeth neu’r themâu roeddech chi'n eu harchwilio.

A allaf gynnwys prosiectau personol?
Gallwch. Mae gweld yr hyn rydych chi'n ei greu y tu allan i'r ysgol neu'r coleg yn dangos menter ac angerdd.

Faint ddylwn i ei gynnwys?
Does dim ateb pendant i hyn. Dydyn ni ddim yn rhagnodi beth i'w gynnwys mewn portffolio, ond mae'n bwysig dangos amrywiaeth ac ansawdd, a sgiliau perthnasol i'r cwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi gyda chynnig amodol neu ddiamod. Byddwn hefyd yn hysbysu UCAS fel y gallant ddiweddaru eich proffil ar UCAS Hub.

Os cewch gynnig ddiamod, rydym yn disgwyl i chi barhau â'ch astudiaethau presennol a chwblhau'ch cymwysterau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae eich holl gymwysterau yn bwysig i'ch rhagolygon gyrfa yn y dyfodol, a gallant fod yn hanfodol ar gyfer mynd i mewn i rai proffesiynau. Mae’n bosib y bydd eu hangen arnoch hefyd wrth wneud cais am astudiaeth bellach.

Rydym hefyd yn rhedeg Dyddiau i'r Ymgeisydd yn y gwanwyn, lle byddwch yn gallu ymweld â'n campws a'n cyfleusterau, cwrdd â'r tîm, a chael blas go iawn ar fywyd yma yn YGDC.